BBC HomeExplore the BBC

GWENER
8fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Scott Quinnell
Scott Quinnell

Ganwyd: 20 Awst 1972

Magwyd: Morriston

Addysg: Ysgol Gyfun Graig, Llanelli


Un o chwaraewyr mwyaf blaenllaw Parc y Strade, Llanelli.

Er gwybodaeth: Oeddech chi'n gwybod fod y Maswr enwog Barry John yn ewythr i Scott?

Bywgraffiad: Mae Scott Quinnell, hen Wythwr Scarlets Llanelli, wedi chwarae rygbi ar y lefel uchaf gan gynrychioli Cymru a'r Llewod. Dydy hyn ddim yn syndod o ystyried ei fod e'n fab i Derek Quinnell, un o sêr y byd rygbi yn y 1960au.

Ymunodd Scott â Chlwb Rygbi Llanelli yn 1990, pan oedd yn ddeunaw oed. Dros y pedair mlynedd canlynol chwaraeodd i'r tîm 146 o weithiau, gan sgorio 32 cais. Yn 1994 fe adawodd Rygbi Undeb ac arwyddodd gytundeb â'r Clwb Rygbi Cynghrair, Wigan, mewn trosglwyddiad gostiodd £400,000. Fe'i gapiwyd i Gymru tra'n dal ym myd Rygbi Cynghrair, cyn dychwelyd i Rygbi Undeb yn 1997 i dîm Richmond. Serch hynny fe ddychwelodd yn fuan i Lanelli yn 1998 pan aeth Richmond allan o fusnes.

Yn 1993 cynrychiolodd Quinnell Cymru am y tro cyntaf, yn erbyn Canada y Mharc yr Arfau, Caerdydd. Yn ddigon rhyfedd roedd y gêm olaf chwaraeodd dros ei wlad hefyd yn erbyn Canada yn 2002. Dros y cyfnod hwn o naw mlynedd fe enillodd 52 cap, sgoriodd 11 cais a chapteiniodd y tîm ar 7 achlysur.

Yn ogystal â hyn bu'n rhan o garfan y Llewod ddwywaith, i Dde Affrica yn 1997 ac Awstralia yn 2001, gan ennill 3 cap a sgorio un cais.

Yn Nhachwedd 2004 fe gyhoeddodd Scott, oedd yn 32 ar y pryd, ei fod am ymddeol o fyd Rygbi proffesiynol, er y byddai'n parhau yn ei rôl fel hyfforddwr ym Mharc y Strade. Mae Scott yn briod â thri o blant.

Ar Fawrth 26 2005, cyhoeddoedd Scott ei fod wedi chwarae ei gêm rygbi cystadleuol olaf oherwydd anaf i'w law. Roedd Scott wedi gobeithio ymddeol ar ddiwedd y tymor 2004/2005.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy