BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleisiau
Ffeithiau difyr
Oeddech chi'n gwybod?
Rhai ffeithiau diddorol am y De Orllewin.
Oes gennych chi ragor?
Cliciwch i ebostio
  • Mae 134,000 o siaradwyr Cymraeg yn ardal 'Lleisiau' y De Orllewin.

  • Daeth yr enw Saesneg am Abertawe, "Swansea", o enw un o wŷr Nors, Sweyne a sefydlodd gymuned yno cyn dyfodiad y Normaniaid.

  • Ham Caerfyrddin oedd "y Cynnyrch Arbenigol Gorau o Gymru" yng nghystadleuaeth Great Taste yn 2003.

  • Adeiladwyd Neuadd y Dref, Abertawe, rhwng 1929 a 1934 gyda'r tŵr yn symbol o ffyniant hyd yn oed ar adeg pan oedd yn wasgfa ar weddill y wlad.

  • Ddechrau'r 1700au pan oedd Caerdydd yn dal yn bentref pysgota, Abertawe oedd y porthladd allforio glo mwyaf yng Nghymru.

  • Yn y 1900au yr oedd mwy o gopr yn cael ei brosesu yn Nyffryn Tawe nag yn unman arall yn y byd. Ar hyd y pedair milltir rhwng y fan lle mae'r M4 heddiw a cheg Afon Tawe yr oedd dros 150 o weithfeydd yn 1890.

  • Yn ôl rhigwm Saesneg teimlai'r diafol yn gartrefol ym mwg a drewdod diwydiannol Cwm Tawe:
    "It came to pass in days of yore
    The Devil chanced upon Llandore
    Quoth he, "By all this fume and stink
    I can't be far from home I think!"

  • Yn y 1950au, Penrhyn Gŵyr oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i gael ei enwi'n Ardal o Harddwch Arbennig gan y Comisiwn Cefn Gwlad.

  • I Arglwydd Margam y mae'r diolch nad oes rheilffordd i Benrhyn Gŵyr. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dadleuodd y byddai rheilffordd yn tarfu ar yr harddwch.

  • Yn ôl y chwedl, yng Nghaerfyrddin y ganwyd y dewin, Myrddin.

  • Yr unig Myrddin arall y mae cyfeiriad ato yn yr oesoedd cynnar yw Myrddin Wyllt. Ond gogleddwr gwallgof oedd hwn a fyddai'n gwrthod byw o fewn pedair wal yn enwedig yn ystod tri mis yr haf. Gwell ganddo fyw ymhlith y creigiau yn Nyffryn Conwy.

  • Yr enw Rhufeinig ar Gaerfyrddin oedd Moridunum.

  • Bu gan y Rhufeiniaid a'r Normaniaid geyrydd yng Nghaerfyrddin.

  • Yn dilyn Siarter Frenhinol ym 1546, Caerfyrddin oedd yr unig dref yng Nghymru gyda'r hawl i'w thafarnau fod yn agored drwy gydol y dydd ar ddiwrnod marchnad.
    Yn sgil hynny, pennwyd bron bob diwrnod yn ddiwrnod marchnad gyda'r dref yn ennill yr enw drwg o fod yr un fwyaf meddw yng Nghymru gyda 150 o dafarnau yno ar un adeg.

  • Yn ystod ei ymgyrch etholiadol yn 1802 rhannodd y bancwr, Syr William Paxton, 25,275 galwyn o gwrw, 11,068 potel o wisgi, 8,879 potelaid o bort, 460 potelaid o sieri, 11,0770 brecwast a 36,901 swper mewn ymdrech i berswadio pobl i bleidleisio iddo.
    Yr hanes yw i lawer beidio a phleidleisio iddo oherwydd eu bod yn meddwl iddo fynd yn fethdalwr wedi'r holl wario.
    I'w profi'n anghywir adeiladodd yntau Dŵr Paxton i goffau marwolaeth Nelson.

    Cafodd Syr Richard Steele o Gaerfyrddin ei droi allan o Dŷ'r Cyffredin unwaith am gamymddwyn - ond daeth i fwy o enwogrwydd fel sylfaenydd y Tatler yn 1709 a'r Spectator yn 1711 gyda Joseph Addison.
    Priododd Mary Scurlock o Dŷ Gwyn, Llangynnor, a gyfarfu yn angladd ei wraig gyntaf yn Abaty Westminster.
    Yng Nghaerfyrddin bu'n byw yng nghanol y dref lle mae'r Llwyn Iorwg yn awr. Hebryngwyd ei gorff i Eglwys Sant Pedr liw nos gan 24 o gludwyr yn cario fflangellau o dân.

  • Llyfr Du Caerfyrddin, 1105, yw'r hynaf yn yr iaith Gymraeg fe'i sgrifennwyd yn y priordy a roddodd ei enw i Stryd y Priordy yn nhref Caerfyrddin.

  • Yn ôl y chwedl codwyd Castell Carreg Cennen gan Urien, un o farchogion Arthur.

  • Yn Llanymddyfri y Ganwyd y Ficer Pritchard, awdur Cannwyll y Cymry, casgliad o benillion poblogaidd gyda neges grefyddol ar gyfer y werin bobl.

  • Claddwyd Watcyn Wyn, awdur Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod, ym mynwent Rhydaman yn y gornel gyferbyn â'r gwleidydd, James Griffiths.

  • Y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at Myrddin yw'r un mewn cerdd o'r enw Armes Prydein sef Proffwydoliaeth Prydain, 1275. Fodd bynnag, mae'r arddull yn awgrymu i'r geiriau gael eu llunio oddeutu'r flwyddyn 930.
    Mae'r enw yn y llinell agoriadol, Dysgogan Myrdin sef, Proffwyda Myrddin.

  • Mae beddau dau fardd yn wynebu'i gilydd ym mynwent capel Bethania, Rhydaman. William Nantlais Williams a John Thomas Jôb a enillodd gadair y Genedlaethol deirgwaith a'r goron unwaith.
    Nantlais yw awdur y gerdd boblogaidd, "O lili wen fach, o ble daethost ti?"

  • Sgoriodd y cricedwr William Gilbert Anthony Parkhouse a gladdwyd yn Llandybie fil o rediadau mewn tymor 15 o weithiau. Chwaraeai i Forgannwg a chafodd ei ddewis i Loegr saith gwaith yn y 1950au.

  • O fewn dim ond dwy flynedd i Gymdeithas Gorawl Rhydaman a'r cylch gael ei ffurfio yn 1917 bu'n fuddugol ym mhrif gystadleuaeth gorawl yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yng Nghorwen yn 1919 ac yn Y Barri yn 1920.

  • Tyfodd Pontardawe ar y groesffordd rhwng dau lwybr porthyn, un o Abertawe i Aberhonddu a'r llall o Gastell-nedd i Lanymddyfri.

    Arwydd stryd yn Rhydaman
  • Gof yn y Betws, Rhydaman, oedd tad y gwleidydd Jim Griffiths (1890-1975) a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru yn 1964. Byddai ei dad yn cynnal 'senedd' yng ngweithdy'r gof gyda nifer o bobl leol yn cyfarfod yno i drafod pynciau'r dydd.

  • Yr oedd teulu John Adams [1735-1826], ail Arlywydd yr Unol Daleithiau a'i fab hynaf, John Quincy Adams [1767-1848], y chweched Arlywydd, yn dod o Lanboidi.

  • Cipiwyd Castell Carreg Cennen gan Owain Glyndŵr yn 1403.


    Oes gennych chi ragor o ffeithiau difyr?
    Cliciwch i ebostio neu llenwch y ffurflen isod.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy