BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Aneirin Talfan Davies
Aneirin Talfan Davies

Ganwyd: 1909

Magwyd: Felindre, Henllan, Sir Gaerfyrddin

Addysg: Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr


Darlledwr, golygydd, llenor rhyddiaith ac arloeswr llenyddol

Nid y lleiaf o gymwynasau Aneirin Talfan Davies i lên ein gwlad oedd ei nawdd hael i lu o awduron Cymraeg a Saesneg yn ystod y blynyddoedd a dreuliodd gyda'r BBC.

Ymunodd â'r Gorfforiaeth ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a daeth yn Bennaeth Rhaglenni ym 1966. Yn rhinwedd y swydd honno comisynodd raglenni o naws llenyddol, gan ddefnyddio talentau'r rhan fwyaf o lenorion yn y ddwy iaith.

Dyn diwylliedig a charedig ydoedd, yn wlatgarwr mwyn â'r iaith yn agos at ei galon.

Ganwyd ef ym 1909 yn Felindre, Henllan, Sir Gaerfyrddin, yn fab i weinidog yr Hen Gorff, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr wedi i'r teulu symud i Orseinon yn Sir Forgannwg ym 1911.

Un o'i frodyr oedd Alun Talfan Davies, y barnwr adnabyddus.

Gadawodd yr ysgol pan oedd yn bedair ar ddeg oed i fod yn brentis i fferyllydd a dyna sut yr ennillodd ei damaid am nifer o flynyddoedd.

Menter lenyddol gynnar

Tra'n byw yn Llundain yn y tri degau, bu'n aelod o gapel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Charing Cross, lle ddeffrowyd ei diddordeb mewn llenyddiaeth.

Yn yr un cyfnod cychwynnodd y cylchgrawn Heddiw ar y cyd â'i frawd Alun.

Dychwelodd i Abertawe ym 1938, gan agor busnes fferyllydd ei hun, ond yn ystod y rhyfel fe ddinistriwyd ei siop yn llwyr gan fom Almaenig, ac felly aeth yn ôl i Lundain i gychwyn ar yrfa newydd fel darlledwr.

Ar ddiwedd y rhyfel dychwelodd i Gaerdydd ac ymuno â staff y BBC.

Erbyn hynny roedd Aneirin ap Talfan - yr enw a defnyddiai'n fynych ar gyfer ei weithgareddau llenyddol - wedi ymaelodi yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn y man daeth yn un o leygwyr amlycaf yr eglwys honno.

Diddordebau eang

Roedd yn awdur nifer sylweddol o lyfrau beirniadol a oedd yn eang eu gorwelion ac yn dreiddgar eu cynnwys, rhai ohonynt yn ymdrin â llenyddiaeth yn yr iaith Saesneg.

Yn eu plith y mae Eliot, Pwshcin, Poe (1942) ac <>Yr Alltud (1944), yr unig lyfr hyd yn hyn i drafod gwaith yr athrylyth Gwyddelig.

Ysgrifennodd hefyd am Dylan Thomas, a oedd yn gyfaill iddo, yn Dylan: Druid of the Broken Body (1964), un o'r lyfrau gorau am y bardd ac un a honnodd ei fod, yn y bôn, yn fardd crefyddol.

>Aneirin Talfan Davies yn llywydd y dydd ym 1966Roedd yn gyfaill mynwesol i David Jones hefyd, ac yn ei lyfr David Jones: Letters to a Friend (1979) maent yn trafod pethau Cymreig gydag arabedd.

Yn y Gymraeg roedd Aneirin Talfan Davies yn rhyddieithwr caboledig a swynol.

Ceir ei ysgrifau yn y cyfrolau Sylwadau (1957), Astudio Byd (1967), Yr Etifeddiaeth Dda (1967) a Gyda Gwawr y Bore (1970), a'i feirniadaeth llenyddol yn Gwŷr Llên (1948).

Ychydig o gerddi o'i eiddo sydd ar glawr ond ceir nifer ohonynt, cynnyrch meddwl cyfriniol, yn Y Ddau Lais (ar y cyd â W.H.Rees, 1937) a Diannerch Erchwyn (1976).

Eto gyda ei frawd Alun, sefydlodd gwmni cyhoeddi Llyfrau'r Dryw (Christopher Davies), a'r misolyn Barn, ac fe ysgrifennodd yn gyson i'r cylchgrawn hwnnw(weithiau o dan ffugenwau) ar faterion llenyddol a diwinyddol.

I'r un wasg cyfrannodd ddwy gyfrol, ar Sir Gaerfyrddin a Sir Forgannwg, i'r gyfres Crwydro Cymru.

Meic Stephens

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy