BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleisiau
Glowr Gwilym Owen a glowyr y de orllewin
Mae gen i le mawr i ddiolch i'r cyfaill Sulwyn Thomas. Wna i ddim rhestru'r holl resymau ond un o'r rhai pennaf ydi'r ffaith mai ef aeth â fi i Bontyberem am y tro cyntaf erioed.
Yr esgus dros fynd â fi yno oedd mai yno, yn ei farn ef, oedd y lle gorau i ganfod criw o lowyr Cymraeg parablus, cyfeillgar a deallus.
Ac, fel arfer, yr oedd yn gwbl gywir.

Yr ymweliad cyntaf
Mil naw saith dau oedd hi a'r tywydd yn ofnadwy. Doedd glofa Pentremawr ddim yn lle arbennig o ddeniadol ynghanol y niwl a'r glaw.

Pwll drifft oedd o doedd dim siafft yno dim ond glowyr yn diflannu i dwll mawr ac i grombil y cwm.

GlowrOnd er mor oeraidd a gwlyb oedd y tywydd; roedd y croeso a'r ymateb â gawsom fel criw ffilmio yn arbennig o gynnes.

A'r hyn a'm trawodd yn fwy na dim oedd y gymdeithas glos, gymdogol a fodolai ymhlith y gweithwyr a'r cadernid oedd yn eu sgwrs wrth fynd ati i drafod oblygiadau mynd ar streic yn nyddiau Llywodraeth Ted Heath.

Teimlo'r emosiwn
A dyna fynd yn ôl ddeuddydd yn ddiweddarach i aros y tu allan i Neuadd Pontyberem lle'r oedd y glowyr yn cyfarfod i benderfynu sut i weithredu.

Doeddan ni ddim yn cael mynd i mewn. Roedd hynny wedi ei esbonio inni gan y cadeirydd, William Evans, Carwe, a'r ysgrifennydd, Howard Jones.

Ond wrth sefyll y tu allan i'r drysau roedd rhywun yn gallu clywed a theimlo'r emosiwn o fewn y muriau.Doedd dim dwywaith sut roedd y gwynt yn chwythu. Roedd bois Cwm Gwendraeth am sefyll fel un gwr. Doedd dim plygu i fod!

Ac yn ystod y streic ei hun fe ddaeth criw Pentremawr i'r stiwdio yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn rhaglenni byw a minnau yn gwneud fy ngorau glas i dynnu blewyn neu ddau o'u trwynau.

Ond ymdrech gwbl ddiwerth oedd hynny roedd yr hogiau a'u teuluoedd yn gwbl ddi droi'n ôl.

Diwedd shifftA thros y blynyddoedd mi gedwais i mewn cysylltiad â nhw wedi iddyn nhw orfod symud i lofa Cynheidre ac, yn ogystal â hynny, fe ddois i adnabod glowyr y Betws ac Abernant a mawr fyddai'r tynnu ar goes y gog hwn a fentrai ddadlau gyda choliars y Gorllewin.

Streic fawr '84
A phan ddaeth streic fawr anffodus '84 yn ôl i'r ardal hon yr awn i ac yng nglofa Cynheidre yr oeddwn i y bore hwnnw pan aeth y bechgyn yn ôl at eu gwaith wedi colli popeth ond eu hunan barch.

Roeddan nhw'n gwybod fod dyddiau'r diwydiant yr oeddan nhw'n aberthu'r cyfan bron drosto wedi eu rhifo gan 'Yr hen wyddeles' yn rhif deg Stryd Downing.

Ac ar y stryd ym Mhontyberem y treuliais i'r diwrnod hwnnw gydag uned ddarlledu allanol Radio Cymru.

A diwrnod cymysglyd ei emosiwn oedd o.

Rhyddhad ar y naill law fod y cyni a'r dioddef drosodd ond pryder, ar y llaw arall, mai llawenydd dros dro fyddai'r cyfan.

Ond roedd yna groeso yn caffi Cynnes. Roedd y Gymraeg yn llifo oddi ar wefusau pawb dros baned o goffi a thamaid o fwyd.

Rywsut, roeddwn i'n teimlo fod yna ddigon o gadernid yn y cwm i wynebu problemau'r dyfodol.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mi fuais i'n ôl i weld a lwyddon nhw.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy