BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Annette Davies Pencampwraig Sboncen yn herio'r pedair gwlad
Bu Annette Davies o Geredigion yn cynrychioli Cymru yn chwarae Sboncen yn 2005. Hi oedd y ddynes gyntaf o'r sir i wneud hyn, ac roedd yn ystyried y profiad yn fraint fawr.

Athrawes gyflenwi a gwraig fferm o Beulah ger Castell Newydd Emlyn yw Annette Davies wrth ei gwaith bob dydd ond mae hefyd yn aelod o dîm Sboncen cymysg Aberteifi. Yn 2005, cafodd ei dewis i gynrychioli tîm merched Cymru dros 45 oed, ym mhencampwriaethau y pedair gwlad ar Fai 13 a 14, yng ngwesty'r 'Vale Hotel' ym mro Morgannwg.

Annette oedd yr unig siaradwraig Gymraeg yn nhîm Cymru y flwyddyn honno, a'r unig aelod o Geredigion. Roedd gweddill y merched yn dod o rannau eraill o dde Cymru, gan gynnwys Y Barri, Caerdydd, Castell-nedd ac Abertawe.

Er nad oedd Annette Davies wedi dangos diddordeb mewn chwarae sboncen tan ei bod yn ei hugeiniau cynnar, unwaith iddi ddechrau ymddiddori yn y gêm, doedd dim troi yn ôl. Enillodd bencampwriaeth Dyfed yn y 1980au, cyn cael y fraint o chwarae dros Gymru yn y 1990au, wrth deithio i Gaeredin, ac yna i Felfast fel rhan o dîm A Cymru.

Sgwod merched Cymru dros 40 oed a gynrychiolodd eu gwlad yng Nglasgow 2003.Ers hynny mae Annette Davies wedi cynrychioli Cymru ar lefel y Meistri (Masters) mewn tîmau i ferched dros 35 oed, 40 oed a 45 oed.

Derbyniodd gyngor gwerthfawr gyda'i hyfforddwr Haydn Davies (cyn-gricedwr proffesiynol gyda Morgannwg.) Ef hefyd hyfforddodd Siân Johnson - sydd wedi bod ar frîg y gêm yng Nghymru.

Berian, Dyfed a Nia (plant Annette Davies) mewn twrnament sboncen yn Abertawe 2004Er bod Annette yn bwriadu parhau i chwarae Sboncen mor hir â phosib, mae hi hefyd yn hyfforddi eraill i chwarae'r gêm, ac mae diddordeb y fam i'w weld yn ei phlant hefyd - mae Berian, Dyfed a Nia yn ymddiddori yn y gêm, ac yn cystadlu mewn twrnamentau.

"Mae chware sboncen wedi bod yn gyfle ardderchog er mwyn teithio ac ymweld ag ardaloedd a dinasoedd na fyddem wedi meddwl mynd iddynt fel arfer" meddai Annette Davies, sydd wedi cwblhau gradd o Brifysgol Llambed ac yn gobeithio mynd yn ôl i ddysgu yn llawn amser.

"Mae'r profiad hefyd wedi rhoi cyfle i mi gwrdd a chymdeithasu, a gwneud ffrindiau da gyda chwareuwyr sboncen eraill.

"Mae wedi bod yn fraint ac yn glôd i chware dros fy ngwlad, ac mae'n deimlad pleserus ar ôl yr holl waith caled o ymarfer sydd wedi ei wneud cyn cyrraedd y nôd. Rhaid cofio hefyd, heb gymorth Geraint a'r plant ni fyddem wedi gallu chware hyd at y safon yma."

Annette Davies
Mai 2005


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy