104ydd Archesgob Caergaint
Wyddech chi?: Mae Rowan wrth ei fodd yn gwylio'r gyfres deledu 'The Simpsons'. Dydy e ddim yn gyrru gan ei fod yn gredwr mawr mewn trafnidiaeth gyhoeddus.Yn Gymro Cymraeg, dewiswyd Rowan Williams yn Archesgob Caergaint gan y Prif Weinidog Tony Blair yn 2002.
Ef felly yw arweinydd crefyddol 70 miliwn o Anglicaniaid ar draws y byd. Cyn ei benodi i Gaergaint, ef oedd Archesgob Cymru ond yn dilyn ei benodiad diweddaraf i olynu George Carey gellid dadlau ei fod yn dal swydd grefyddol amlycaf Prydain.
Yn dair oed, fe symudodd teulu Williams i Gaerdydd ac aros yno nes roedd Rowan yn 11 oed cyn symud i Abertawe. Yno y cafodd Williams ei addysg uwchradd a hynny yn Ysgol Dynefwr. Roedd Williams yn ddisgybl galluog iawn iawn, yn arbennig yn Lladin. Ond roedd hefyd ym mwynhau drama ac yn cymryd rhan mewn llawer o gynyrchiadau ysgol.
Ar ôl gorffen ei lefel A, fe aeth i Gaergrawnt i astudio yng Ngholeg yr Iesu ac yn 25 oed roedd wedi ennill doethuriaeth o Rydychen hefyd. Dechreuodd ar ei yrfa yn yr Eglwys yn Swydd Efrog yn dysgu mewn coleg eglwysig yn Mirfield. Yn 1979 fe'i ordeiniwyd yn offeiriad ac yn 29 oed cyhoeddodd ei waith diwinyddol cyntaf.
Mae Williams wedi dal nifer o swyddi dysgu yn Rhydychen ac yn 1986 apwyntiwyd ef yn athro diwinyddiaeth sef yr athro ieuengaf erioed yno. Yn 1991, fe'i ddewiswyd yn Esgob Mynwy a dim ond wyth mlynedd yn ddiweddarach yn Archesgob Cymru. Yng Ngorffennaf 2002 fe gadarnhawyd Williams fel olynydd Dr Carey ac yn arweinydd yr Anglicaniaid.
Dr Williams ydy'r Cymro Cymraeg cyntaf i'w ddewis yn Archesgob Caergaint am o leiaf mil o flynyddoedd a gorseddwyd ef ar 27 Chwefror yn Eglwys Gadeiriol Caergaint.
Cyfrifir Williams yn rhyddfrydwr os nad yn radical ei farn. Mae'n ddiwinydd amlwg iawn ac fe groesawyd yr apwyntiad gan lawer. Disgrifir ef hefyd fel person go iawn sy'n agos-atoch wrth gyfarfod pobl.
Priododd Rowan ei wraig Jane yn 1981- mae hi yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod ym Mryste ac mae ganddynt ddau o blant sef Rhiannon a Pip.
Dr Rowan Williams yn agoriad Eglwys Teilo Sant yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn Hydref 2007.
Yn Chwefror 2008, cafwyd ton o brotest yn dilyn sylwadau y Parchedicaf Dr Rowan Williams am gyfraith Sharia y Moslemiaid mewn darlith gerbron yr Uchel Lys Brenhinol. Cliciwch yma i ddarllen fwy am y ddadl a'r Arglwydd Elystan Morgan yn achub cam Archesgob Caergrawnt.