BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleisiau
Caerfyrddin Enwau lleoedd
Rhestr o enwau lleoedd y de orllewin a'u hystyron.
  • Cliciwch yma i fynd i wefan 'Beth sy' mewn enw?' BBC Cymru i wybod mwy am enwau lleoedd yn yr ardal hon

    Mae croeso i chwi ychwanegu at y rhestr trwy ebostio deorllewin@bbc.co.uk neu lenwi'r ffurflen ar waelod y dudalen hon.

    Aman: cyfuniad o'r gair amanaw a man gydag amanaw wedi dod o'r gair banw yn golygu mochyn bach. Mae'r afon yn un o nifer o afonydd yng Nghymru sydd wedi ei henwi ar ôl anifail er nad yw hynny bob amser yn amlwg o'r ffurfiau modern. Gweler hefyd, Nanhyfer.

    Caerfyrddin: Moridunum oedd yr enw mewn Brythoneg sef cyfuniad o mori a dunum - môr a caer. Y ffurf wreiddiol yn y Gymraeg oedd Myrddin gyda'r din ar y diwedd yn golygu dinas neu gaer. Ond gan i rai dybio mai' enw person ydoedd ychwanegwyd Caer yn ddiangen at ddechrau'r enw a thrwy hynny y tyfodd y cysylltiad rhwng y dref a'r dewin Myrddin wrth i bobl dybio mai cyfuniad o Caer a Myrddin yw'r enw yn hytrach na chyfuniad o'r caer diangen yna a'r Brythonaidd, mori a dunum.

    Carreg Cennen: Cyfuniad o Carreg ac o bosibl, Cynnen.

    Cefn Sidan: Cyfuniad o Cefn a Sidan gyda cefn yn cyfeirio at ffurf y tirwedd: cefnen neu ridge yn Saesneg. Y farn boblogaidd yw mai cyfeirio at y tywod 'sidanaidd' ar y traeth mae'r sidan ond gall sidan hefyd olygu glaswellt neu dyfiant sy'n edrych fel sidan.

    Cydweli: Nid cyd a gwely ydi'r elfennau yn y gair yma er mor ddeniadol ydi'r syniad hwnnw o gydwelya. Mae gwir ystyr yr enw yn llawer llai rhamantus. Y ffurf hynaf ydi Cetgueli a datblygodd hynny Cadweli ac wedyn Cedweli sef tir yn perthyn Cadwal. Felly, enw ar ddarn o dir oedd o'n wreiddiol yn hytrach na thref.

    Dinefwr: Y ddwy elfen ydi Din sydd mor gyfarwydd mewn enwau lleoedd (dinas ac ati) ac yn golygu lle neu gaer a mawr. Yma yr oedd gorsedd yr Arglwydd Rhys yn y ddeuddegfed ganrif.

    Llandeilo: Latelian oedd y ffurf yn y ddeuddegfed ganrif. Cyfuniad o Llan ac enw'r sant. Teilo.

    Llanelli: Eglwys Sant Elli.

    Llangadog: Eglwys Sant Cadog.

    Llanymddyfri: Y ffurf yn y ddeuddegfed ganrif oedd Llanamdewri. Yr elfennau ydi Llan, wrth gwrs, am yn golygu ger neu'n agos i a dyfri dwr. Felly, yr eglwys ger y dwr. O bosib fod Dyfri yn enw ar nant hefyd.

    Llwynwhilwg: ger Llanelli. Yr ail elfen yn y gair ydi Chwil a hynny yn yr ystyr o chwilen neu drychfilyn yn hytrach na meddwdod.

    Nanhyfer: Y ddwy elfen yw Nant a yn golygu gafr. Mae nifer o afonydd yng Nghymru sydd wedi ei henwi ar ôl anifail er nad yw hynny bob amser yn amlwg o'r ffurfiau modern. Gweler hefyd, Aman.

    Pont-rhyd-y-fen: Mae'r elfennau cyntaf yn gwbl amlwg gyda rhyd yn lle i groesi afon. O bosib mai ven yn golygu wagen yw'r elfen olaf a hynny'n disgrifio beth fyddai'n croesi'r rhyd.. Cafodd y llecyn ei adnabod hefyd fel Tir pont rydyven a Ty'r Pen Pont Rhyd y ven.

    Yr Olchfa: yr elfennau yn y gair hwn ydi Golchi a Man ac yn cyfeirio at y defnydd o afon i olchi defaid.

    Beth am ychwanegu enwau lleoedd, ffermydd, tai a thafarnau diddorol at y rhestr hon trwy ebostio deorllewin@bbc.co.uk neu lenwi'r ffurflen isod.


  • Cyfrannwch

    Deric John o Abernant-y-wenallt
    Dinefwr. Rhaid anghytuno gyda'ch esboniad o'r enw hwn. Yr elfennau ynddo yw 'din' ac 'efwr' yn hytrach na 'din' a 'mawr'. Enw ar blanhigyn yw 'efwr' - 'cow parsely' yn Saesneg. Mae'r un elfen yn bresennol yn Rhosifor, Llandeilo Talybont, Caerefrog (efwrog)York,etc. Gweler, G.P.C sub nomine, ac Enwau Lleoedd, Ifor Williams, tud. 50.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy