BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Y stryd Ein stryd ni
Medi 2007
Y Parchedig Ivor Rees, sydd bellach yn byw yn Abertawe, yn cofio'r tlodi a'r gymdeithas glos ar y stryd lle cafodd ei eni a'i fagu yng Nghwm Rhondda.
Wrth i mi feddwl am strydoedd, daw darluniau i gof o strydoedd rwyf wedi bod ynddynt - rhai o dai mawreddog o gwmpas Comin Clapham a strydoedd cyfoethogion Surrey. Bu^m unwaith ar ymweliad â Beacon Hill, Boston, Massachusetts a heibio i sawl Millionaire's Row o gwmpas Chicago a Kingston, Jamaica.

Ond y stryd fwyaf arbennig i mi yw'r un lle y ces i fy ngeni a'm magu. Rhes sengl o dai oedd hi - tri deg pump i gyd ar ochr y mynydd - ugain ohonynt yn dringo'n araf i fyny tuag at gwli cul a'r deg uchaf ar dir gwastad. Roedd gan y tai dair stafell lawr llawr a thair lan llofft ac roedd bron pob un ohonynt yn llawn iawn, naill ai gydag un teulu mawr neu dair cenhedlaeth yn byw o dan yr un to. Weithiau byddai mwy nag un teulu'n rhannu tŷ a disgrifid stafelloedd yr ail deulu a'r enw crand 'Apartments'! Roedd y tŷ bac tu fa's yn yr ardd a doedd dim ystafell ymolchi na dŵr twym.

Ein tŷ ni
I ran o'r tŷ olaf yn y rhes, rhif 35, yr aeth fy rhieni noson eu priodas, ac yno y buon nhw am weddill eu hoes. Yno y ces i fy ngeni ac yno yr oedd fy nghartref hyd nes imi ymadael â'r coleg yn 25 oed.

Prynwyd y tŷ gan fy rhieni yn 1950. O flaen ein cartref roedd golygfa hardd ar draws ac i fyny'r cwm a hyfryd oedd clywed y gog o'r coed gyferbyn yn cyhoeddi dyfodiad yr haf. O flaen rhif 35 rhedai lôn arw i lawr o'r stryd uchaf y tu ôl inni nes cyrraedd rhes o ugain o risiau a arweiniai at y ffordd fawr a'i harosfa bysys. Yr ochr draw i'r lôn garegog hon rhedai nant. The Nant oedd ei enw i drigolion y stryd a glannau'r nant oedd y lle i waredu lludw o'r tanau glo. Y tu hwnt i'r nant safai tomen lo'r hen bwll a gymerodd ei enw oddi wrth fferm oedd bellach wedi diflannu ond a goffeid yn enw'r pwll a'r gymdogaeth - Ynysfeio.

Caewyd y lofa cyn fy amser i ond roedd yno ofalwr a gadwai'r peiriannau mewn cyflwr da. Weithiau clywn eu sŵn wrth orwedd yn fy ngwely adeg gwyliau. Gan fod ein stryd yn wynebu'r de, roedd yn mwynhau pob awr o heulwen yr haf a byddai'r trigolion naill ai'n eistedd ar garreg y drws neu yn cwrdd a'i gilydd ar gornel y stryd am glonc. Doedd neb yno'n berchen ar gar a'r unig foduron a ymwelai â ni'n ddyddiol oedd eiddo dyn llaeth y Co-op a dyn llaeth arall, Mr K. Galwai'r fan fara hefyd yn ddyddiol a phob dydd Gwener cyrhaeddai Lori pop Corona. Byddai dyn yr oel yn galw unwaith yr wythnos ar y rheiny nad oedd ganddynt drydan. A hithau mor rhydd o draffig, y stryd oedd maes chwarae'r plant.

Y Gymraeg
Rhyw 14 o bobl y stryd oedd yn medru'r Gymraeg. Ar wahân i Mam, dim ond dau arall o'r un genhedlaeth a siaradai'r iaith gyda'r lleill i gyd yn perthyn i genhedlaeth hŷn. Cymry, serch hynny, oedd y rhan fwyaf o'r trigolion er taw Saesneg oedd eu hiaith ac eithriad oedd Mr Husband o'r Caribî. Lletyai hen ŵr a elwid yn Pat gyda Mrs Davies, rhif 12. Cwarddodd Mam pan ofynnais iddi ai Patric oedd ei enw iawn gan esbonio taw Mr Williams Patagonia ydoedd, a'i fod wedi ei eni yn yr Ariannin! Roedd tua 32 o blant o'm cenhedlaeth i yn y stryd gan gynnwys 5 a aned y tu allan i briodas oedd yn cael eu magu gan rieni eu mam.

Y Capel
Annibynnwr oedd Mam ac awn i Ysgol Sul lle y caem ein dysgu i ddarllen Cymraeg heb ein bod yn deall yr un gair. Saesneg oedd cyfrwng unrhyw drafodaeth. Roedd pump o wragedd y stryd yn perthyn i'r un capel a phlant y rheiny'n mynychu'r ysgol Sul. Ai un teulu i'r Eglwys Apostolaidd ac roedd Mr Husband o'r Caribî yn aelod o'r garfan Y Bentecostaidd. Mae'n debyg taw unwaith yn unig yr aeth fy nhad i'r ysgol Sul a hynny er mwyn cael mynd i'r parti Nadolig. Fel gweddill dynion y stryd, roedd yn sosialydd adain chwith ac yn honni bod yn gredadun. Dau gomiwnydd oedd yn trigo yn ein plith - un yn gefnder i mi. Glöwr, fel pob dyn arall, oedd y llall, ac un oedd wedi ei addysgu ei hun. Ces i help ganddo wrth geisio deall cyfrinachau geometri ac agorodd fy ngorwelion trwy fenthyca imi rai o gyfrolau'r Left Book Club. Ces i gyngor ganddo i ddarllen Dostoiefsgi ac Aldous Huxley.

Caledi
Yr hyn oedd yn creu ymdeimlad o fod yn perthyn oedd bywyd caled y teuluoedd. Roedd rhai o'r dynion yn ddi-waith a phawb arall yn ymdopi ar gyflog bach. Cofiaf weld un teulu yn yfed eu te o botiau jam! Ymunodd tri brawd ifanc o'r stryd â'r tiriogaethwyr ac fe'u cofiaf yn dangos eu lifrai glas tywyll i Mam gan ymffrostio bod ganddynt ddillad teidi i fynd ar ôl y merched.

"Cawn ein talu am chwarae cowbois ac Indiaid i lawr ym Mro Morgannwg", meddent. Ond cawsant eu hanfon i Singapor a bu fawr un yn garcharor i'r Siapaneaid. Treuliodd un arall weddill ei fywyd mewn ysbytai yn dioddef gan bob math o afiechydon corfforol a meddyliol ond, trwy drugaredd, dychwelodd y trydydd yn holliach.

Yr Ysgol
Ai'r plant i'r ysgol elfennol yr ochr draw i ganol ein stryd. Oddi yno, ai'r rhan fwyaf ohonynt i'r ysgol eilradd / fodern leol. Merch ddwy flynedd yn henach na fi oedd y gyntaf i fynychu ysgol ramadeg er i'r crwt drws nesaf gyflawni'r un gamp flwyddyn o fy mlaen. Fi oedd y cyntaf i fynd i brifysgol. Ymfalchïai pawb yn y stryd yn ein llwyddiant a chydymdeimlo'n ddiffuant iawn ag unrhyw fethiant neu ofid a ddeuai i ran cymydog. Canlyniad hyn oedd bod cerdded i lawr y stryd yn gallu cymryd awr am fod pawb yn disgwyl ichi siarad â nhw.

Adeg Rhyfel
Yn ystod y Rhyfel roedd y stryd fel balconi theatr, yn caniatàu inni weld popeth a ddigwyddai - yr Home Guard yn chwarae milwyr ar fore Sul, awyrennau'n ymladd â'i gilydd uwch ein pennau, cyrch awyr ar bentre bach glofaol cyfagos a'r wybren goch uwchben y mynydd i gyfeiriad Abertawe. Ai'r rhan fwyaf o drigolion y stryd i weld angladdau milwrol y pentrefwyr hynny a gafodd eu lladd, ond gwrthodais i, yn fachgen ifanc, am fy mod yn teimlo mai peth anaddas oedd defnyddio dioddefaint a marwolaeth fel propaganda.

Daeth evacueesi'r stryd o ddwyrain Llundain a'r plant yn gwybod mwy am rai agweddau ar fywyd na ninnau, ond yn dwp mewn ffyrdd eraill. Wyddai rhai ohonynt mo'r gwahaniaeth rhwng buwch a dafad, rhwng tomen lo a mynydd ac wrth i griw o löwyr ymlwybro eu ffordd adre o'r gwaith yn ddu gan lwch glo, dyma'r Llundeinwyr yn rhedeg yn wyllt trwy'r stryd dan weiddi, "Dyn y glo ar ei ffordd"!

Daeth menywod mewn oed atom o Lundain hefyd a phobl barchus y stryd yn synnu atynt yn mynd allan mewn cotiau ffwr tsiep a sliperi i siopa neu i'r dafarn. Ai menywod y Cwm ddim i dŷ tafarn cyn hyn. Y Llundeinesau oedd y rhai cyntaf i wneud hynny, ond nid yr olaf. Am y tro cyntaf yn eu bywydau aeth llawer o ferched sengl a menywod priod i weithio mewn ffatrïoedd arfau gan ennill cyflogau mawrion ac ni wastraffent amser cyn dilyn y newydd ddyfodiaid. Roedd yr oes yn newid!

Wedi'r Rhyfel
Pan gyrhaeddodd Diwrnod VE o'r diwedd, cafwyd te parti ar fyrddau hir hyd ganol y stryd a rhyfeddem ni'r plant at yr holl ddanteithion ar ôl y dogni caled. Lluniwyd baneri bychain o garpiau i'w hongian ar hyd y stryd gydag ambell Jac yr Undeb neu baneri tri lliw yn dwyn y neges, `Welcome Home' ar y streipen ganol i groesawu adref y glöwyr a fu ar streic dan ddaear flwyddyn cyn y rhyfel. Daeth ein stryd ni a'r stryd nesaf at ei gilydd o gwmpas coelcerth lle y 'llosgwyd' Hitler a Mussolini. Roedd gennym ychydig o dân gwyllt wedi eu diogelu trwy gydol y rhyfel gan ryw siopwr craff oedd wedi edrych ymlaen at wneud elw.

Yr Eira Mawr
Ddwy flynedd wedyn daeth yr eira mawr a gwynt creulon o'r gogledd i achosi lluwchfeydd. Aethon ni ddim i'r ysgol am chwe wythnos a bu rhaid ciwio am oriau am dorth o fara neu bwys o datws. Roedd y gwynt o'r gogledd yn llym am wythnosau ac ni ddaeth yr un cerbyd i fyny ein stryd am wythnosau lawer. Yn wir, doedd dim bysiau ar y briffordd am tua thair wyth¬nos a methwyd a chladdu neb yn y fynwent am wythnosau gan mor galed oedd y ddaear. Cadwyd yr eirch yn y capeli.

Dydd cofiadwy oedd hwnnw pan wladolwyd y pyllau glo yn 1947 a phawb yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair, newydd. Ond ni pharhaodd y freuddwyd yn hir iawn. Agorwyd nifer o ffatrïoedd yn y cylch hefyd a'r merched yn heidio iddynt i weithio. Dechreuodd rhai o'r trigolion fynd i ffwrdd ar wyliau a chyrhaeddodd y set deledu gyntaf ar gyfer coroni Elisabeth II. Am y tro cyntaf, daeth arwyddion o ffyniant i'n stryd.

Felly y bu! Beth am heddiw? Af yn ôl bob hyn a hyn i gael cip ar y lle. Mae'r tai i gyd wedi eu moderneiddio a char y tu fa's i bron bob un. Ond does neb yn eistedd ar stepen y drws, mae'r drysau i gyd ar gau ac ar glo. On'd yw hi'n drueni bod rhaid colli rhai pethau er mwyn ennill pethau eraill?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy