BBC HomeExplore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Taith Popty C2 yn codi'r to yn ysgolion Cymru
Wedi dros ugain o ysgolion, miloedd o ddisgyblion a channoedd o filltiroedd o deithio, mae Taith Popty C2 yn parhau i deithio.
Dydd Mawrth, Tachwedd 30 bydd yn dechrau ar gyfres arall o gerddoriaeth danllyd, cyflwyno hwyliog a gweithdai bywiog, yn ne a gorllewin Cymru y tro hwn. Ar y diwrnod cyntaf, Ysgol y Strade, Llanelli yw'r gyrchfan wrth i wyneb cyfarwydd ar S4C, Alex Jones, gyflwyno tair act gyfarwydd a phoblogaidd - Kentucky AFC, Maharishi a'r anhygoel Elin Fflur, sy'n addo siglo'r ysgol i'w seiliau.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu yn ogystal â mwynhau perfformiadau deinamig, wrth i'r criw cynhyrchu ddarparu gweithdai ymarferol i ddysgu sgiliau i'r disgyblion.

Ddydd Mercher (Rhagfyr 1), bydd Kentucky AFC, Maharishi ac Elin Fflur yn glanio yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, lle bydd y perfformiadau bywiog yn cael eu cyflwyno gan Alex Jones eto.

Dydd Iau (Rhagfyr 2) bydd y daith yn symud ymlaen i Ganolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan, ar gyfer diwrnod arall o gyffro cerddorol.

Abertawe fydd cyrchfan y criw ar ddydd Gwener (Rhagfyr 3), ac Ysgol Bryn Tawe, Abertawe, i gloi wythnos arall o weithgareddau.

Mae Taith Popty C2 yn fenter unigryw yn yr ystyr bod BBC Radio Cymru, S4C a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ddod at ei gilydd am y tro cyntaf i ddarparu wythnosau o gynnwrf gyda rhai o fandiau gorau'r wlad tros gyfnod o chwech wythnos. Mae hyn wedi sicrhau bod hyd at 20,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru wedi cael mwynhau'r gerddoriaeth orau, a hynny am ddim.

"Mae ymateb y disgyblion wedi bod yn wych," meddai Huw Meredydd Roberts, cynhyrchydd C2. "Mae'r gweithdai wedi dangos bod yna dalentau gwirioneddol allan yna. Yn y sesiynau hyfforddi sut i gynhyrchu rhaglen - o'r ochr dechnegol i'r ochr gyflwyno - mi fu'r disgyblion yn cynhyrchu rhaglenni go iawn sydd i'w clywed ar C2 dros yr wythnos.

Mae wedi bod yn gyfle iddyn nhw gael blas ar y diwydiant radio, a rhaid dweud bod ambell rai yn sefyll allan fel cyflwynwyr a chynhyrchwyr y dyfodol."

Bydd C2 ar Radio Cymru yn cynnwys uchafbwyntiau o'r daith a chyfraniadau gan ddisgyblion. C2: Dydd Llun-Dydd Gwener, 8pm. Dydd Sadwrn, 10.30am.

Bydd rhaglen arbennig Popty i'w gweld ar S4C ar ddydd Nadolig a bydd cyfres newydd o Planed Plant yn dechrau ar Ionawr 5, 2005. Mae tonfeddi lleol BBC Radio Cymru fel a ganlyn:

Llanelli 104.2FM
Llandysul 93.1FM
Llanbedr Pont Steffan 94.1FM
Abertawe 104.2FM

Mwy am daith Popty C2 yma.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy