Miss Cymru init
Nished= Hances boced teheoefad=Nofio haha
Arwyn Gittins,Salmon Arm,Canada
clecs - gossip
cario clecs - gossip monger
Bethan James o Felingwm Uchaf
Roedd mamgu fy nghwr bob amser yn galw moron yn 'garetsh!'
Siw o Landeilo'n wreiddiol
Os unrhywun yn gwbod ystyr i'r gair "Ffos" heblaw am gwter? Ydy e'n gallu meddwl Ffynnon hefyd? Diolch
Deric gynt o Bontardulais
tapini = ta beth am hynny
'simo i'n mynd 'na tapini'
wnco mynco = hwn acw man acw
onco mynco = hon acw man acw
shgwla = disgwylia'
shgwla ar onco mynco
wilia = chwedleua
son amamboitu = amdano'
beth i ti'n wilia amboitu? 'hefyd' beth i ti'n wilia boitu'
Guto Prys o Ddyffryn Ceidrych, Llangadog
ansh - cnoiad
briwa - difa
bwlffacan - chwarae am bwyti (o boutu)
benni - gorffen
briwlan - pigo glaw
clatshen / colbo / crasu - dyrnod
clymhercan - cloffi
clopawelpedd - bratiog
clapian - cario clecs
coedo - mynd yn gyflym
cleren - slap
clyndarddan - swn mawr
clandariwns - bob-siap
colbocs - meddw gaib
ceit - twpsyn
dwyno - baeddu
ffusto - ennill
gwhwrad - gweryru
hercyd - mofyn
hwpo - gwthio
hwre (acen ar yr w)/hwde - cymer
jengyd - dianc
jycos (acen ar yr o) - smala
jibets - yfflon
llech - person araf
llibyn - person lletchwith
myntwn i/mynte fe - meddwn i/meddai ef
net - rhywbeth yn dda
oifad - nofio
penwan - crac iawn
pledo - dadlau
pletu - plygu
pilso - dweud y drefn
rhwto - rhwbio
rhacs jibiders - yfflon
shabwcho - chwarae rhywiol
saco - rhoi
shwblachan - creu annibendod
snwchian - cusanu
shwc - jwg cario llaeth
shihoedan - galafantio
soga - menyw salw
tolach - maldod
trochi - baeddu
twmbarddan - creu annibendod
trangwls - rybish
whilmentan - chwarae am bwyti
wap - yn fuan
wado - taro/trechu
whilgryt - crwtyn drwg
wompen - mawr iawn
ymbo - nid wyf yn gwybod
ymbach - ychydig
ynta - bydde ni feddwl
Arwyn Gittins,Salmon Arm BC, Canada
Potch, potchan potch: tato wedi ei rhwygo
potchan: engaging in an activity when you do not possess the skill to do a good job
Catrin Miles o Aberteifi
Nhad (yn enedigol o Gwm Gwaun, Sir Benfro) a adroddai'r rhigwm hwn am fysedd y dwylo, gan dechrau 'da'r bys bawd: "Twm tabwt Beni lwdwt Beni- Beni Cefnder i ni Bys bach truan gwr, tynnu drain trwy'r dwr, helpu Mam i facsu". Unrhyw un yn gyfarwydd a hwn?
Cerith Jones o Gwmgors (gwreiddiau yn y Waun)
Wpo - i ddodi
Cwni - i godi
Taclu - i wisgo
Oifad - i nofio
Taffis - melysion; losin
Acha - ar e.e. acha Ddydd Llun = on Monday
Colfen - coeden
Maldod - i rhoi 'fuss'
carcus - gofalus
coglish - 'ticklish'
Jinglarings - pethau pert
Ito - poeni e.e. sai'n ito = i don't care
Dannedd Dodi - 'dentures'
Marian o Gwmgors gynt
swmpo - codi er mwyn cael amcan o'r pwysau
fflwcs - pethau man diwerth
delwi - sefyll yn stond yn yr unfan a'ch meddwl yn bell i ffwrdd
llwy gawl - llwy fawr, tablespoon
Siw o Landeilo yn wreiddiol
Roedd "rwto mas" yn meddwl cael gwared o rhywbeth. Er enghraifft "dw i wedi cael staen ar fy nghot, gwell i fi rwto fe mas 'da clwtyn"
geraint (teulu o Benbre)
Atgofion am fy mamgu a tadcu:
"Wi'n bregethan..." - gofyn a gofyn (pregethu)
"palodi'r ardd" - palu'r ardd
"ffwrcho'r dom" - fforchio'r gwrtaith yn yr ardd
"tano'r dryll dwblen" - saethu'r gwn double barrel
"catren" - cartridge shot
"ma'fe wedi trigo" - wedi marw
"Paid ti a warebiti a brigibowtan" - chwarae o gwmpas a gwastraffu amser
"cloffen gaws" - brechdan gaws
"sarnu clocsie" - maeddu esgidiau
"Sponer glandeg" - cariad smart.
Hanna Phillips, Pencader
picwns - "wasps"
Gwawr , Rhydlewis
Bogel=botwm bol. Woblyn=swigod/'bubbles' yn y bath.
Helen - â gwreiddiau yn Resolfen
Ffowlyn - cyw iâr
Siarad fel y nant - siarad yn ddi-stop
Ian Jenkins o Abergwaun
moddion / moddion ty = dodrefn
Adam Jones o Lanaman
Trigo!, Rhywbeth wedi marw megis "Mae'r dafad wedi trigo pen draw'r ca'
Margaret, Tyddewi
'damshel ar' - sefyll ar mae'n towlu (sef taflu) 'tân a trwsto' - disgrifio storm mellt a tharannau
Margaret Morris, Caerfyrddn
Mathor- shrew.
dwlod - loft
cordyn ceit - someone who is very thin
Eilir Owen gynt o Ystradgynlais
Fflwcs: bwydydd nad ydynt yn rhai iach
Taffish: losin yn gyffredinol, nid dim ond toffi.
Piner: ffedog
Dwffod y golau: troi'r golau bant
Dannedd doti: dannedd gosod
Philip o Gaerfyrddin yn wreiddiol
Beth am y gair "rhynt" (neu o bosib "rynt")am rhwng, fel mewn "Steven Jones yn cicio'r bél rhynt y pyst"
Llanelli
Byrnu 'mlan - Mynd ymlaen
John, gynt o Godre'r Graig
erfyn = disgwyl
waff = yn gyflym
wys = fy ngwas i
Smitw = Ynysmeudwy
mae'n copri lan = mae'r awyr yn tywyllu; mae'r dywediad hwn yn tarddu o'r amser pan oedd cymylau tywyll o fwg (o'r gweithfeydd copr)yn llygru'r awyr. Mae'r dywediad yn dal ar lafar i ddisgrifio'r tywydd.
Dewi Owen o Glydach, Abertawe
Cwmpo ("Koom-Poh") = i ddisgyn, i fynd lawr yn sydyn heb rhoelaeth; Fisi ("Vee-Shee") = Prysur, llawer i wneud; Cwpla ("Koo-Plah!") = Gorffen, i cwbwlhau.
Gareth Rhys Williams o Cwmtawe Uchaf
Wp tip cart lawr cwm - rhwbeth meddodd fy hen Famgu o Sir Gar. Am rhwbeth yn cwmpo a pethe yn mynd bobman. Sain siwr os di e dal yn gal eu weud ne beido.
Wefan diddorol!
Kay o Brecon
Dwi'n dod yn wreiddiol o Carmarthen, wedi bod yn byw yn Caerdydd a Tenby hefyd. Mam wastad yn deud Awech yn lle Chickens am rhyw rheswm. Os na rhwyn arall yn defnyddio'r word yma?
Aneirin Karadog Abertawe
Simo i - Dydw i ddim
Sharon Dawson gynt o Sir Gaerfyrddin
Rhacs jibiders - rhywbeth wedi'i rwygo/chwalu yn ddarnau bach.
Bo bop - wedi gorffen (defnyddir pan yn siarad a babi neu blentyn ifanc iawn).
Cwpla - gorffen/cwblhau.
Ryan o Llydaw
Dwi wedi symud i fyw i weithio yn Lydaw ac dwi eisiau deud fod fi yn dwlu ar acen y de ac mae o yn ecstrodinary iawn.
Alan Richards o Bontarddulais
mae hi'n ufol - person sy' ddim yn cynhyrfu
motriwilen - budrchwilen, madfall
motriwilen glust - chwilenglust
myslaw - maes o law
fel sgimren < esgynbren - yn denau iawn
fel rodni - person anniben,
Rodneys - gang a drigai ym Merthyr Tydfil gynt
lardad - cweir, curfa
ware ber < chwarae ber, - yn boeni rhywun yn ofnadwy, 'mae bois y gwaith yn ware ber ag e'
Peter Evans o Landysul
Croen ei din/ei thin ar ei dalcen/ei thalcen - dim hwyl ar y person;
Dim bagal tano - methu sefyll;
sothach - ee bwyta sothach/bwyta spwriel;
siarad lwtsh - siarad dwli/di-werth;
Llaeth y fuwch ddu - stout(clywais gan hen ddyn o Gastell Newydd Emlyn)
Margaret Evans - yn wreiddiol o Llansamlet
Defnyddiai fy mamgu ag aelodau fy nheulu y geiriau canlynol:
Sgelet am sosban;
Tecilter am tecyll;
Y beili oedd yr ardal o gwmpas y ty;
Colfen am goeden, a chofiaf mamgu yn cyfeirio ataf fel `sgenes' a oedd yn golygu geneth am wn i.
Siw o Landeilo yn wreiddiol
Diddorol i weld "swmpo" yn meddwl i godi rhywbeth trwm. Dw i wastad wedi clywed ei ddefnyddio yn yr ystyr "i deimlo am rhywbeth gyda'ch dwylo".
Hefyd beth am "golwg sha nol" i feddwl rhywun yn edrych yn anniben neu welw.
Roedd "tocyn" wastad yn golygu bara menyn i fi fel plentyn.
Sian Thomas o Alltwalis
Pwde - pwdu sef bod yn stroppy (ystyfnig neu anodd eich trin)
Mair - Cwm Gwendraeth
Ido - becso, poeni - "Sai'n ido":
Mae rhywbeth eitha heriog am yr ymadrodd, allen i feddwl taw o 'hidio' mae e'n dod.
Rhian ger Llanelli
Fel twba- tew!
Deufryn Edwards, Llandysul
Cachgi bwm - wasp
Mathew Hywel, Llansaint
Dal hâl - dal dig
Mela - cosi, cyffwrdd (ymhel â)
Cernod - bwrw rhywun, bonclust
'Sgaldanu - llosgi
Dannod - edliw
Angharad o Sir Benfro
"Dw i ffili haru" - dydw i ddim yn hoffi/lico
Richard Hodges, Cwmtwrch
"Wedi mynd i Llundain ac anghofio sut i ddweud Buwch."
Disgrifiad o rhwyn sydd wedi newid eu acen er mwyn swyno mwy posh. Clywais hon wrth my mamgu.
David - Caerdydd/Mathry
Neges i Sarah o Hwlffordd:
"Maldod" - ti'n reit. 'Fuss' yw e
Gareth o Gastellnedd (ond â'm calon yn y Gorllewin)
Beth am y rhain?
Dawnshgyl - sathru dan draed, "trample"
Toc - tost a thê
Brat - ffedog
Cnyw - ceffyl (hen air o Sir Gaerfyrddin)
Oifad - nofio
Cerys o Rydaman
bosh = sinc
pacha = peidiwch â ... (ee. pacha wherthin = peidiwch chwerthin!)
Huw Evans o Gastell Newydd Emlyn
Dwyno = trochi, gwneud rhywbeth yn frwnt, e.e. "Paid dwyno dy ddillad newydd di!"
Jibet = menyw ffit, annymunol. hefyd "swigw", e.e. "Ma' honna'n riel hen swigw/jibet."
Elin yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin
Roedd yn ddiddorol darllen sylwadau "Dafydd o Sir Benfro yn wreiddiol" am y dywediad "Dim Clem." Rydw i bob amser wedi defnyddio'r dywediad hwn yn y cyd-destun anghywir mae'n ymddangos, achos bydda i'n dweud "does dim clem gen i pwy yw e" neu "does dim clem gen i faint o'r gloch mae'r ffilm yn dechrau" .. ac yn y blaen. Dw i hefyd yn ei ddefnyddio i ddweud "does dim clem gen i sut mae gwneud rhywbeth."
Dafydd - Sir Benfro yn wreiddiol
Whilibowan - troi yn ei unfan pan ddylid fynd ati i wneud rhywbeth
Dim Clem - Dim syniad ar sut i wneud RHYWBETH - Defnyddir yn aml ar Bobl y Cwm yn anghywir yn fy marn i sef am rywun ddim yn gwybod rhywbeth, tra heb y gallu i wneud rhywbeth ddylai fod.
sarah, hwllffordd
Allwch chi esbonio beth yw "maldod" - ife i gael eich trin yn dda iawn, ("fuss" yn saesneg)?
Un ystyr i'r gair 'maldod' ydy rhoi mwythau neu i 'sbwylio' rhywun. A oes gan unrhyw un ystyr arall i'r gair? Dwedwch wrthon ni yma! GOL.
Rhys Ystalyfera
Brigot= brigyn, cangen bach, "branch"- y derot yn canu ar y brigot- yr aderyn yn canu ar y brigyn
Mari o Gaerfyrddin
Cyrcus - gofalus
Alex Jones o Pen-y-groes ger Crosshands
Bencyd neu Mencyd = Menthyg - to lend/borrow.
Ma nifer o fy nheulu yn dweud y gair.
Gwenda gynt o Frynaman
Golwg ddychwel - yn golygu fod golwg wan ar rywun.
Cadw dy bumps mas - cadw dy fysedd allan.
Yfol - araf.
Fel cyhuraeth - fel ysbryd.
Dwbwl dapan - i wneud rhywbeth yn drafferthus.
James a Mared
Danjerus - peryglus
Catherine o Lanelli
Swmpo - codi rhywbeth trwm - to lift
Lowri Thomas, Cwm Gwendraeth
Golwg shibec - golwg welw;
Shimpil - golwg anniben, di-rân;
Tyle - allt/rhiw;
Eleri o Tyddewi
Blino swps - wedi blino llawer;
Wedi ffwndo - Wedi blino;
Dros ben llestri - "over the top";
Bendramwnigol - "everything upside down";
yn y fan - cyn bo hir;
becso - i boeni;
Dewi Owen o Clydach, Abertawe
Wpo = Gwthio, (Gwrthwyneb o dynnu);
Shiglo = "to shake" yn Saesneg;
Cwni = i godi o'r gwely/sefyll lan
Llinos o Landysul
Bigitan - cwympo mas / anghytuno. Bripsyn - tamaid bach. Browlan - siarad fel pwll y mor. Carcus - bod yn ofalus. Clorwth - dyn neu fenwy fawr. lletchwith. Coglish - to tickle. Comopo - rhoi stwr i rhywun. Danto - cael llond bola ar rhywbeth. Galifantan - mynd am daith. Lapswchan - cusanu. Panso - gwneud eich gorau. Shigwdad - angen ysgwyd rhywun ar ddihun. Tampan - crac iawn. Wejen / sboner - cariad benywaidd / gwrywaidd.
Llinos Jones o Landysul
Rhug - hiccups
Nia Jenkins, Eglwyswrw
Mae pobol ffor' Crymych yn iwso "janglerins" yn lle clystlysau
Bethan o Dreforys
Taclu - gwisgo
Siân Roberts (o Bencader yn wreiddiol
dyrsod = mwy nag un aderyn)
Lisa - yn wreiddiol o Lanelli
Ma "w(h)ado" hefyd yn gallu golygu "to beat" - rodd mam-gu yn ei ddefnyddio wrth neud cêcs, felly rodd hi'n gweud bo ishe "wado'r gymysgedd", ond odd hi hefyd yn dweud "wada bant" gan feddwl "pala mlân" "get on with it"
Heulwen Roberts o Bontneddfechan
aderyn = derot