BBC HomeExplore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Mwd maes Sioe Llandysul Dawns Sioe Llandysul
Yng nghanol y mwd ar faes Sioe Llandysul, Carys Bowen fu'n mwynhau'r ddawns yng nghwmni Coda, Newshan a Bryn Fôn mewn cilt!

Adolygiad o Ddawns yn Sioe Llandysul 2006 gyda Coda, Newshan a Bryn Fôn.

Awyrgylch
'Marquee' enfawr gyda llwyfan ar y blaen i'r bandiau a digon o le i'r gynulleidfa enfawr oedd yno. Roedd oedran y gynulleidfa yn amrywio o 6 i 60, ac roedd digon o amrywiaeth i bawb. Lleoliad arbennig i'r gig.

Trac y noson
Pob cân yn dda iawn ond cafodd caneuon Bryn Fôn y gynulleidfa i gyd yn canu a dawnsio.

Y Perfformiadau
Coda:
Dim ond unwaith dwi wedi gweld Coda o'r blaen ac roeddem yn disgwyl ymlaen i weld sut fyddent yn ymateb i noson fel dawns Llandysul. Ond chwarae teg fe wnaethant agor y noswaith yn arbennig. Yn sicr cawsant y gynulleidfa yn barod ar gyfer noswaith wych.

Newshan:
Roedd y 'marquee' wedi llenwi erbyn i Newshan gychwyn eu set ac ni wnaethant siomi'r gynulleidfa. Roedd eu set yn amrywio o hen ffefrynnau megis "Brown eyed Girl" i "Godro'r Fuwch", ffefryn y nifer o ffermwyr oedd yn y gynulleidfa. Roedd pawb yn dawnsio erbyn i Newshan orffen y set.

Bryn Fôn:
Hen law ar ganu yn Sioe Llandysul, dyma uchafbwynt y noson i nifer o bobl. Ymddangosodd Bryn Fôn mewn crys gwyn a throwser du. Canodd nifer o ganeuon o'i albwm Abacus ac ambell glasur o'i gyfnod gyda Sobin a'r Smaeliaid. Roedd y 'marquee' yn llawn erbyn hyn, gyda phawb eisiau bod mor agos i Bryn Fôn ag oedd yn bosib. Bryn Fôn

Uchafbwynt y noson
Yn sicr Bryn Fôn yn ymddangos yn ôl ar y llwyfan mewn cilt gyda'r Ddraig Goch arni.

Y peth gwaethaf am y noson
Ei bod hi wedi bwrw'n drwm trwy'r dydd oedd yn golygu fod y cae wedi ei orchuddio gan drwch o fwd.

Beth sy'n aros yn y cof? Gwylio pobl yn ceisio cerdded trwy'r mwd mewn "fflip-fflops."

Talent gorau'r noson
Dafydd, Coda yn chwarae ar yr allweddellau.

Marciau allan o ddeg
Deg

Un gair am y gig
Gwych.

Carys Bowen

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy