BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Rhondda Dechrau'r diwydiant glo
Hydref 2003
Mae'r modd y darganfuwyd glo yng Nghwm Rhondda yn stori ddiddorol iawn. Tua 1843, daeth gwr ifanc o'r enw W.S.Clark i lawr i Sir Forgannwg o Northumberland i fod yn beiriannydd ymgynghorol i Ardalydd Bute.

Yn fuan, daeth yn amlwg i bawb fod ganddo wybodaeth anhygoel am fwynau mwyngloddio a chyn bo hir roedd perchnogion pyllau fel Deep Dyffryn, Navigation ac eraill yn ymgynghori ag ef cyn dechrau eu suddo. Daeth yn fwyfwy poblogaidd wrth i'r bobl hyn elwa'n fawr ar gorn ei gyngor.

Roedd gan Ardalydd Bute ffydd mawr yng ngallu Mr Clark a rhannwyd honno gan ymddiriedolwyr ei ystâd wedi iddo farw. Syfrdanodd W.S.Clark fyd masnachol Cymru pan ddywedodd ei fod yn hyderus bod glo stêm i'w gael yng Nghwm Rhondda ond aeth ymddiriedolwyr ystâd Bute ati ar unwaith i brynu tir yng Nghwmsaerbren yn rhan uchaf Rhondda Fawr.

Bu rhai yn amau doethineb y penderfyniad gan broffwydo yr âi'r ardalydd ifanc i'r wal os mynnai ei ymddiriedolwyr wastraffu ei arian i fodloni chwiw Mr Clark. Llwyddodd y feirniadaeth negyddol hon i ffrwyno brwdfrydedd yr ymddiriedolwyr ac am beth amser ni wnaed dim.

Yna hysbysebodd Cwmni Rheilffordd Dyffryn Taf yn y Cardiff and Merthyr Guardian yn 1850 yn cynnig 500 punt i unrhyw un a suddai pwll at ddyfnder o 120 llath yn Rhondda Uchaf er mwyn profi a oedd glo stêm. Dyna'r sbardun roedd ei angen ar Mr Clark ac ymddiriedolwyr Ardalydd Bute. Er gwaethaf diffyg heolydd, cludwyd y peiriannau a'r offer angenrheidiol i Gwmsaerbren.

Yno yn 1855, suddwyd dau bwll a ffeindiwyd glo stêm ond pum llath yn is na'r disgwyl. Ar 17 Rhagfyr 1855 cludwyd y llwyth cyntaf o lo o rannau uchaf Rhondda Fawr i Gaerdydd ar hyd lein sengl a agorwyd gan Gwmni Rheilffordd Dyffryn Taf. Bu farw W.S.Clark yn 1864 ac mae ei fedd ym mynwent Cefn, Merthyr.

Selwyn Davies


Selwyn Davies, Pen-y-graig, cyn-aelod o staff Ysgol Gyfun Ferndale, yw ein cyfrannwr y mis hwn.  Gwelodd yr hanes hwn yn rhifyn 3 Gorffennaf, 1897 o'r Glamorgan Free Press
Selwyn Davies, Pen-y-graig, cyn-aelod o staff Ysgol Gyfun Ferndale, yw ein cyfrannwr y mis hwn. Gwelodd yr hanes hwn yn rhifyn 3 Gorffennaf, 1897 o'r Glamorgan Free Press

Selwyn Davies, Pen-y-graig, cyn-aelod o staff Ysgol Gyfun Ferndale, yw ein cyfrannwr y mis hwn. Gwelodd yr hanes hwn yn rhifyn 3 Gorffennaf, 1897 o'r Glamorgan Free Press.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy