BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Donald Williams Newid Byd
Mae Donald Williams o Fancffosfelen ger Llanelli newydd raddio o Goleg y Drindod ac yntau yn ei 80au. Mae bellach yn dilyn cwrs M.A. a dyma ei hanes yn ei eiriau ei hun.

  • Cliciwch yma i glywed dyddiadur radio Donald Williams

    "Cefais y syniad o fynd i goleg ar ôl ymddeol, pan oeddwn yn gweithio ar hyd a lled de Cymru yn wyth degau y ganrif ddiwethaf. Fe ddaeth y syniad a minnau'n gwasanaethu ar offer ymladd tân yng Ngholeg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan.

    "Wrth dreulio ryw wythnos ar draws y coleg, roedd un adeilad yn bwysig iawn, sef preswylfan y prifathro, oherwydd fe ddaeth yr Arglwydd Morris a minnau yn gyfeillion, ac un tro dywedodd y dylswn ddod i'w goleg fel myfyriwr aeddfed gan fod diddordeb mawr gennyf mewn hanes lleol. Bu farw'r Arglwydd Morris yn sydyn.

    "Yn yr Hydref yn 2003, y flwyddyn ar ôl imi ymddeol yn 76 oed, cefais y fraint o fynd i Batagonia gyda chwmni o Gymry brwd, ac ar ôl dod nôl i Gymru, penderfynais wneud ymholiadau ynglŷn â chael fy nerbyn i goleg. Yn y Gwanwyn yn 2004, pan oeddwn yn treulio penwythnos gyda Chrwydriaid Crwbin ym Mhenryn Llŷn, ac aros yn Nant Gwrtheyrn, gofynnais i fy ffrind Twm Elias o Blas Tan y Bwlch, a fyddai yn beth gwerth chweil imi fynd i goleg. Atebodd yn syth imi fynd ar unwaith. Ar ymweliad â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf 2004, gofynnais i'r Dr. Deri Tomos, Lanllechid y bum yn ei gwmni ef a'i deulu ym Mhatagonia, yr un cwestiwn ag y gofynnais i Twm Elias, a chefais yr un ateb.

    "Wrth fy ngwaith yn gosod a gofalu am offer ymladd tân yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghasnewydd ym mis Awst 2004, ymwelais â stondin Coleg y Drindod, Caerfyrddin, a phwy oedd yno ar y pryd ond Nia Lynn Jones, o raglen Pawb a'i Farn, a Phrifathro'r Coleg, y Dr. Medwin Hughes. Yn ystod yr ymgom ar y stondin cefais wahoddiad i alw yng Ngholeg y Drindod, a bu'n brofiad hynod o bleserus.

    "Yng Ngholeg y Drindod, gofynnais am weld y Parchedig Richard Spencer, Pennaeth yr Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd, a braf gweld ei ymateb cadarnhaol a'i barodrwydd i'm derbyn i'w adran.

    Paratoi at fywyd newydd
    "Cefais gymorth fy nheulu ar unwaith, a dyma ddechrau ymbaratoi ar gyfer bywyd newydd. Cyfarfod â fy nghyd fyfyrwyr a'r darlithwyr y diwrnod cyntaf yn y coleg. Cael gwybodaeth fanwl am y modylau i'w hastudio a bwrw iddi'n unionsyth.

    "Mewn amser byr, daethom fel dosbarth yn gyfeillion agos, ac er mai'r Saesneg oedd cyfrwng y modylau, roedd y Cymry a'r Saeson yn unol yn eu hymateb. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi cael cyngor gan weinidog i wneud y modylau i gyd yn Saesneg, i arbed yr holl gyfieithu, er bod dewis yn yr arholiadau i ateb y cwestiynau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

    Cynefino â'r cyfrifiadur
    "Un rhwystr yn ystod y flwyddyn gyntaf, oedd y ffaith nad oeddwn yn gyfarwydd â defnyddio cyfrifiadur, ac yn wir gofynnais i Richard Spencer am fy esgusodi o'r gwaith TG, ond fe bwysleisiodd bwysigrwydd cynefino â'r cyfrifiadur, a chymerais ei gyngor a dyma brynu cyfrifiadur ar unwaith, ac rwy'n falch dros ben i mi dderbyn cyngor Richard Spencer.

    "Yn sydyn roedd y Nadolig wrth y drws, a'r arholiadau cyntaf i ddilyn, a dyna bleser i ni fel dosbarth oedd profi llwyddiant yn yr arholiadau hynny, a symud ymlaen i fodylau newydd.

    "Ar ddechrau'r flwyddyn newydd daeth y newyddion ein bod wedi colli Richard Spencer fel pennaeth oherwydd salwch, ond pleser mawr oedd darganfod i Greg Barker gael ei ddyrchafu'n bennaeth dros dro, am ei fod yn ddarlithydd disglair ac mor barod i helpu pawb yn y dosbarth. Yn ystod y cwrs fe gollwyd dau diwtor arall, sef Rhian Adams a Peter Jones, dau arall haeddai barch y myfyrwyr.

    "A dyna bleser i ni gyd oedd deall bod Amjad Hussain, fu gyda ni drwy gydol y cwrs, wedi derbyn doethuriaeth, ac yntau wedi dod mor gyfeillgar â phawb. Fel Cymro, roedd yn bleser mawr cael hyfforddiant gan ddau o'r radd uchaf, sef, Dr. Noel Davies, a Guto Prys ap Gwynfor. Gwraig arall a wnaeth argraff ddofn arnom fel darlithydd oedd Helen Rees, oherwydd ei chyfeillgarwch gwresog.

    Derbyn gradd
    "Ar ddiwedd y cwrs, llawenydd i ni gyd oedd deall i ni lwyddo a derbyn gradd, pedwar ohonom yn fyfyrwyr aeddfed, a'r gweddill yn ieuanc, ond ni wnaeth yr ystad oedran amharu ar ein cyfeillgarwch a'n hawydd i gymdeithasu.

    "Cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg y Drindod, cefais ragflas o'r naws ar y campws gan gyfaill sy'n darlithio yno ar Dechnoleg Gwybodaeth, sef Gwydion Wynne. Mewn amser byr yn y flwyddyn gyntaf sylweddolais pa mor wir oedd geiriau Gwydion. Mae'r naws ym mhob rhan o gampws y Coleg yn gyfeillgar dros ben, a'r staff y tu hwnt o amyneddgar, ac ni all myfyrwyr lai na theimlo'n gartrefol.

    "'Rwyf nawr wedi dechrau cwrs newydd, sef, M.A. Hanes Lleol, a Chymro da arall yn bennaeth, sef Conway Davies, a minnau'n profi unwaith yn rhagor wefr y tair blynedd flaenorol."

    Donald Williams

  • Cliciwch yma i glywed dyddiadur radio Donald Williams


  • Cyfrannwch

    Benjiman Angwin o Ohio
    Roedd e stori'n ysbrydoli iawn. Dw i'n eisiau i gorffen coleg nawr.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy