BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Ceffyl Sioe Sir Benfro
Mae misoedd yr haf yn gyfnod y sioeau amaethyddol ac un o'r prif rai yng nghalendr amaethwyr gorllewin Cymru ydy Sioe Sir Benfro - yr ail fwyaf wedi Sioe Fawr Llanelwedd.

  • Cynhelir Sioe Sir Benfro 2006 ar Awst 15, 16 a 17 ar gae y Sioe, Y Llwyn Helyg, Hwlffordd.

    Mae Sioe Sir Benfro yn boblogaidd gan ffermwyr, pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd, ac yn denu tyrfaeodd mawr bob blwyddyn.

    Cynhaliwyd Sioe amaethyddol Sir Benfro 2005 ar Awst 16, 17 a 18.

    DafadCliciwch yma i edrych ar luniau o sioe Sir Benfro 2006

    Roedd yr atyniadau yn cynnwys arddangosiad tîm o fotobeicwyr y Magnelaeth Brenhinol, dringo polion, Tîm bwyeill Cymru, trotio, treialon cŵn defaid, ac arddangosiadau hwyaid.

    Dosbarthiadau - gwrtheg, defaid, moch, geifr angora, geifr llaeth, ceffylau, neidio ceffylau, ffowls ac eraill.

    Yn ychwanegol at hyn, mae yna dros 500 o stondinau yn gwerthu nwyddau o bob math - o ddillad i nwyddau cartref i fwyd a pheiriannau fferm.

    Ydych chi'n mynd i'r sioe yn flynyddol? Mi fyddwn ni yno ar fws BBC Cymru eto eleni - felly dewch i'n gweld.

  • Bws BBC Cymru Dewch ar fwrdd bws BBC Cymru i gyfarfod y tîm, trio cwis Lleol i ennill gwobr arbennig, a syrffio'r we.
  • Cliciwch yma i ddarllen mwy am y bws melyn

    Darllenwch rai o sylwadau ymwelwyr y Sioe y llynnedd, a chyfrannwch eich barn chi am y sioe eleni.


  • Cyfrannwch

    John Davies o Aberteifi
    Roedd hi'n bwrw glaw yn y sioe bore Mercher, ond gyda'r tywydd wedi agor allan mae'n hyfyrd. Digon o adloniant gyda chriw Radio Wales ac yn y sioe yn gyffredinol.Dewch yn llu!!

    Rhian o Abergwaun
    Mae Sioe Sir Benfro yn gret - digon o bethau i wneud a gweld. Sdim ots am y glaw - mae dal yn hwyl!!


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy