BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Ieuan Evans
Ieuan Evans

Ganwyd: 24 Mawrth 1964

Magwyd: Treforus, Abertawe

Addysg: Ysgol gynradd Idole ac Ysgol y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin


Chwaraewr rygbi sydd wedi ennill 72 o gapiau dros Gymru a sgorio 33 o geisiadau i Gymru

Wyddech chi? : Pan oedd yn yr ysgol gynradd, yr 'atom cryf' oedd ei lysenw gan ei fod yn fach ond ofn dim.

Symudodd teulu Ieuan o Abertawe i Gwmffrwd yn sir Gaerfyrddin pan oedd o'n ifanc iawn. Aeth i Ysgol Gynradd Idole ac yma y dechreuodd chwarae pêl-droed a theithio i Langynnwr i chwarae rygbi.

Ar ôl symud i Ysgol y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin, dewiswyd ef yn gapten y tîm dan ddeuddeg ac erbyn 17 oedd roedd Ieuan wedi ymuno ag adran ieuenctid Quins Caerfyrddin.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, gwireddwyd breuddwyd Ieuan o chwarae dros Llanelli ac yn y Strade y cafodd e gyfle i ddatblygu'r sgiliau ar nodweddion hynny i fod yn chwaraewr o'r radd flaenaf.

Roedd cyfuno chwarae i dîm y Sosban ac astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Salford yn ddigon anodd ond ar ôl cwblhau ei radd, fe ddaeth yn ôl i Gymru gan fwynhau llwyddiant y clwb yn llawn.

Fe chwaraeodd mewn saith gêm derfynol i Lanelli ac ennill pump ohonynt.

Yn ystod 1980au fe chwaraeodd yn y gêmau traddodiadol doli glwt olaf sef y gêmau ffyrnig hynny rhwng Caerfaddon a Llanelli ac yn Chwefror 1987 fe ymddangosodd am y tro cyntaf yng nghrys coch Cymru yn erbyn Ffrainc. Ymddangosodd am y tro olaf dros ei wlad 11 mlynedd yn ddiweddarach ar 7 Chwefror 1998 yn erbyn yr Eidal.

Yn ystod ei yrfa ryngwladol fe enillodd 72 o gapiau dros Gymru ac ar 28 o'r adegau hynny ef oedd y capten.

Sgoriodd 33 o geisiadau dros Gymru ac efallai mai ei gais enwocaf oedd yr un yn y gêm yn erbyn Lloegr pan enillodd Cymru o 10 cais i 9.

Mae Ieuan wedi chwarae ymhob un o gwpanau'r byd, wedi ymddangos saith gwaith dros y Llewod ac mae'n aelod o'r criw dethol hwnnw sydd wedi chwarae drostynt yn Awstralia yn 1989, Seland Newydd 1993 a De Affrig 1997. Ar y daith yn Ne Affrig fe sgoriodd gyfanswm o 3 cais.

Yn 1993 sgoriodd Evans y nifer uchaf o geisiadau sef 4 yn erbyn Seland Newydd. Ond yn anffodus byr fu ei daith i Dde Affrig gan iddo gael ei anafu.

Pan oedd Evans yn chwarae i Lanelli fe enillodd bob anrhydedd ac felly yn 1997 wrth chwilio am her newydd fe aeth dros y ffin a chwarae i Gaerfaddon. Roedd o'n aelod o'r tîm a enillodd gwpan Heineken yn 1998. Yna cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi.

Mae'n briod efo tri o blant ac yn rhedeg ei gwmni cysylltiadau cyhoeddus ei hun, yn ddarlledwr ac yn byw yn y Bont Faen.


Cyfrannwch

Nia o Cheltenham
Mae Ieuan yn un o'r goreuon yn y byd i'r diwrnod hon.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy