BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Cymrodorion Treorci a Chwmparc
Mehefin 2005
Er bod y mwyafrif o bobl Cwm Rhondda'n siarad Cymraeg yn nauddegau'r ganrif ddiwethaf, roedd llawer yn gofidio am ddyfodol yr iaith yn yr ardal hon.
Un ymateb i'r argyfwng oedd mynd ati i sefydlu canghennau o'r Cymrodorion (sic) a'r Cymrygeiddion. Sefydlwyd cangen o'r Cymrodorion yn Nhreorci yn 1923 i hybu gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr ysgrifennydd cyntaf oedd J. Seymour Rees, gweinidog Hermon, a oedd yn llenor adnabyddus yn ei ddydd.

Ffurfiwyd pwyllgor gwaith yn cynnwys 44 aelod yn cynrychioli 12 o gapeli'r cylch. Roedd y ffaith fod ymhlith yr aelodau 10 o weinidogion yn arwydd o nerth anghydffurfiaeth ac wrth i'r Pwyllgor benderfynu argraffu 800 o docynnau aelodaeth ar gyfer y tymor cyntaf ceir rhyw syniad o nerth yr iaith yn Nhreorci a Chwmparc.

Un o aelodau'r pwyllgor oedd y Parch Fred Jones, gweinidog Bethania, tad-cu Dafydd Iwan, ac un o sylfaenwyr Plaid Cymru. Neilltuwyd 100 o docynnau i bobl ifainc dan 18 gan sicrhau bod lliw y rhain yn wahanol rhag i oedolion fanteisio ar y pris gostyngol!

Pwysigrwydd yr Ifainc
Yn wir, gwelwyd bod gwaith ymhlith ieuenctid yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg a bu'r Pwyllgor yn cynllunio arholiadau llafar ac ysgrifenedig ar eu cyfer. Yn ogystal, penderfynwyd bod angen sefydlu cangen o'r mudiad newydd, Urdd Gobaith Cymru yn y dref. Aeth ati hefyd i lunio rhaglen o 12 darlith i'w cynnal rhwng mis Hydref a mis Mawrth gyda dewis o dri siaradwr ar gyfer pob mis.

Wrth edrych yn ôl, ni allwn ond rhyfeddu at restr y gwahoddedigion a oedd yn cynnwys Tegla Davies, yr Athro Ifor Williams, Syr Ben Bowen -Thomas, Dyfnallt, Crwys a'r Dr Vaughan Thomas, y cerddor. Erbyn 1924-5 y dewis cyntaf i draddodi darlith agoriadol y tymor oedd neb llai na David Lloyd George! Nodir yn y llyfr cofnodion fod y Gymdeithas i dalu ffi o £2 a'r costau ffordd fyrraf i fynd a dod" !

Hybu'r laith
Rhag i neb gyhuddo'r aelodau o fod yn dynn, dylid nodi eu bod, erbyn Eisteddfod Genedlaethol Treorci yn 1928 yn cynnig gwobr o £20 am draethawd beirniadol ar y testun, 'Bywyd ac Athrylith Ben Bowen'. Y Cymrodorion hefyd oedd yn gyfrifol am sicrhau cofeb i'r bardd.

Nid darlithiau oedd yr unig arlwy a ddarperid. Trefnwyd dadleuon cyson yn erbyn cymdeithasau eraill y Rhondda gyda Gower Thomas yn cynrychioli Treorci yn bur amI. Hefyd ym 1927 trefnwyd noson o ddramâu adeg Gŵyl Dewi gyda phlant Ysgol Gynradd Treorci yn perfformio yn yr egwyl.

Gwerthwyd 500 o docynnau ar gyfer yr achlysur hwn. Ceir yr holl wybodaeth yma o lyfr Cofnodion y Cymrodorion rhwng 1923 - 1930.

Ymddengys i'r Gymdeithas ddirwyn i ben yn 1930 oherwydd diffyg cefnogaeth y capeli ond erys ei chofnodion yn ddrych o gyflwr yr iaith yn y cyfnod - cyfnod o ddirwasgiad a adawodd ei ôl ar fywyd economaidd a diwylliannol y Cwm fel ei gilydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy