BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleisiau
Ger y pwll Sian Sutton yn cofio streic y glowyr
Ym 1984 gwelwyd cychwyn anghydfod diwydiannol gyda'r mwyaf arwyddocaol erioed yn hanes gwledydd Prydain.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, bu gohebydd BBC Radio Cymru, Sian Sutton sy'n hannu o Bontardawe, yn ymweld â hen ardal y glo yn y de orllewin ac yn siarad â dynion a merched oedd yn rhan o'r streic.

Dyma ei hargraffiadau yn dilyn hynny:
Blwyddyn y Streic
Ym 1984 roedd gweld rhes o lorïau, un ar ôl y llall, ar draffordd yr M4 yn rhan o'r siwrne ddyddiol o Gwmtawe i'r gwaith yn y BBC yng Nghaerdydd.

Roedd y lorïau yn cario glo i waith dur Porth Talbot yn ystod Streic y Glowyr. Ac wrth fynedfa'r gwaith roedd grwp o bicedwyr yn ceisio darbwyllo'r gyrwyr i droi nôl a'r heddlu yn ceisio cadw cyfraith a threfn.

Roedd gwrthdaro yn anochel.

Swyddi, pyllau a ffordd o fyw
Dyma un o'r atgofion am gyfnod y streic ddaeth ag Arthur Scargill o Undeb y Glowyr benben â Margaret Thatcher a'i llywodraeth.

Ond wrth i'r anghydfod diwydiannol barhau a'r wythnosau droi'n fisoedd, fe ddaeth nodweddion Sian Suttoneraill hefyd yn ymwneud â chymdeithas y Cymoedd yn amlwg.

Er na chafwyd pleidlais genedlaethol gan Undeb y Glowyr, roedd pob pwll glo yn Ne Cymru ar streic gyda glowyr a'u teuluoedd yn gadarn eu cefnogaeth i'r ymdrech i achub swyddi, pyllau glo a ffordd o fyw.

Fe ddaeth ymdrech fawr y gwragedd a newid agwedd yn y cymunedau glo wrth i ferched ddod at ei gilydd i gynnal eu teuluoedd a'r plant drwy gasglu arian a pharatoi parseli bwyd wythnosol ac i weithredu'n gyhoeddus am y tro cyntaf.

Ym mis Mai er hynny roedd nifer o lowyr yn blino ar y frwydr ac yn dechrau sôn am ddychwelyd i'r gwaith gan dorri'r streic. Roedd teimladau'n gryf iawn ymhlith y streicwyr a'r gweiddi Scabs yn uchel wrth glwydi'r pyllau.

Newid bywydau
Ugain mlynedd yn ddiweddarach mae'n syndod bod y teimladau'n dal yn fyw iawn yng nghof pawb oedd ynghlwm wrth ddigwyddiadau'r Streic ac wrth imi baratoi rhaglen Manylu daeth yn amlwg i'r flwyddyn newid bywydau yn y cymoedd.

Ac mae llawer o brofiadau'r cyfnod wedi'u cadw mewn dyddiaduron a lluniau sydd wedi'u tynnu o'r cypyrddau a'r atig.

Cyn lowyr erbyn hyn yn sôn am eu penderfyniad wrth deithio Prydain yn picedu a'r profiadau yno wrth i'r heddlu eu gwylio, eu rhwystro a'u holi ac am wrthdaro ar linellau piced yn enwedig yn Orgreave Swydd Efrog.

Aelodau'r heddlu wedyn oedd a pherthnasau eu hunain yn gweithio yn y diwydiant glo yn gwneud casgliad ariannol i'r glowyr a'u teuluoedd ond yn gorfod plismona'r picedwyr eilradd anghyfreithlon.

A'r gwragedd fu'n ymgyrchu dros eu teuluoedd gan fynd a neges y glowyr i lwyfannau cenedlaethol.

Cau pyllau
Fe ddaeth tro ar fyd i bawb wrth i'r pyllau glo gau yn y blynyddoedd wedi'r streic. Mae'n rhyfedd meddwl erbyn hyn wrth fynd heibio hen safle pwll glo Abernant bod naw cant o bobl yn gweithio yno ugain mlynedd yn ôl.
Caeodd y pwll o fewn dwy flynedd i'r streic.

Erbyn hyn mae nifer o'r glowyr wedi ail hyfforddi ac yn dilyn gyrfaoedd newydd na fydden nhw wedi'u dychmygu o gwbl 20 mlynedd yn ôl; un yn dechnegydd ysbyty, un arall yn athro offerynnau pres mewn ysgolion, un arall - ar ôl damwain dan ddaear - yn gyrru faniau i gwmni lleol, un o'r gwragedd ar ôl graddio yn gweithio i fudiad Cymorth i Fenywod tra bo Prif Gwnstabl dros dro Heddlu'r De wedi ymddeol ar ôl cyfnod yn arolygwr lleyg ym myd addysg.

Mae'r cyn swyddog undeb yng Nghyfrinfa Abernant, a oedd wedi derbyn tâl diswyddo'n gynnar ym 1986, yn hanner cant oed ac yn gweithio'n wirfoddol i Undeb y Glowyr yn cynghori cyn lowyr a'u gweddwon ar eu hawliau a sut i wneud cais am iawndal am effaith llwch y glo.

Erbyn hyn, gyda'r pyllau wedi cau a'r fywoliaeth dan ddaear yn rhan o'r gorffennol, dyma'r unig gysylltiad sydd ar ôl gyda diwydiant a fu'n rhan o hanes cymoedd y De ynghyd ag atgofion am brofiadau, cwmnïaeth a ffordd arbennig iawn o fyw - ac am un flwyddyn gofiadwy Streic 1984.

Gohebydd streic - profiadau Alun Lenny o Gaerfyrddin.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy