BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
22ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adloniant
John Rhys-Davies
John Rhys-Davies

Ganwyd: 5 Mai 1944

Magwyd: Wiltshire, ond treuliodd lot o'i blentyndod yn Rhydaman.


Ei berfformiadau cofiadwy o gymeriadau mewn ffilmiau megis 'The Lord of the Ring' a 'Raiders of the Lost Ark'

Er gwybodaeth: Pan chwaraeodd y cymeriad Gimli yn 'The Lord of the Rings' roedd ei wisg yn pwyso dros 40 kilogram ac roedd angen help gan dau berson i'w rhoi e ymlaen!

Bywgraffiad:
Treuliodd John Rhys-Davies ran mawr o'i blentyndod yn Rhydaman - man geni ei fam. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth glasurol yn ifanc iawn a credai mai'r diddordeb hwn arweiniodd i'w benderfyniad i fod yn actor ac yn awdur.

Yn bymtheg oed perfformiodd rôl Shakesperaidd am y tro cyntaf a rhoddodd y profiad hwn sicrwydd iddo mae ar y llwyfan yr oedd ei ddyfodol.

Wedi iddo adael yr ysgol mynychodd Prifysgol Dwyrain Anglia yn Norwich lle astudiodd Saesneg. Ar ôl graddio fe aeth i Lundain, lle y'i derbyniwyd fel myfyriwr yn Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig. Wedi iddo orffen astudio fe ddaeth yn actor cymeriad profiadol sydd bellach wedi ymddangos mewn dros 80 o ffilmiau.

Un o uchafbwyntiau diweddar ei yrfa hir oedd chwarae rhan y corrach Gimli yn yr addasiad i ffilm o'r llyfr enwog 'The Lord of the Rings' gan J.R.R.Tolkien. Roedd chwarae'r rôl hon yn golygu fod Rhys-Davies yn gorfod treulio pump awr yn cael ei goluro. Cafodd ei ffilmio yn Seland Newydd gyda Peter Jackson yn ei gyfarwyddo. Rhyddhawyd 'The Fellowship of the Ring', y ffilm cyntaf mewn cyfres o dri, yn 2001, ac fe'i ddilynwyd gan 'The Two Towers' a 'The Return of the King'.

Cyn ymddangos yn y ffilmiau hyn, mae'n siŵr mai'r rhan amlycaf mae Rhys-Davies wedi ei gael mewn ffilm oedd ei gymeriad yn 'Raiders of the Lost Ark' a 'Indiana Jones and the Last Crusade'. Yn y ffilmiau hyn cafodd y cyfle i weithio gyda'r actorion enwog Harrison Ford a Sean Connery.

Mae'r ffilmiau eraill yr ymddangosodd ynddynt yn cynnwys 'Victor, Victoria', 'The Living Daylights' a 'King Solomon's Mines'.

Yn ogystal â hyn, mae hefyd wedi cael tipyn o sylw oherwydd ei berfformiadau ar y sgrîn fach gan gynnwys chwarae 'Yr Athro Maximilian P. Arturo' yn y gyfres deledu boblogaidd 'Sliders' ac am ymddangos sawl tro ar 'Star Trek: Voyager' yn chwarae cymeriad Leonardo da Vinci.

Mae ymddangosiadau eraill ar y teledu yn cynnwys 'Shogun' a 'Noble House' gan James Clavell, 'Great Expectations', 'War and Rememberance' ac 'Archaeology'.

Oherwydd ei waith, mae Rhys-Davies wedi sefydlu ei hun yn Los Angeles, gan dreulio dipyn o amser hefyd ar yr Isle of Man. Mae'n casglu ceir ac mae hefyd ganddo drwydded fel peilot.

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy