BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bro-dorion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bro-dorion
Penarth Penarth - ddoe a heddiw
Mae Penarth yn dref newydd efo adeiladau modern a thechnolegol ond ar ochr arall y stryd, gwelir hen olion oes y Fictoriaid fel ar stryd y Marine Parade.

Ar draws waliau hir y stryd yma, mae blodau porffor a phrydferth yn dringo i lawr i'r parciau Eidaleg sy'n wynebu'r tonnau ar y ffrynt. I lawr y llethr a dros y parciau yma, sydd yn aml wedi eu gorchuddio o dan bentyrrau di-ddiwedd o ddail oren a brown yr amser yma o'r flwyddyn, clywir atsain pell y môr ar y gorwel.

Mae gan Benarth bromenâd sy'n deillio o'r 1800au. Mae wedi para ers y cyfnod pan roedd Charlie Chaplin yn perfformio, i'r tîmau modern o gymnasteg yn ei hadeiladau heddiw. Efo arogl sglodion poeth o'r caffi yn y gwynt, clywir sŵn perthnasau fwyaf agos i'r môr yn y cefndir, ac yna sylweddolir na cheiff môr heb wylanod yn gweiddi ac yn crwydro toriadau swnllyd y tonnau.

Mae'r môr yn yr ardal yma yn cael ei ystyried fel cefndir i un o'r machludau haul mwyaf del ym Mro Morgannwg. Wrth i'r haul fynd i lawr mae'r tonnau tawel yn ei adlewyrchu fel darlun fflamboeth yn llwybr o aur ar eu traws.

Dyma pam mae cymaint wedi symud i fyw i Benarth yn ystod y ganrif ddiwethaf. Tu fewn i un o'r siopau yn y dref gallwch weld hen ffotograffau o'r bobl yn crwydro o amgylch Penarth tua 1850. Yn ystod yr amser hwn roedd ond 10,000 o bobl yn byw yma a nawr mae mwy na 25,000 o bobl yma.

Bethan Calnan


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Ffilmiau
Caerdydd
Lluniau
Gemau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy