BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
26ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y ffotograffydd Aled Rhys Hughes Môr Goleuni/ Tir Tywyll
Delweddau o waith Waldo Williams a oedd i'w gweld mewn arddangosfa arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, o 16 Hydref hyd at 31 Rhagfyr 2004.
  • Cliciwch yma i weld detholiad o'r delweddau oedd yn yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol

    Ar achlysur dathlu canmlwyddiant geni Waldo Williams (1904-71), cynhaliwyd arddangosfa ffotograffau arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn talu teyrnged i un o'n llenorion mwyaf.

    Deillia'r arddangosfa o'r gyfrol Waldo Williams: Môr Goleuni / Tir Tywyll gan Wasg Gomer, ac roedd yn cyfosod dyfyniadau o waith Waldo Williams gyda ffotograffau soffistigedig Aled Rhys Hughes, gan herio confensiynau cyfforddus ein perthynas â gwaith Waldo.

    Roedd yr arddangosfa yn ffrwyth cydweithio rhwng arbenigwr ar waith Waldo Williams, Damian Walford-Davies, a ddewisodd y dyfyniadau o waith y bardd, a'r ffotograffydd Aled Rhys Hughes o Rydaman.

    "Dyma arddangosfa sy'n herio'r 'llygad diog' y mae Waldo yn ei feirniadu yn y gerdd 'Bardd'. Trwy ddramateiddio cysyniadau creiddiol Waldo - tŷ, goleuni, tywyllwch, ffenestr, cwmwl, bwlch, gwreiddyn, pren - mynega'r delweddau a'r dyfyniadau weledigaeth sy'n llwyr ymwybodol o draha ein hymwneud â'r ddaear, ac o ffyrnigrwydd ein hymwneud â'n gilydd," dywedodd Damian Walford-Davies ar y pryd, darlithydd yn Adran y Saesneg yn Aberystwyth.

    Roedd yr arddangosfa yn bwysig iawn i'r ffotograffydd Aled Rhys Hughes. "Fydda' i ddim fel rheol yn gweithio i gomisiwn, ond rwy'n adnabod ac yn hoff iawn o waith Waldo ac roedd hwn yn gynnig na allwn ei wrthod. Rwy'n teimlo fod Waldo'n siarad 'da fi ac yn deall sut rwy'n trin y tirwedd. Mae'n dipyn o arwr i mi a dweud y gwir - yn Gristion, Crynwr, Cymro a heddychwr," dywedodd y gŵr a fagwyd yn y Rhondda Fach, Cwm Llynfell a Rhydaman ac sydd nawr yn darlithio mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Penybont-ar-Ogwr.

    Siwrnai o fath a gynigwyd gan yr arddangosfa, trwy gyfrwng delweddau sengl, diptychau a thriptychau. Ond nid siwrnai saff o gyfyngdra 'ogofâu'r nos' - rhaid i'r gwyliwr droedio ei lwybr personol ei hun.

    Roedd Michael Francis, Pennaeth Uned Arddangosfeydd y Llyfrgell Genedlaethol, ac un sy'n wreiddiol o Faenclochog ym mro Waldo Williams, yn hynod o falch i gynnal arddangosfa Môr Goleuni / Tir Tywyll.

    "Gyda geiriau y cysylltir enw Waldo Williams fel rheol, ond mae'r arddangosfa brydferth a theimladwy hwn yn rhoi lluniau a delweddau i ni roi wrth ei enw hefyd," meddai yn 2004.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy