BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Christine James Holi bardd y Goron
Rhagfyr 2005
Eleni, yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri, cipiwyd y goron gan un o ferched Cwm Rhondda, Christine James (nee Mumford). Dyma'i hymateb pan gafodd ei holi ar ran Y Gloran.

Pryd a ble y cawsoch chi eich geni?
Yn Nhonypandy, yn 1954 - do, fe groesais ffin yr hanner cant erbyn hyn!

Beth oedd cefndir eich teulu? O ble y daethant i Gwm Rhondda?
Daeth teulu fy nhad i'r Cwm o gyfeiriad canolbarth Lloegr, a theulu fy mam o dde-orllewin Lloegr, er mai yng Nghwm Rhondda Fawr y ganed fy rhieni eu hunain, ill dau. Doedd dim gair o Gymraeg ar y naill ochr na'r llall, felly, Saesneg oedd unig iaith ein haelwyd, er bod fy rhieni yn gwybod ychydig o Gymraeg elfennol o' u dyddiau ysgol - roedd fy nhad, fel mae'n digwydd, wedi cael rhai gwersi Cymraeg yn yr ysgol gan Kitchener Davies.

Ble cawsoch chi eich addysg? Oedd unrhyw athrawon yn ddylanwad arnoch?
I ddechrau, yn Ysgol Gynradd Tonypandy, ac wedyn ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Ysgol arbennig iawn oedd honno o safbwynt ei safonau academaidd yn y cyfnod pell hwnnw, ac rwy'n ddyledus i sawl aelod o'r staff am gyffroi fy niddordeb mewn amrywiaeth o feysydd. Ond mae fy nyled bennaf, yn ddigwestiwn i'm hathrawes Gymraeg. Olwen Peters (Olwen Roberts erbyn hyn); hi, yn anad neb arall a daniodd fy niddordeb yn y Gymraeg.

Beth wnaethoch chi ar ôl gorffen eich addysg ffurfiol?
Roedd fy swydd gyntaf gyda'r Academi Gymreig, yn gweithio ar Y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, yn gynorthwy-ydd golygyddol i Meic Stephens. Bum am gyfnod wedyn yn gyfieithydd ac yn olygydd ar fy liwt fy hun, tra oedd ein dau blentyn cyntaf yn fach.

Yn 1985 ymunais â staff Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, ac yno yr wyf hyd heddiw, yn dysgu llenyddiaeth ganoloesol yn bennaf.

Eich cartref a' ch teulu ar hyn o bryd?
Rwy'n byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, gyda fy ngŵr, Wyn, a'n plant, Eleri, Emyr (sydd i ffwrdd yn y coleg ar hyn o bryd), ac Owain. Petai Owain yn cael ei ffordd byddai cath, ci a chrwban yn rhannu'n cartref hefyd, heb sôn am fwji, cwningen, mwnci ...

Pryd a pham y dechreuoch chi ysgrifennu?
Roeddwn wedi llenydda'n achlysurol ar hyd y blynyddoedd - hyd nes i'r plant gyrraedd a daeth y cwbl i stop wedyn. Ond ailgydiais o ddifri' yn yr ysgrifennu yn gynnar yn 2003, yn sgil cyfnod o salwch. Roedd barddoni yn therapi imi y pryd hynny, yn fodd imi wneud rhyw fath o synnwyr allan o brofiadau digon tywyll.

Pam dewisoch chi lenydda yn y Gymraeg yn hytrach na Saesneg?
Am fy mod i mewn cariad â'r Gymraeg. Doedd dim dewis.

Pa lenorion sydd wedi eich ysbrydoli?
Roedd darllen yr Hengerdd - gwaith Aneirin a Thaliesin - yn y coleg yn brofiad a ddylanwadodd ar gwrs fy mywyd. Dyna lle y dechreuodd fy niddordeb yn ein llenyddiaeth ganoloesol, ac mae'n ddiddordeb sy'n para hyd heddiw.

Beth yw eich gobeithion am Taliesin, y cylchgrawn rydych yn gydolygydd arno gydag un arall o ferched y Rhondda, Manon Rhys?
Mae Manon wedi amlinellu ein nod a'n gobeithion fel tîm golygyddol. Fy ngobaith i'n bersonol yw na fydd Manon yn penderfynu ei bod hi'n bryd cael gwared ohonof i, er mwyn gosod cyd-olygydd arall yn fy lle..

Oes gennych ryw waith creadigol ar y gweill ar hyn o bryd?
Mae ambell gerdd ar ei hanner. Ac ambell un arall yn hedfan o gwmpas rywle yn fy mhen. Ond does dim dal pryd y bydd y rheiny'n cael y cyfle i lanio, chwaith.

P'un yw'r llyfr mwyaf diddorol a ddarllenoch chi' n ddiweddar?
Rwyf wedi bod yn pori' n ddiweddar yng nghyfrol Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol. Mae'n llyfr trawiadol iawn, yn llawn lluniau a delweddau o'n treftadaeth gelfyddydol ganoloesol, a'r rheini' n cael eu dehongli mewn sylwebaeth ddarllenadwy iawn. Mae'r delweddau crefyddol yn arbennig o ysgytwol.

Pa ganghennau eraill o'r celfyddydau sydd o ddiddordeb ichi?
Rwy'n hoff iawn o gelfyddyd weledol, yn arbennig gwaith argraffiadwyr Ffrainc. Mae casgliad yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn un arbennig o dda, ac ar stepen y drws - ond fel y rhan fwyaf ohonom, mae'n siŵr, dydw i ddim yn llwyddo i gyrraedd y lle yn hanner digon aml.

Beth ydych chi'n hoffi ei wneud yn eich amser hamdden?
Amser hamdden? Beth yw hwnnw? O ie, rwy' n cofio... Mae barddoni'n mynd â thipyn o fy amser hamdden erbyn hyn, ond pan ddaw'r cyfle rwy'n hoffi darllen a diogi - a gorau oll os bydd hynny' n digwydd ar lan y môr neu wrth ymyl pwll nofio mewn gwlad gynnes.

Ydych chi'n teimlo'n hyderus ynglŷn â dyfodol y Gymraeg?
Thâl hi ddim inni fod yn hyderus yn ei chylch, rwy'n ofni. Mae'r Gymraeg - a phawb sy' n ei harddel - mewn brwydr barhaus. Felly y mae wedi bod ers y chweched ganrif o leiaf. Pan gollwn ni olwg ar hynny, byddwn hefyd wedi colli'r frwydr.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy