 |
 |
Cyn ymosodwr Cymru, Arsenal, West Ham a Celtic
Mae John Hartson o Celtic a chyn chwaraewr i Gymru, wedi datblygu yn un o sgorwyr mwyaf peryglus Prydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn gynnar yn ystod ei yrfa, bu'n chwarae i Luton Town, Arsenal, West Ham United a Coventry City cyn symud i'r Alban at Celtic.
Darth ei yrfa rhyngwladol i Gymru i ben yn annisgwyl yn Chwefror 2006, wrth iddo gyhoeddi ei fod yn gadael sgwad Cymru i ganolbwyntio ar bêl-droed ei glwb.
Cliciwch yma am fwy am John Hartson yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Yn Gymro Cymraeg, magwyd John Hartson yn y Trallwn, Llansamlet. Roedd pêl-droed yn ei waed gan i'w dad Cyril chwarae i dîm pêl-droed Llanelli yn ystod y 1970au. Mae rhai o atgofion plentyndod hapusaf John yn cynnwys mynd i weld y Swans yn chwarae ar y Vetch efo'i ffrindiau a chael pastai a sglods ar y ffordd adref! Yn 17 oed fe aeth John i Luton dan hyfforddiant ac ers 1992 mae wedi chwarae i chwech o'r prif dîmau. Gwireddwyd addewid cynnar John pan symudodd i Arsenal am £2.5 miliwn ond yn dilyn symudiad Denis Bergkamp yno, doedd ei le yn y tîm ddim yn sicr felly fe symudodd Hartson i West Ham. Fe aeth Hartson i helynt yn dilyn ei ffrae efo'i gyd chwaraewr Eyal Berkovic. Arwyddodd i Wimbledon yn 1999 ond fe gafodd ei anafu yn ystod y cyfnod ac roedd tîmau fel Spurs a Rangers yn betrus i'w arwyddo. Ond galluogwyd ef wrth symud i Coventry a chael ei dalu ar sail ymddangos brofi ei ffitrwydd ac fe arweiniodd hyn at y symudiad £6 miliwn i Celtic. Mae ei berfformiadau dros Gymru wedi ennill enwogrwydd iddo fel ei gôl enwog yn erbyn Lerpwl mewn gêm yng Nghwpan UEFA. Yn Gymro tanbaid, mae John wedi mynegi ei ddiolch am ffydd Mark Hughes ynddo ar ôl cychwyn digon siomedig i'w yrfa dan arweiniad Bobby Gould. Wedi cyfnod llwyddiannus yn yr Alban gyda Celtic, symudodd John i West Brom cyn ymddeol yn 2008. Ei funud fawr: cael ei enwi yn Bêl-droediwr y Flwyddyn Cymru yn 2001 a 1998. Cyn hyn fe enillodd y wobr am chwaraewr ifanc yn 1995 a 1996.
Cliciwch yma am fwy am John Hartson yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Wyddech chi?: Fe geisiodd chwaer iau John, Vicki, am le ar y rhaglen dedelu realiti Fame Academy.
 |
 |
 |
 |
 |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
|
|
|

|