BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Lleisiau
Ray, Marc a Sian y cyflwynwyr Cyflwyno Lleisiau i'r de orllewin
Mae Lleisiau wedi cyrraedd y De Orllewin gydag ail gynllun Lleisiau BBC Radio Cymru wedi cychwyn ar Fawrth 1, 2004.

Tonfedd Lleisiau ar BBC Radio Cymru yw: 104.2 104.6 FM
Ac ar wefan Lleisiau ar y we.

Mae Lleisiau wedi cyrraedd y De Orllewin.

Rhoddwyd cychwyn i ail gynllun Lleisiau BBC Radio Cymru gyda digwyddiad arbennig yn cynnwys cannoedd o blant ysgol ar Barc y Strade ddydd Gwyl Dewi 2004.

Mae'r trefi a'r pentrefi y bydd y Lleisiau yn ymweld â hwy o fewn cylch sy'n ymestyn o Gaerfyrddin i Landeilo, i Borth Talbot ac Abertawe a Llanelli.

A phrif lais y gwasanaeth newydd ydi Ray Gravell a gafodd ei dacl gyntaf i mewn yn fwy na llwyddiannus fore Dydd Gwyl Dewi ac ennill cefnogaeth eang i'r fenter yn yr ardal.

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yr oedd Phil Bennett y cyn faswr rhyngwladol a fu'n chwarae ochr yn ochr a Ray, nifer o chwaraewyr prsennol y Scarlets a'u hyfforddwr, Gareth Jenkins, y prifardd Alan Llwyd, actorion Pobol y Cwm a phennaeth BBC Cymru, Menna Richards.

Am rai misoedd bydd gan yr ardal hon ei rhaglenni radio ei hun ar BBC Radio Cymru. Gyda Ray Gravell yn darlledu i'r ardal rhwng 8-30 a 10-30 o fore Llun tan fore Iau.

Yna, foreau Gwener, bydd Marc Griffiths yn darlledu rhwng 8.30 a 10.30, eto yn arbennig i'r ardal, gan gyflwyno rhaglen fywiog o sgwrs a chlonc.

Mae gan Marc, o Lanybydder, hefyd ei raglen ei hun ar ddydd Sadwrn, am 7.15pm, sydd i'w chlywed drwy Gymru gyfan.

Yn y prynhawn bydd rhaglen ddyddiol Sian Thomas yn cael ei darlledu rhwng 2.00 a 4.00 bob dydd.

Bydd yr ardal yn cael sylw ar raglenni eraill BBC Radio Cymru hefyd, fel C2.

A bydd Ray Gravell yn teithio i bob cornel o'r gorllewin yn cyfarfod pobl ac yn dod â'r difyr a'r diweddaraf yn fyw ar ei raglen.

Cychwyn ar y Strade

Dyma restr o'r ymweliadau:
Mawrth 1: Parc y Strade o saith y bore tan 5.30 y nos gyda Chôr Meibion Llanelli a'r Brodyr Gregory ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan..

Mawrth 2: Eglwys Dewi, Stryd Woodfield, Treforys.

Mawrth 3: Castell-nedd. Recordio Beti a'i Phobl yng Nghlwb Rygbi Mynydd y Garreg gyda'r nos..

Mawrth 4: Canolfan Gelfyddydau Pontardawe. Recordio Cant y Cant yng Nghlwb Rygbi Cwmgors..

Mawrth 5 a 6: Canolfan Siopa Rhydaman. Gig yn Nhy Tawe, Abertawe

Mawrth 8: Cydweli.

Mawrth 9 a 10: Caerfyrddin. Recordio Talwrn y Beirdd yng Ngorseinon. Gweithdy a chwis pop yn Ysgol Maes yr Yrfa. Recordio Manyl;u ym Mhontyberem nos Fawrth.

Mawrth 11: Canolfan Elli a'r Farchnad Llanelli.

Mawrth 12: Menter Cwm Gwendraeth, Pontyberem.

Mawrth 13: Canolfan Elli a'r Farchnad, Llanelli.

Mawrth 15: Marchnad anifeiliaid Llandeilo.

Mawrth 16: Gwaun Cae Gurwen. Beti George yn holi Gareth Edwards. Clwb Rygbi Cwmgors. Gweithdy a chwis pop yn Ysgol Pantycelyn.

Mawrth 17: Canolfan Grefftau Llanymddyfri.

Mawrth 18: Ty Tawe, Abertawe.

Mawrth 19: Co-op Ystradgynlais. Cyngerdd gyda Huw Chiswell a Chôr Orpheus Treforys yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe. Côr Meibion Llanelli a Lleisiau Blaenau.

Mawrth 25 - Ebrill 2: Trimsaran.

Ebrill 5 Ebrill 16: Gwaun Cae Gurwen

Mae cynlluniau i dreulio pythefnos ar y tro hefyd yng Nghwm Aman, Cwm Tawe a Chwm Nedd.

Beth yw Lleisiau?
Cynllun arbennig sydd ar waith ar hyd a lled Prydain gan y BBC dan yr enw Voices ydi Lleisiau. Bu Lleisiau Cymraeg cyntaf y BBC ym Mlaenau Ffestiniog y llynedd yn llwyddiant ysgubol sy'n dal i weithredu gyda phobl a mudiadau lleol yn cael llais ar yr awyr ac ar y we am y tro cyntaf.

Mae BBC Cymru yn benderfynol o weld yr un llwyddiant yn y De Orllewin.

Eich dewis chi
Rhan allweddol o lwyddiant Lleisiau yw mai y bobl eu hunain sy'n penderfynu beth maen nhw eisiau'i glywed ar y radio a'i weld ar y We.

Aled Glynne Davies - de - ac eraill mewn cyfarfod yn Rhydaman i gyflwyno LleisiauMae'n gyfle heb ei ail i bobl gyfleu bwrlwm bywyd eu hardal, lleisio barn a sôn am eu profiadau a'u gobeithion.

Mae'n gyfle heb ei ail i bobl gyfleu bwrlwm bywyd eu hardal, lleisio barn a sôn am eu profiadau a'u gobeithion.

Mewn cyfarfod yn Rhydaman i roi cychwyn i Lleisiau'r De Orllewin dywedodd Golygydd BBC Radio Cymru, Aled Glynne Davies:
"Nid mater o'r BBC yn dod i mewn i'ch ardal a dweud, 'Dyma'r ydym ni'n mynd i'w wneud,' ydi Lleisiau ond BBC Radio Cymru yn rhoi cyfle i chi gael yr hyn ydych chi ei eisiau ac fe brofodd hynny yn llwyddiannus iawn gyda Lleisiau Blaenau.
"Lleisiau fydd y Radio Cymru lleol ar y Radio Cymru cenedlaethol," meddai.

Ymhlith y rhai fydd yn llywio Lleisiau yn yr mae Keith Davies o Rydaman sy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed lleisiau ac acenion pobl ei ardal ar yr awyr.

"Bydd y cynllun hwn yn berchen i gymaint o bob ag fydd ishe'i berchen e," meddai.

LleisiauA dywedodd Ray Gravell mai ei obaith ef yw y bydd ei raglen newydd arbennig ef yn dod â phobl y Gorllewin at ei gilydd gan wneud i bawb deimlo mai eu radio nhw yw hi.

"Mae e'n brosiect mentrus. Fe fyddwn ni'n gwrando ar lais y bobol, yn mynd at y bobol eu hunain," meddai.

Dychwelwch i'r wefan hon am ragor o wybodaeth.

Dychwelwch yn rheolaidd i'r ddalen hon am fwy o newyddion

Cliciwch i weld beth sydd gan Ray i'w ddweud

Cliciwch i weld 'Holiadur Sian Thomas'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy