Môr-leidr hynod o lwyddiannus
Heddiw mae pentref Casnewydd Bach ar lethrau'r Preselau yn enwocach
fel cartref stablau ceffylau rasio Peter Bowen nag fel man geni un o'r
dihirod mwyaf enigmatig yn hanes Cymru. Yma yn 1682 y ganwyd John
Roberts.
Pwy oedd hwnnw, meddech chi?
Ychydig yn llai na 30 mlynedd
yn ddiweddarach fe newidiodd ei enw i Bartholomew Roberts, ond ni châi
ei adnabod wrth yr enw hwnnw ychwaith. Yn hytrach daeth yn enwog fel
Barti Ddu, helgi'r tonnau.
Mae'r enw Barti yn ei esbonio'i hun.
Ychwanegwyd yr ail elfen am y rheswm syml ei fod yn ddyn tal, tywyll,
ond yn ogystal â hynny, bu'n gyfrifol am weithredoedd tywyll hefyd.
Nid yw Casnewydd Bach ymhell o'r môr, a thybir i Barti hel ei bac
pan nad oedd ond tua deg oed.
Erbyn iddo gyrraedd ei ugeiniau hwyr
roedd yn drydydd mêt ar y Princess, llong a gludai gaethweision i
Ynysoedd y Caribî.
Er mor esgymun oedd cargo'r Princess, fe
gymerodd Gymro arall i droi Barti Ddu yn fôr-leidr.
Wedi i Hywel
Dafis, yntau o Aberdaugleddau ac o'r un sir â Barti, gipio llong y
Princess, rhoddodd ddewis i'w gyd-Gymro.
Naill ai fe'i gadawai ef
a gweddill y criw ar y tir mawr neu fe gâi ymuno ag ef fel môr-leidr.
Does dim angen dweud pa gynnig a ddewisodd Barti.
Y lleidr crefyddol
Yn fuan iawn, dyrchafwyd Barti yn fêt, a phan laddwyd Dafis
mewn cyrch oddi ar arfordir Affrica, dringodd Barti i safle'r capten.
Un o benderfyniadau cyntaf Barti fu gorfodi'r criw i dyngu llw, a
hynny ar Feibl Cymraeg, y byddent yn ymddwyn yn weddus - llw
rhyfedd ar y naw i fôr-ladron ei dyngu.
Yn wir, cynhaliai Barti
wasanaethau crefyddol ar ei long yn rheolaidd ac ni chaniatâi i neb
weithio ar y Sul.
Yn wahanol i'r rhelyw o fôr-ladron roedd Barti
hefyd yn llwyrymwrthodwr.
Te oedd ei ddewis ddiod.
Roedd Barti mor grefyddol fel y dywedir iddo unwaith gipio'r
Onslou, ond wedi i gapten y llong wrthod ymuno ag ef, fe
ddychwelodd yr ysbail i gyd ar wahân i dri llyfr gweddi.
Yn ogystal â bod yn Gristion, rhaid fod Barti hefyd yn dipyn o Sosialydd
gan iddo bob amser rannu'r ysbail yn gyfartal rhwng holl aelodau'r criw.
Serch hynny, credai mewn cosbedigaeth. Câi unrhyw un a dorrai reolau
Barti ei hongian o fast y llong a'i fflangellu'n ddidrugaredd.
Gyrfa fyd-eang
O dan yr enw Barti Ddu, ei long gyntaf oedd y Royal Revenge.
Arni ymosodai ar longau eraill o arfordir Affrica hyd at ynysoedd
India'r Gorllewin.
Heriodd dros ddeugain o longau Portiwgal oddi ar
arfordir Brasil.
Â'r llongau wrth angor yn Bahaia, achubodd Barti y
blaen ar y ddwy long ryfel a oedd i amddiffyn y llynges a'u gorfodi i
ildio.
O'r llong gyfoethocaf, y Sagrada Familia, ysbeiliodd werth £20
miliwn o aur a thrysor.
Un tro, a Barti oddi ar ynys Dominico, danfonodd y Ffrancwyr
ddwy o'u llongau arfog o Martinique i'w ddal.
Yn ffodus i Barti,
roedd y criw'n hiraethu am dipyn o win a merched drwg, a thra oedd
y rheiny'n diwallu'u hanghenion ger Corvocco aeth y llongau
Ffrengig heibio heb eu gweld.
Yn 1720 llwyddodd Barti i gyrraedd mor bell â Newfoundland. Pan
glywyd ei fod ar ei ffordd, ffodd criwiau dros ugain o longau yn hytrach
na'i wynebu, gan adael y llongau ar drugaredd Barti a'i ddynion.
Cadwodd Barti un llong at ei ddefnydd ei hun.
Deg yn erbyn un
Wrth iddo adael porthladd
Trepassey ymosodwyd arno gan tua deg o longau Ffrengig.
Suddodd
hwy i gyd ond un, ac unwaith eto cadwodd honno at ei ddibenion ei hun,
gan adael yr un a feddiannodd yn wreiddiol i'r Ffrancwyr.
Targedau nesaf Barti oedd pedair llong o Loegr.
O'r un
gyfoethocaf, cipiodd eiddo gwerth tua £9,000, yna aeth ymlaen i
ymosod ar ragor o longau Lloegr.
Hwyliodd ymlaen i'r Caribî, ac ar
ôl cyfnod digon diffrwyth canfu ferched croesawgar ar ynys Sant
Bartholomew. Rhaid bod rhywbeth yn enw'r lle!
Parhau i grwydro wnaeth Barti a'i griw, i Guinea a Surinam.
Yna
cafwyd prinder bwyd a dŵr ar y llongau, a bu farw nifer o'r criw.
Ar
ôl llwyddo i ailgyflenwi'r llongau teithiwyd yn ôl i'r Caribî lle, yn
Martinique, cafwyd mwy o lwyddiant wrth i nifer o longau gael eu
suddo.
Yn y fan honno y lluniodd Barti ei faner bersonol, un ddu yn
dwyn llun ohono ef yn sefyll ar ddau benglog yn cynrychioli
Barbados a Martinique.
Ar ôl crogi Llywodraethwr Martinique aeth
yn ei flaen fel sipsi'r môr gan ymosod ar longau unrhyw wlad oedd
yn ddigon beiddgar i'w herio.
Elw anhygoel
Hwyliodd i Deseada ac ar draws y Môr Iwerydd i Senegal, i Sierra
Leone ac i Whyda.
Tybir fod Barti, erbyn hyn, wedi ysbeilio dros 400
o longau gan grynhoi gwerth £51 miliwn o elw personol mewn aur a
thrysor.
Ond yn ei lwyddiant yr heuwyd hadau ei ddiwedd.
Achosai Barti
golledion mor fawr i longau, rhai Prydain yn arbennig, fel y daeth yn
brif darged.
Cafodd gyfle i ildio, ond gwrthododd bardwn gan y
Brenin Siôr.
Cynigiodd hwnnw ei adael yn ddi-gosb petai'n rhoi'r
gorau i'w ymosodiadau, ond roedd ysbeilio yng ngwaed Barti.
Danfonwyd llong ryfel i chwilio amdano, a'r tro hwn, oddi ar arfordir
Guinea ger Cape Lopez, y llong ryfel a drechodd.
Chwythwyd un o
longau Barti'n deilchion wrth i'r powdwr ffrwydro, ac er i Barti a'i
long y Royal Ranger lwyddo i ddianc, fe'i gwelwyd gan y Swallow,
a wnaeth ei chamgymryd am long Ffrengig.
Taniwyd ati a thrawyd
Barti yn ei wddf.
Bu farw'n pwyso ar un o'r gynnau - diwedd addas
i fôr-leidr di-ildio.
Dwy flynedd a hanner yn unig wedi iddo droi'n
fôr-leidr, fe'i claddwyd yn y môr.
Nid anghofiwyd Barti Ddu. Diolch i gofiannwyr, ac yn arbennig i'r
bardd I. D. Hooson, bydd cenedlaethau eto yn cofio hanes 'y morwr tal
a'r chwerthiniad iach'.
Os byddwch chi byth yng Nghasnewydd Bach,
oedwch o flaen tafarn y pentref.
Yno, ar ddarn o gomin yn yr awelon
rhwng y môr a'r mynydd, cewch weld cofeb syml i John Roberts, alias
Bartholomew Roberts, alias Barti Ddu.
Ac os gwrandewch yn astud,
hwyrach y clywch sŵn ei chwerthiniad ar y gwynt.
Lyn Ebenezer