BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bywyd Cyhoeddus
Michael Howard
Michael Howard

Ganwyd: Gorffennaf y 7fed, 1941

Magwyd: Gorseinon

Addysg: Ysgol Ramadeg Llanelli


Y Cymro cyntaf i arwain y Blaid Geidwadol

Ganwyd Michael Howard yn 1941, yn fab i fewnfudwyr o Romania. Symudodd ei deulu o Romania er mwyn osgoi erchyllderau'r Natsiaid ar gyfandir Ewrop. Ar gyrraedd Llanelli, newidodd y teulu ei henw o Hecht i fod yn Howard, a sefydlodd tad Michael siop lewyrchus yn ganol y dref.

Derbyniodd Michael Howard ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llanelli, cyn mynd ymlaen i dderbyn ei addysg bellach yng Ngholeg Peterhouse, Caergrawnt. Yn 1962, etholwyd Michael yn Lywydd Undeb Caergrawnt.

Ar ol gadael y Brifysgol, cychwynodd ar yrfa lwyddiannus ym myd y gyfraith. Cafodd ei alw i'r Bar yn 1964, a'i benodi yn QC yn 1982.

Etholwyd ef yn aelod seneddol dros etholaeth Folkestone and Hythe yng Nghaent yn 1983. Dros y bum mlynedd ar hugain nesaf byddai Michael Howard yn weinidog mewn tri llywodraeth geidwadol, o dan dau Brif Weinidog gwahanol.

Bu'n weinidog yn y Swyddfa Fasnach a Swyddfa yr Amgylchedd o dan y Prif Weinidog Margaret Thatcher. Ymunodd yn llawn â'r Cabinet yn 1990, pan gafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Cyflogaeth. Serch hynny, ni ragorodd yn y swydd yma, wrth i'r canran o'r boblogaeth allan o waith godi'n sylweddol.

Wedi'r etholiad cyffredinol yn 1992, penodwyd Michael Howard gan John Major y Prif Weinidog yn Ysgrifennydd Gwladol â chyfrifoldebau am yr Amgylchedd. Cynrychiolodd y Deyrnas Unedig yng Nghynhaedd y Byd yn Rio, Brasil, gan ddwyn perswad ar America i fynychu'r gynhadledd yn ogystal.

Yn Mai 1993 penodwyd ef i un o swyddi pwysicaf y cabinet, i swydd yr Ysgrifennydd Cartref. Rhagorodd yn y swydd yma dros y bedair blynedd nesaf, wrth i drosedd ostwng gan 18%. Nid oedd yr un rhagesiampl yn y llyfrau hanes.

Yn dilyn crasfa ei blaid yn etholiad cyffredinol 1997, pan etholwyd Llywodraeth Lafur am y tro cyntaf mewn deunaw mlynedd, fe gystadlodd Michael am arweinyddiaeth ei blaid. Daeth yn olaf yn yr ornest yma, ac etholwyd cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, William Hague, yn arweinydd newydd y Blaid Geidwadol.

Gwasanaethodd Michael ei blaid mewn amryw o ffyrdd dros y blynyddoedd nesaf.

Bu'n lefarydd am faterion tramor am gyfnod, cyn ymddeol o'r faenc flaen yn annisgwyl yn 1999. I bob pwrpas roedd ei yrfa wleidyddol ar ben.

Ond yna yn Mis Medi 2001, dychwelodd i'r faenc flaen o dan arweinyddiaeth Iain Duncan Smith, gan gysgodi Gordon Brown y Canghellor. Ennillodd edmygedd a chanmoliaeth mawr o'r wasg am ei berfformiad yn rhinwedd ei swydd newydd.

Ac yntai wedi dod yn olaf yn yr etholiad i ddewis arweinydd yn 1997, Howard oedd y dewis unfrydol yn 2003, ar ol pleidlais o ddiffyg-hyder yn yr arweinydd Iain Duncan Smith.

Methodd ag ennill yr etholiad cyffredinol yn 2005, serch hynny, fe ennillodd y blaid am y tro cyntaf mewn 22 mlynedd nifer sylweddol o seddi newydd. Mewn gwirionedd, pe byddai ond 14,500 o bleidleiswyr wedi newid y ffordd wnaetho nhw bleidleisio, ni fyddai Tony Blair wedi ennill mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol hwnnw.

Roedd Howard yn andros o siomedig gyda'r canlyniad, ac, gan ystyried y byddai bron yn 70 mlwydd oed erbyn yr etholiad nesaf, penderfynodd ildio yr awennau fel arweinydd.

Bu'n arweinydd am ychydig dros dwy flynedd yn unig. O ran ei etifeddiaeth i'r blaid, fe adawodd blaid mwy disgybledig, proffesiynol ac unedig ar ei ôl. Mae'r arweinydd newydd David Cameron i weld yn dwyn-ffrwyth o'r etifeddiaeth yma heddiw.

Mae Michael Howard yn parhau i gynrychioli etholaeth Folkestone and Hythe yn San Steffan. Cadarnhaodd yn ddiweddar serch hynny y bydd yn ymddeol o San Steffan adeg yr etholiad cyffredinol nesaf.

O ran diddordebau, mae Michael yn gefnogwr selog o Glwb Pel Droed Lerpwl. Ef yw hyfforddwr tïm pêl droed yr Aelodau Seneddol yn ei gornest flynyddol yn erbyn tïm pêl droed aelodau o'r wasg!

Mae Michael yn briod â Sandra ers dros 30 o flynyddoedd. Mae ganddynt blant a llysblant.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy