BBC HomeExplore the BBC

SUL
29ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cwm Llynfi
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd @ BBC Cymru Y Fari Lwyd
Roedd y Fari Lwyd yn un o'r hen arferion a oedd yn rhan o ddathliadau'r Hen Galan Cymreig, sef Ionawr 12, a dechreuodd yr arferiad, yn ôl y sôn ym mhentref Llangynwyd, Cwm Llynfi.

Cliciwch isod i wylio clip ffilm o archif BBC Cymru o'r raglen Lloffa a ddarlledwyd yn 1966.

Yn y ffilm gwelir tri o ddynion lleol, gydag un wedi ei wisgo fel y Fari Lwyd, yn ymweld â ffermdy yn yr ardal. Cenir amryw o benillion ac yna ceir ateb gan y ffermwr, cyn iddynt gael eu gadael i mewn i fwynhau lluniaeth.

Ar ddiwedd y ffilm mae un o'r dynion yn adrodd ychydig o hanes traddodiad Y Fari Lwyd yn yr ardal yn nhafodiaith hynod Llangynwyd. (Hawlfraint BBC Cymru.)

Gwyliwch y ffilm o'r Fari Lwyd yn Llangynwyd

Yn 1752 y diwygiwyd y calendr gan roi pwysigrwydd newydd i Galan Ionawr, sef y cyntaf o'r mis. Ond mae dathliadau Hen Galan Ionawr y 12fed wedi cael eu hadfywio mewn rhai rhannau o Gymru heddiw.

gwrando Arfon Hughes yn trafod y Fari Lwyd yn ardal Dinas Mawddwy ar raglen Geraint Lloyd

Atgoffir pobl leol yn Llangynwyd am draddodiad Y Fari Lwyd ar arwydd y dafarn leol, Yr Hendy: cliciwch i weld llun.

Ydych chi'n cofio traddodiad Y Fari Lwyd neu wedi adfer yr hen arferiad yn eich ardal chi? Dwedwch yr hanes trwy lenwi'r ffurflen isod.

  • Arferion y Nadolig a'r Calan

  • Y Fari Lwyd yn Nhal-y-bont, Ceredigion


  • Cyfrannwch

    Siw o Landeilo
    Yr unig tro wnes i weld traddodiad y Fari Lwyd yn cael ei pherfformio oedd yn tafarn y "Feathers" yn Llanwrda tua 20 mlynedd yn ôl ar noson Calan. Fel arfer byddai fy nhad yn cadw arian parod ar bwys ei wely ar noson Calan gan ddisgwyl i grwp Ffermwyr ifanc i hel calennig yng nghanol y nos ar ben tractor a trailer.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Hanes
    Radio Cymru
    Digwyddiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy