BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleisiau
Straeon digidol - Cipolwg ar Gymru Cipolwg ar Gymru - straeon digidol
Bydd cyfle i drigolion Cwm Gwendraeth a'r cylch ddweud eu hanesion a'u straeon eu hunain ar y We diolch i gynllun cyffrous straeon digidol gan y BBC.
Mae gwefan Cipolwg ar Gymru yn cynnwys casgliad o brofiadau amrywiol pobl a bydd gweithdy yng Nghwm Gwendraeth fis Ebill i'ch helpu chi rannu eich profiadau.

"Mae gan bawb stori i'w hadrodd ac mae straeon digidol yn galluogi pobl i ddweud eu straeon drwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf," meddai Carwyn Evans, un o'r rhai sy'n gofalu am y cynllun.

"Yn ystod y gweithdy, pum niwrnod bydd pob cyfrannwr yn creu ffilm fer ac yn adrodd ei stori yn ei steil unigryw ei hun.

"Bydd y straeon yn ymddangos ar wefan Cipolwg ar Gymru

"Mae'r gweithdy yn rhad ac am ddim, ond mae yna gyfyngiad ar y nifer all gymryd rhan a bydd rhaid ymgeisio am le arno," meddai.

"Mae BBC Cymru yn chwilio am geisiadau gan bobl o unrhyw oed dros 18 ac o bob cefndir.

Mae straeon digidol yn straeon personol a all fod yn seiliedig ar unrhyw beth - cariad, gwaith, dyheadau, ofnau, y gorffennol a hyd yn oed y dyfodol. Yr hyn sy'n bwysig yw eich safbwynt chi," ychwanegodd.

Bydd Noson Wybodaeth yn Neuadd Pontyberem, Mawrth 24, rhwng 7.00 9.00pm gyda chyfle i bobl weld rhai o'r straeon rhagorol sydd eisoes wedi eu creu yn barod ar hyd a lled y wlad hyd a chael gwybod mwy am yr hyn fydd yn digwydd yn y gweithdy.

Mae'r Noson Wybodaeth yn agored i bawb, a bydd ffurflenni cais ar gael.

Dyma ddyddiadau'r gweithdai:
l:Neuadd Pontyberem - Y gwaith paratoadol
Nos Lun Ebrill 19 - 7:00-9:00 pm Ymgynnull.
Dydd Gwener Ebrill 23 - Drwy'r dydd - Cylch Stori
Dydd Sadwrn Ebrill 24 - 1 awr - Dal Delweddau.

Neuadd Poniets - Y gweithdy cynhyrchu
Dydd Iau Ebrill 29 - Drwy'r dydd - Gweithdy Cynhyrchu
Dydd Gwener Ebrill 30 - Drwy'r dydd - Gweithdy Cynhyrchu.
Dydd Sadwrn Mai 1af - Drwy'r dydd - Gweithdy Cynhyrchu.

Logo Cipolwg Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn Evans ar 02920 322576 neu drwy e-bost ar: carwyn.evans@bbc.co.uk


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy