BBC HomeExplore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Rasio Ceffylau Cyfarwyddo â'r byd rasio ceffylau
Pan ofynnwyd i Catrin Roberts, cynhyrchydd a chyfarwyddwraig 28 mlwydd oed yn wreiddiol o Benygroes, ger Cross Hands, i gyfarwyddo'r gyfres Y Ceffyl Blaen ar ran cwmni teledu Telesgôp, ychydig iawn a wyddai am fyd rasio ceffylau.
Doedd hi ddim hyd yn oed wedi bod ar gwrs rasio, cyn hynny! Ond cafodd ei hudo yn fuan iawn.

"Roedd gweithio ar y gyfres a chanolbwyntio ar fyd bridio ceffylau rasio yn agoriad llygaid i mi a bu yno sawl uchafbwynt trwy gydol y cyfnod ffilmio. Un o'r rheini oedd gwylio Bethan Mercer a staff Bridfa Dyffryn Wysg, ger Y Fenni yn arwain ebol newydd a'i fam tu allan am y tro cynta' - roedd hyn yn olygfa arbennig iawn.

"Golygfa arall fydd yn aros yn y cof yw sefyll ar Gallops "Warren Hill" yn Newmarket am chwech y bore yn gwylio cannoedd o geffylau rasio gorau'r byd yn carlamu heibio. Cofiaf hefyd fod yn Cheltenham ar ddiwrnod ras y Cwpan Aur.

"Roedd yr awyrgylch a'r cyffro yn annhebyg i unrhyw beth dw'i erioed wedi ei brofi o'r blaen ac roedd bod gyda'r hyfforddwr Peter Bowen a'i wraig Karen o Sir Benfro a gwylio eu holl waith caled yn dwyn ffrwyth yn rhywbeth y bydd yn aros gyda mi am amser hir. Mae'n fyd mor gymhleth, gyda chymaint i'w ystyried cyn gwneud y penderfyniad iawn. A hyd yn oed ar ôl ystyried yn ofalus a gwario miliynau o bunnoedd does dim sicrwydd y bydd yr holl waith caled yn cynhyrchu ceffyl rasio a fydd yn ennill rasys mawr.

"Efallai mod i'n naïf, ond roeddwn i'n disgwyl y bydde'r gaseg a'r staliwn yn treulio amser gyda'i gilydd yn gynta' mewn cae neu rywbeth er mwyn "dod i 'nabod" ei gilydd cyn mynd ati i ddechre teulu. Ond siom mawr oedd y weithred o fynd â chaseg at staliwn i mi - doedd dim rhamant o gwbl ac yn fuan fe ddes i i sylweddoli, mai busnes oedd hyn i bawb a hynny'n fusnes go ddrud! Mae'r ceffylau yma'n cael eu trin fel tywysogion.

"Dwi'n cofio cyrraedd Bridfa enfawr Dalham Hall, Bridfa Darley yn Newmarket sy'n berchen i Sheikh Mohammed Al Maktoum a gwirioni at yr adeiladau bychain, wrth brif fynedfa'r Fridfa. Wnes i gymryd yn ganiataol bod yr adeiladau tlws yma, gyda phopeth yn ei le a basgedi blodau tlws yn hongian y tu allan, yn gartref i aelodau staff y Fridfa, dim ond i sylweddoli mai dyma stablau'r stalwyni drud!

"Wnes i fwynhau'n fawr y profiad o fod yn Newmarket. Wrth yrru i mewn, y peth cynta' sy'n eich taro yw bod 'na geffylau ym mhobman! Ma' bob dim yn cylchdroi o gwmpas ceffylau rasio a hyd yn oed y cerbydau'n gwneud lle iddynt bob bore. Roedd treulio amser ar gwrs rasio Newmarket yn ogystal ag arwerthiant mawr fis Hydref yn Tattersalls a gweld yr holl arian oedd yn newid dwylo yn rhyfeddol.

"Wnes i hefyd fwynhau cwrdd â'r holl bobl sy'n ymwneud â'r diwydiant. Mae angerdd ac ymroddiad y bobl yma tuag at y ceffylau yn ogystal â'r diwydiant yn rhywbeth i'w glodfori. Nid pawb sy'n mwynhau codi am bump bob bore, ond mae'r bobl yma yn awchu i fynd at eu gwaith. O ystyried nad yw rhai ohonyn nhw wedi cael gwyliau am flynyddoedd oherwydd bod gwaith gofalu am geffylau yn waith cyson, gofynnwyd i bob un o gyfranwyr y gyfres, pam dewis gwneud y swydd yma?

Ymateb pob un oedd eu bod nhw'n mwynhau eu swydd mas draw ac yn methu dychmygu gwneud unrhyw beth arall!

"Yn naturiol, fel pob cynhyrchiad, doedd ffilmio Y Ceffyl Blaen ddim yn fêl i gyd.

Mae'r ffaith bod ein swyddfa ni yn Nheledu Telesgôp yng Ngorllewin Cymru a bod y mwyafrif o'r cyfranwyr yn byw pum awr i ffwrdd yn golygu trefnu ffilmio o flaen llaw. Ond, problem ffilmio pobl a'u ceffylau yw bod popeth yn gorfod cylchdroi o gwmpas y ceffylau, felly'n aml, bydde trefniadau'n cael eu gwneud i ffilmio ceffyl yn mynd at staliwn, neu geffyl yn rasio yn Newmarket a phopeth yn newid munud ola' am fod y gaseg ddim yn barod neu fod yr hyfforddwr yn penderfynu bore'r ras bod y ddaear ddim yn siwtio'r ceffyl.

"Nawr bod gweithio ar y gyfres wedi dod i ben, dwi'n ystyried fy hun yn eitha' breintiedig. Yn rhannol am fy mod i wedi cael mynediad i fyd sydd fel arfer yn nerfus iawn o unrhyw gyhoeddusrwydd, ond hefyd am fy mod i wedi cael fy nghyflwyno i fyd cyffrous a diddorol ac un efallai na fyddwn i wedi mentro iddo cyn nawr.

"I unrhyw un sydd heb gael y profiad o fynd i'r rasys, byddwn i'n bendant yn ei argymell a dwi'n gobeithio y bydd y gyfres yma yn llwyddo i drosglwyddo'r hud hwnnw i'r gynulleidfa gartref.

"Un o'r pethau dwi'n gobeithio y bydd yn dod drosodd yn y gyfres yw'r holl waith caled sy'n cael ei wneud cyn cael ceffyl ar y cwrs rasio. Dwi'n cofio un o'r cyfranwyr yn dweud wrtha i, bod llwyddo i gael ceffyl ar gwrs rasio yn llwyddiant, mae unrhyw beth ar ben hynny yn wyrth!"

Catrin Roberts

Darlledir y gyntaf o'r gyfres tair rhan, Y Ceffyl Blaen ar S4C nos Lun, 20 Mehefin am 8.25pm


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy