BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
9fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleisiau
Maes glo y de - Dyffryn Aman Streic yn newid bywydau
Anghofiwch y gwleidyddion a'r haneswyr, edrych yn benodol ar stori'r bobl oedd ynghanol streic y glöwyr nôl yn 1984 oedd rhaglen deledu arbennig gan BBC Cymru.

Roedd Cau Pwll - Lladd Cymuned? (Dydd Mawrth, Ebrill 6, 2004 BBC Cymru ar S4C) yn cynnwys atgofion a barn y bobl gyffredin gan gynnwys glöwyr a'u teuluoedd.

Gofidio am y plant
Yn 1984, fe ymddangosodd Hilda a Billy Roberts o'r Tymbl ar raglen Newyddion 7 pan oedd Billy ar streic ac yn poeni am yr effaith ar eu pump o blant o wybod y byddai'r streic yn gyfnod anodd.

Hilda a BillyOnd roeddynt hefyd yn edrych ymhellach ac yn ofni tranc y diwydiant glo.

Fel unrhyw riant, y gofid mwyaf oedd beth oedd o flaen y plant, lle y bydden nhw'n cael gwaith i'w cynnal nhw a'u teuluoedd hwythau.

Yn 2004, mae pob un o'r pump o blant wedi llwyddo i aros yn eu cynefin gyda'u teuluoedd a chael gwaith yn lleol.

Teulu arall yw un Aled Morris a'i ferch Meinir, o Abercwmboi. Yn ddeg oed ar y pryd mae Meinir yn cofio haelioni pobl ynghanol cyfnod mor galed.

Yn wir, dyna un o'r prif bethau a wnaeth Cau Pwll - Lladd Cymuned?; edrych ar y streic o safbwynt plant y cyfnod.

Heddlu yn y strydoedd
Roedd Meinir hefyd yn cofio'r llinell biced ger y tŷ ac yn cofio'r holl heddlu ar y strydoedd cyfagos.

Mae'n sicr i'r streic ei gwneud yn berson cryfach a pharotach i sefyll dros rywun sy'n cael cam.

Meinir ac Aled Morris"Falle bod e wedi siapo fel fi'n edrych mas ar bethe," meddai. "Os oes rhyw gam ar rywun rwy'n tueddu i fod yr un sy'n stico 'nhrwyn mewn a sefyll drostyn nhw."

Ond cafodd bywyd ei thad, Aled Morris, ei drawsnewid gan y streic. Pan gaeodd gwaith glo Phurnacite ddechrau'r 90au aeth i goleg, rhywbeth na fyddai byth wedi ei wneud onibai iddo oroesi streic mor hir a chaled.

Erbyn heddiw mae'n weithiwr cymdeithasol.

"Nath e roi rhyw fath o hunan barch i'n hunan," meddai. "Hunan hyder hefyd achos yn yr amser o'n i'n dreulio yn brifysgol yn newid ac yn cael tystysgrif i wneud gwaith cymdeithasol o'n i'n eithaf hyderus.

"O'n i wedi bod mas ar streic am flwyddyn. I fod allan am ddwy flynedd, tair blynedd i gael addysg uwch ac yna meddwl sut ydw i'n mynd i neud hynny, beth ambwyti arian, wel am flwyddyn heb ddim o'dd e'n ddigon hawdd neud unrhyw beth ar ôl hynny."

Mentro i leoedd dieithr
Doedd gan Les Thomas, o Benygroes, Llanelli, ddim cyfrifoldebau teuluol ac roedd ei streic ef yn gyfnod o fentro i lefydd na fyddai fyth wedi meiddio mentro iddyn nhw, gan godi arian mewn clybiau hoyw, annerch ar lwyfannau a synnu bob dydd pa mor barod oedd pobl i helpu a chefnogi'r streic.

Roedd e hefyd yn un o'r cannoedd o löwyr de Cymru oedd yn rhan o'r frwydr ffyrnig fu rhwng y glöwyr a'r heddlu y tu allan i waith golosg Orgrave yn swydd Efrog. Fel Zulus
"Fy nheimlad i o'dd, wedi watsio'r Zulu ffilm, o'dd hi fel Zulu war yna," meddai. "Chi ar ben y mynydd 'ma a o'dd yr heddlu ar y gwaelod a na i gyd o'ch chi'n gweld o'dd y shields ma a'r heddlu yn bango nhw a'r peth nesaf o'ch chi'n gweld o'dd y shields yn agor mas a'r heddlu ar gefn ceffyle yn chargo lan atoch chi."

PiceduBu'r rhaglen hefyd yn trafod y cydweithredu a fu rhwng y glöwyr a'r heddlu - rhywbeth oedd yn unigryw i Gymru - gydag Alf Jones o Rosllannerchrugog yn cofio sut roedd yr heddlu o Gaernarfon hyd yn oed yn rhannu bwyd o'u cantîn symudol gyda'r glöwyr.

Ond stori wahanol iawn oedd hi pan anfonwyd heddlu Manceinion i ddelio gyda'r streicwyr.

"Nhw o'dd y diawled. Chi 'di clywed y gair diweddar na, Margaret Thatcher's troops, dyna o'dd y diawliaid yn yr ardal yma."

Dychwelyd i'r ardal
Ar gyfer y rhaglen dychwelodd y cyflwynydd, Vaughan Roderick, i rai o'r llefydd y bu'n gohebu ohonynt ar gyfer Newyddion 7.

"Ugain mlynedd yn ôl roedd ystafell newyddion y BBC yn wahanol iawn i'r hyn yw hi heddiw," meddai.

"Teipiaduron yn lle cyfrifiaduron a chysylltu â newyddiadurwyr yn y maes yn dibynnu ar flychau ffôn cyhoeddus. Roedd yn lle swnllyd ac anhrefnus ac yn las o fwg sigaréts. Ond roedd y wlad roedden ni'r gohebwyr ifanc ar y gwasanaeth Cymraeg newydd yn darlledu iddi hefyd yn bur wahanol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy