|
Mae gennym 14 milltir o arfordir a hynny'n cynnwys nifer o draethau a llwybrau â golygfeydd gwych, trefi a phentrefi hardd, a phan fo'r tywydd yn ffafriol, mannau perffaith ar gyfer syrffio, nofio, sgim-fyrddio a nifer o fathau eraill o chwaraeon.
Os ydych chi'n hoff o gerdded, marchogaeth neu seiclo, mae yna gannoedd o lwybrau ar hyd yr arfordir. Mae'n ffordd wahanol i basio'r amser ar brynhawn Sul, a gellid treulio oriau'n ymlacio gyda theulu neu ffrindiau tra'n darganfod harddwch yr ardal leol.
Profwch y dŵr
Am rywbeth mwy cyffrous, gellid mynd i syrffio ar un o'r traethau poblogaidd. Mae Porthcawl wedi bod yn le poblogaidd i syrffio am amser, a dal yn le poblogaidd, ond ceir hefyd draethau eraill sy'n dda ar gyfer y gamp yma (heb orfod teithio am filltiroedd!) e.e. Southerndown. Mae nifer o'r llefydd yma yn cynnig gwersi a chyrsiau hefyd os nad ydych chi wedi mynd o'r blaen, neu eisiau perffeithio'ch sgiliau!
Ymhell o'r dorf ...
Neu beth am drio rhywbeth mwy anghyffredin? Gellid mynd i bysgota ar y rhan fwyaf o lefydd ar hyd yr arfordir, ac mae'n bosib mynd i ganŵio a cheufadu allan o ganolfannau ar lawer o'r traethau mawr. Mae clybiau hwylio mawr ym Mhenarth ac yn Y Barri.
Ac wrth gwrs, yn yr haf, traethau'r ardal yw rhai o'r llefydd gorau i dorheulo, i fwyta hufen iâ, sgwrsio gyda ffrindiau, ac ymlacio. Yr unig broblem yw'r glaw!
Mollie Arbuthnot
 |