BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
12fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adloniant
Richard Burton
Richard Burton

Ganwyd: 1925

Magwyd: Pontrhydyfen

Addysg: Port Talbot


Un o'r actorion enwoca' i ddod o Gymru. Roedd ei garwriaeth ag Elizabeth Taylor yn destun trafod am flynyddoedd!

Wyddech chi?: gosodwyd copi o waith Dylan Thomas yn ei arch.

Seren Gymreig go iawn, yn enwog am ei bortread o'r Rhufeiniwr Mark Anthony yn ffilm fawr Elizabeth Taylor 'Cleopatra' yn arbennig o gofio am eu carwriaeth oddi ar y sgrîn hefyd. Fe ddaeth yn un o wynebau a lleisiau mwyaf cyfarwydd Cymru.

Ganwyd Richard Burton yn Richard Walter Jenkins, y 12fed o 13 o blant. Glöwr oedd ei dad a bu farw ei fam pan oedd Richard yn ddwy flwydd oed a chwaer hŷn a'i fagodd.

Fe gymerodd un o'i athrawon, Philip Burton, ddiddordeb mawr ynddo gan ei gynorthwyo i ddatblygu'r sgiliau a fyddai mor bwysig iddo fel actor yn ddiweddarach.

Yn 16 oed fe enillodd ysgoloriaeth i Rydychen, diolch i gymorth Philip Burton. Mabwysiadodd gyfenw ei athro ond yn ddiweddarach fe adawodd Rhydychen er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa ar y llwyfan.

Yn 18 oed gorfu iddo ohirio ei yrfa broffesiynol pan gonsciptiwyd ef i'r RAF a'i benodi'n lywiwr.

Fe ddaeth ei gyfle mawr yn Hollywodd yn 1952 yn y ffilm 'My Cousin Rachel'.

Ond ei ran yn Cleopatra, y ffilm ddrutaf erioed, newidiodd ei fywyd personol a phroffesiynol am byth, wrth iddo chwarae Mark Anthony i 'Cleopatra' Elizabeth Taylor. Datblygodd y berthynas ar y sgrin yn berthynas gyhoeddus ac ymfflamychol oddi ar y sgrin hefyd. Fe gafodd Richard ysgariad ac fe briododd Taylor. Ond ysgarwyd y ddau yn ddiweddarach dim ond i ailbriodi ac ysgaru wedyn.

Ymddangosodd y ddau mewn ffilmiau eraill gyda'i gilydd megis 'Whose Afraid of Virginia Wolf?' a 'The Taming of the Shrew'.

Serenodd Burton mewn sawl ffilm enwog a gwneud llawer o waith radio hefyd. Mi fuodd yn ymladd dynion o'r blaned Fawrth hefyd yn fersiwn gerdd Jeff Wayne 'War of the Worlds'.

Bu farw yng Ngenefa, ychydig ddyddiau yn unig cyn dechrau ar ei ffilm nesaf 'Wild Geese II'.

Ei funud fawr: perfformiad bythgofiadwy fel Mark Anthony a'r cemeg rhyngddo â Chleopatra yn un ffrwydrol go iawn!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy