BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
cantorion
Meic Stevens
Meic Stevens

Ganwyd: 1942

Magwyd: Solfa, Sir Benfro


Canwr, 'Taid' y sin yng Nghymru

Fe'i ganed yn 1942 yn Solfa ac yno y cafodd ei fagu. Bu harddwch naturiol a thraddodiad morol yr ardal, yn ogystal â'i chymeriadau a'i deulu, yn ddylanwad mawr ar ei ffordd o weld y byd a themâu ei ganeuon.

Fe'i addysgwyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, a dechreuodd chwarae'r gitâr yn ei arddegau, gan chwarae mewn bandiau sgiffl lleol. Mynychodd Goleg Celf Caerdydd yn 1958, ac yno, ac yng nghlybiau a thafarndai dociau'r brifddinas y cafodd ei wir addysg.

Fe'i cyfareddwyd gan fwrlwm ac amrywiaeth y sîn jazz, blues a gwerin, ac yn fuan roedd wedi dysgu chwarae yn idiom y gwahanol arddulliau. Yn ôl ysbryd yr oes, teithiai i berfformio ledled Prydain, a rhydd ei hunangofiant bortread byw o fyw yn yr eiliad yng nghyffro cyfnod trawsnewidiol y 1960au.

Gan mai Saeseneg oedd prif iaith aelwyd ei fagwraeth, yn yr iaith honno y dechreuodd gyfansoddi caneuon, a rhyddhawyd ambell i sengl ganddo yng nghanol y 60au, na wnaeth lawer o argraff ar y siartiau Seisnig. Er hynny, roedd ei enw wedi tyfu yn y cylchoedd gwerin, ac yn honedig fe'i disgrifiwyd gan Bob Dylan fel 'the best folk singer in the world'.

Gwelai sgowtiaid y cwmni recordiau rhyngwladol, Warner Brothers, ddigon o addewid i gynnig cytundeb iddo gwerth degau o filoedd o bunnoedd, swm enfawr bryd hynny. Nid yw'n swm mor wael heddiw chwaith! Canlyniad hyn oedd y record hir 'Outlander' (1970), casgliad a ddangosai ddylanwad seicadelig y cyfnod, ond hefyd yr elfennau a nodweddai gymaint o'i gerddoriaeth orau - dychymyg cerddorol dwys a delweddiaeth eiriol syfrdanol.

Yr un fu hanes y record honno a'i senglau cynharach, fodd bynnag, ac ni lwyddodd i wneud argraff ar y siartiau.

Erbyn hynny, roedd teledu Cymraeg wedi ei eni, ac yn ei sgîl cafodd gynnig gwaith yng Nghymru yn y Gymraeg. Roedd eisoes wedi recordio cyfieithiadau o'i ganeuon Seisnig, megis 'Yr Eryr a'r Golomen' a 'Cân Walter'.

Creodd dipyn o argraff ar y sîn Gymraeg gyda'i ymddangosiad trawiadol a chaneuon a ddaliai naws a phrotest yr oes, megis 'Tryweryn' ac 'Ysbryd Solfa', ynghyd â'i awydd i fyw bywyd i'r eithaf.

Prin y pylodd y dylanwad cynnar hwnnw ar y sîn. Yn raddol, daeth ei ganeuon yn fwy seiliedig ar brofiad personol, a chanodd yn helaeth i goffa hen gydnabod a theulu a ffigurau a gyffyrddodd ei fywyd mewn rhyw ffordd. Yn wir gellid gwrando ar straeon ei ganeuon megis hunangofiant clywedol amgen. Nid oedd ofn arno chwaith i fynd i'r afael â phynciau anodd, dirdynnol tor-perthynas fel yn achos un o'i ganeuon enwocaf, 'Môr o Gariad', a marwolaeth, nag ychwaith ganeuon a ddathliai joio byw yn ei ffordd ddihafal ei hun.

Mae ei gasgliadau yn y Gymraeg yn cynnwys 'Gwymon' (1972), 'Meic a'r Bara Menyn' (1973), 'Gog' (1977), 'Nos Du, Nos Da' (1982), 'Lapis Lazuli' (1983), 'Gitar yn y Twll Dan Stâr' (1983), 'Gwin a Mwg a Merched Drwg' (1987), 'Whare'n Noeth (Bibopalwla'r Delyn Aur)' (1991), 'Er Cof am Blant y Cwm' (1993) a 'Mihangel' (1997).

Mae'n anodd dychmygu sut olwg fyddai ar y sîn Gymraeg heddiw hebddo, ac mae'n parhau i gyfareddu cynulleidfaoedd mewn tafarndai a chlybiau ledled Cymru.

Dathlodd Meic Stevens ei benblwydd yn 65 oed ym mis Mawrth 2007. Cynhaliwyd cyngerdd i ddathlu'r achlysur yn y Gyfnewidfa Lo ym mae Caerdydd, lle daeth y band Bara Menyn yn ôl at ei gilydd i berfformio ar y noson, gyda Heather Jones a Geraint Jarman yn canu gyda Meic am y tro cyntaf ers y 1970au.

Beth yw eich barn am gerddoriaeth Meic Stevens? Dywedwch wrthon ni isod.

Cyfrannwch

Stephen Taylor Coedpoeth
Dw i'n cytuno efo Alan o Abertawe mae hunagofiant Meic yn andros o dda. Diolch i Meic am gyfansoddi cymaint o glasuron.

Bethan o Gaerfyrddin
Penblwydd Hapus i Meic yn 65 oed! Rwy'n meddwl fod ei gerddoriaeth yn ffantastig, does neb tebyg iddo!

Doug o Bencader
Nage! Nid "Taid!" Mae y bytholwyrdd Meic yn dod o'r De, felly "Dadcu!"

David yn Swydd Efrog
Heb anghofio am ei gasgliad 3-CD "Disgwyl Rhywbeth Gwell I Ddod", sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'i waith cynnar.

Alan Abertawe
Mae rhaid ichi darllen hunangofiant Mike


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy