BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Capel Rhydwilym Oedfa Hanesyddol - Y Gymanfa Bwnc yn Rhydwilym
Capel Rhydwilym - Capel byw hynaf Bedyddwyr Cymraeg yn y byd

Dydd Sul, Mehefin 4ydd 2006 am 10.00 y bore, bydd aelodau Capel y Bedyddwyr, Rhydwilym, ger Llandysilio, Sir Benfro, yn dathlu traddodiad hynafol y Gymanfa Bwnc, sy'n dyddio nôl gannoedd o flynyddoedd ac sy'n parhau'n ddidor.

Bydd aelodau o Fethel, Mynachlogddu, Calfaria, Login a Horeb, Maenclochog yn ymuno yn yr oedfa.

Dewisir testun neu bwnc o'r Beibl a bydd yr aelodau'n llafarganu'r adnodau ac yna ceir yr esbonio dan arweiniad y Gweinidog, Y Parchedig Eirian Wyn Lewis.

Rhyw fath o lafarganu yw'r pyncio. Mae'n bosib ei fod yn dyddio nol i'r adeg pan oedd Cymru'n wlad Babyddol cyn dyddiau Harri VIII. Nifer fechan iawn o gapeli anghydffurfiol sy'n parhau i 'ganu'r' pwnc erbyn hyn gan ddewis adrodd yr adnodau.

Gan bod y Gweinidog yn gwasanaethu eglwysi eraill, dim ond bob tair blynedd y cynhelir y Gymanfa Bwnc yn Rhydwilym.

Corffolwyd Rhydwilym yn 1668 a sefydlodd nifer o gapeli yn Ne Orllewin Cymru a rhai yng Ngogledd America. Mae'r capel mewn cwm hardd ar lan y Cleddau Ddu. Dewiswyd y safle oherwydd ei fod mewn lle diarffordd ar adeg o erledigaeth. Roedd yn genhadaeth beryglus a dewrgan bod gwaharddiad ar unrhyw addoli y tu allan i Eglwys Loegr a rhaid oedd cyfarfod yn y dirgel.

Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Elsa Davies ar 01267 211344 neu admin@rhydwilym.com

Neu: Y Parchedig Eirian Wyn Lewis ar 01994 419305 neu eirianbrynhyfryd@aol.com .

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy