BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MERCHER
17eg Medi 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Tŷ Glyncornel Rhamant Tŷ Glyncornel
Medi 2008
Mair Bridge o Lwynypia sy'n mynd â ni am dro o gwmpas Glyncornel ac yn adrodd hanes y plas a'i diroedd.

Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â rhai yn cyfeirio at lo fel 'aur du' ac yma yn y Rhondda y gwelwyd ail Klondyke wrth i bobl ddylifo yrna o bob rhan o Brydain i chwilio am ffortiwn.

Un o'r rhain oedd Archibald Hood a gyrhaeddodd y Cwm yn 1860 o'r Alban lle'r oedd e'n berchen ar byllau glo. Suddodd e bwll glo Glamorgan yn Llwynypia a elwid yn 'Scotch Colliery' ar lafar gwlad gan taw Albanwr oedd y perchennog.

Roedd y pwll yn llwyddiannus iawn a phrofwyd Archibald Hood yn feistr da. Er enghraifft, cododd dai yn arbennig ar gyfer ei weithwyr, y Scotch Terraces adnabyddus - rhesi o dai taclus, cysurus gyda gerddi mawr oedd yn anarferol ar y pryd.

Wrth gloddio am lo daeth ei weithwyr o hyd i glai ac er mwyn ei ddefnyddio agorodd Hood waith gwneud briciau. Mae'r brics i'w gweld o hyd mewn adeiladau ac yn hawdd eu hadnabod heb weld yr enw 'Glamorgan' ar yr ochr am eu bod yn fwy na'r cyffredin.

Defnyddiodd Hood y brics wrth godi adeiladau ei bwll glo! Cododd Archibald Hood dŷ mawr i'w fab William mewn rhan o Lwynypia a elwid yn Lyncornel. William oedd yn rheoli pwll Glamorgan ac am fod rhaid sicrhau cyflenwad o ddwr ar gyfer y gwaith, creodd lyn yn yr ardd.

Mae'n bosib gweld o hyd pa mor bert oedd y llyn flynyddoedd yn ôl gyda waliau isel yn nodi lle mae nentydd yn llifo i'r llyn. Mae rhai hen bobl yn dal i gofio'r pontydd bach pert oedd ar draws y nentydd ar un adeg. Ond roedd y llyn yn fwy nag addurn, roedd iddo bwrpas pendant.

Doedd Archibald Hood ei hun ddim yn byw yn Llwynypia. Cododd dy crand iawn yng Nghaerdydd a'i alw'n 'Sherwood' i gofio'i gartref yn yr Alban. Mae'r enw yn dal i fod ar un rhan o bentref Llwynypia.

Ar ôl amser Hood daeth pwll glo Glamorgan yn rhan o'r Cambrian Combine enwog a chodwyd tŷ mawr ar gyfer y rheolwr. Enwyd y tŷ ysblennydd hwn yn 'Glyncornel' ac aeth hen gartref William Hood yn 'Hen Glyncornel'. Mae Tŷ Glyncornel, sy'n dyddio o droad y 19 ganrif, yn sefyll ar wahan ar ochr y bryn yn edrych i lawr ar dai'r cwm.

Roedd y Tŷ hwn yn fawreddog, gyda lawnt croquet, creigardd a pherllan ynghyd â gardd lysiau wedi eu hamgylchu gan wal fawr. Mae'r waliau hyn yn enghreifftiau gwych o waliau sych, yn uchel ac yn hollol lyfn ac wedi eu gwneud o gerrig gwastad, tenau. Roedd angen crefftwyr da iawn i greu waliau hardd o'r fath. Ar waelod y dreif roedd fioledau neu grinllys yn tyfu.

Erbyn hyn, gwaetha'r modd, mae'r waliau wedi dechrau ewympo, y lawnt croquet wedi dirywio a does dim llysiau'n tyfu yn yr ardd. Ond mae ysgolion yn dal i ymweld â Glyncornel i fwynhau bywyd gwyllt y llyn a'r nentydd ac i wylio adar fel boncathod a chrychod ac mac pobl leol yn dal i grwydro'r coetir sy'n newid gyda rhod y tymhorau.

Mae pawb yn gallu mwynhau'r warchodfa natur arbennig hon sydd wedi ei lleoli mewn hen goedwig deri. Ac mae'n bosib dod o hyd i ambell floled ger y dreif yn y gwanwyn ymhlith y mieri a dant y llew yn rhyw adlais gwan o'r gogoniant a fu.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy