BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
2il Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bro-dorion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bro-dorion
Pier Penarth Fy Mhenarth i
Mae Penarth yn lle diddorol iawn os edrychir o dan yr arwyneb taclus, tawel.

O'r parciau i'r siopau, gallwch ffeindio nifer o bethau i'w gwneud yn yr ardal. Mae Penarth yn ne Cymru, dim ond chwarter awr o brif ddinas y wlad; Caerdydd. Mae yma nifer o gyfleusterau a fydd yn apelio at bobl o bob oedran gyda phob diddordeb.

Mae yma ganolfan hamdden pum munud o ganol y dref lle mae nifer o weithgareddau corfforol yn cael eu cynnal, er enghraifft nofio, aerobeg a boxercise i enwi ond rhai! Ond os nad ydych chi'n hoff o ymarfer corfforol gallwch fynd i'r siopau yng nghanol y dref.

Mae yna amrywiaeth fach o siopau i'w cael yma - perffaith am ddiwrnod o siopa os nad ydych chi'n mynd i rywle mor brysur â Chaerdydd!

Mae nifer fawr o barciau prydferth ym Mhenarth hefyd sydd yn ardderchog i fynd â'r ci am dro neu am gêm gloi o bêl-droed. Un o nodweddion gorau Penarth yw'r pier. Mae golygfa pert o Loegr o'r pier a gallwch alw mewn i un o'r siopau bitw am candy floss neu gerdyn post. Mae hefyd nifer o fwytai a thafarnau yn agos at y pier - ffantastig am noson allan! Mae yna glwb hwylio os oes diddordeb gennych ac mae yna'r clogwyni os yr ydych am fynd am dro.

Gallwch weld nifer o bethau eraill cyffrous o amgylch y dref fel clybiau tenis a thafarnau a'r marina. Mae'n amlwg i unrhyw ymwelydd mai dyma'r dref ddelaf ym mro Morgannwg efo'i golygfeydd rhyfeddol.

Felly pam aros? Dewch i Benarth heddiw!

Rosie Nelson

  • Mwy am Benarth


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Ffilmiau
    Caerdydd
    Lluniau
    Gemau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy