BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Tom a'i gacen penblwydd Hunangofiant Glöwr: 3
Mawrth / Ebrill 2007
Trydedd rhan hunangofiant Tom Jenkins, Ynyswen, yn cofio plant y pentre'n mynd i'r sinema, trip i sŵ Bryste a bwyta sglodion wedi eu blasu â wisgi!
Hunangofiant Glöwr: Rhan 1
Hunangofiant Glöwr: Rhan 2
Hunangofiant Glöwr: Rhan 4
Hunangofiant Glöwr: Rhan 5
Hunangofiant Glöwr: Rhan 6

Yn ein pentref, roedd tair siop sglodion, dwy siop fara, dwy siop lysiau a ffrwythau a dau brachi yn ogystal â siop fach ym mron pob stryd ochr. Heb os, y brif siop oedd y Co-op leol oedd yn cynnwys adrannau bwyd, dillad, cig, bara a haearnwerthwr. Roedd gan bob cwsmer ei lyfr co-op a hyn a hyn o gredyd. Rhaid oedd clirio'r ddyled i gyd erbyn `Pen Chwarter'.

Gan fod fy mam ond yn talu ag arian parod ar ddiwedd y chwarter, r'on i dan yr argraff fod yr holl nwyddau yn rhad ac am ddim! Camargraff arall a ges i yn blentyn oedd bod pob tunaid o fwyd Heinz (Heinz 57 Varieties) wedi ei fwriad ar gyfer ein teulu ni am ein bod yn byw yn rhif 57! Byddai'r Co-op yn dosbarthu bara a llaeth yn yr ardal a thalem bob amser â 'sieciau'. Cofiaf yn dda aros yn awchu i weld un o ffilmiau James Cagney yn y sinema leol. Fel arfer, doedd gen i ddim dimai goch ac felly dwgais swllt o bwrs fy mam. Arhosais am awr a hanner yn y gwt ond pan ddaeth fy nhro i brynu tocyn, gallwch ddychmygu sut y teimlwn pan sylweddolais `mod i wedi dwgyd un o sieciau llaeth y Co-op yn lle swllt! Dywedodd y ferch wrth y ddesg, "dyn ni ddim yn derbyn sieciau llaeth." Ar ôl hynny, cofiwn bob amser bod ein pechodau yn sicr o ddod i'r amlwg.

Un o gyn-filwyr Rhyfel y Boer oedd perchen ein hoff siop sglodion. Wrth aros i'r pysgod a'r sglodion goginio byddai'n adrodd inni ei brofiadau yn y rhyfel ac yn aml awn yn fy nychymyg i Kimberley, Orange Free State a Transvaal ar adenydd fy nychymyg. Roedd yr hen filwr hwn wedi colli un o'i fysedd, nid yn y rhyfel, ond trwy ddamwain yn ei siop. Yn aml tybiwn ai dyma oedd y 'fish finger' gwreiddiol!

Hufen iâ
Prynem ein hoff hufen iâ oddi wrth y brachi lleol. Roedd yn bosib cael cornet dimai, cornet ceiniog, waffer dwy geiniog neu un trwchus iawn am bedair ceiniog. Ar lefel uwch eto gallech gael 99 pedair ceiniog, sef dwy wafer yn cynnwys dogn helaeth o hufen is gyda bys trwchus o Cadbury's Milk Flake ynghudd yn ei ganol. Dim ond yn anaml iawn y gallwn fforddio prynu hufen is a chymysg iawn oedd fy nheimladau wrth weld rhywun yn llyfu 99. Er mod i'n eiddigeddus ohonynt byddwn hefyd yn eu hystyried yn rhyw fath o grachach lleol. Ond y Knickerbocker Glory oedd penllanw profiad mwynhau hufen iâ - gwydraid o hufen iâ a ffrwythau wedi ei foddi mewn cordial.

Yn ystod y tridegau byd¬dwn y cymryd rhan yng ngorymdaith flynyddol Dydd y Cadoediad i Eglwys San Pedr, Y Pentre gan wisgo Seren Mons a dwy fedal ryfel fy ewthr yn falch ar fy mrest. Unwaith, gwisgodd ffrind imi ddwy fedal ei ewythr, o'u cyferbynnu â fy nhair i, ond llwyddodd i gipio'r holl sylw trwy wisgo helmed bigog neu 'pickelhaube' a berthynai unwaith i un o filwyr Yr Almaen!

Oherwydd y tlodi cyffredinol, roedd yn ofynnol i fechgyn ysgol ennill rhywfaint o arian. Y tair ffordd glasurol o wneud hynny oedd: gwerthu'r South Wales Echo, siopa dros gymdogion ym mhellafoedd Treorci neu Donypandy neu gario llwyth o lo o'r gwli i'r cwts. Gan nad oedd gwli gan ein stryd ni, cai'r glo rhydd a gludwyd inni gan geffyl a chart ei dipio yn y stryd a rhaid oedd ei gario trwy'r ty.

Siopa a'r Nadolig
Wrth fynd ar ein anturiaethau siopa aem yn gwmni inni naill ai cylch a bachyn neu hen deiar car a byddai'r milltiroedd yn gwibio heibio. Mae Nadoligau fy mhlentyndod yn dal yn fyw yn y cof. Caem de Nadolig yn ddi-ffael fel Siôn Corn i rannu'r anrhegion. Ar noswyl y Nadolig byddwn bob amser yn hongian fy hosan a gwnâi 'Nhad yr un modd. Tra byddai fy un i yn llawn o siocled, orenau, afalau ac weithiau bisyn chwech neu ddau, dim ond cnepyn o lo a photelaid o saws gai 'Nhad.

Byddai pob bacws yn y lle ar agor drwy'r amser i gras teisennod a rhostio coesynnau o borc neu ambell waith hwyaid neu dwrcwn. Ar adegau felly byddai perchen bacws yn cael ei ddyrchafu i'r un lefel â rheolwr y pwll glo neu weinidog gan mor bwysig ydoedd. Cofiaf yn dda i'r hen wraig, fy mam-gu, ennill raffl yn un o'r tafarnau lleol. Brysiaf i ychwanegu taw fy ewyrth oedd wedi prynu'r tocyn drosti gan na fentrai gwragedd i dafarnau yr adeg honno. Ei gwobr oedd potelaid anferth o wisgi a osodwyd mewn cornel o'r pantri i'w ddefnyddio at ddibenion meddygol yn unig. Nesaf ati safai potelaid o finigr a chofiaf yn dda sawl pryd o samwn tun a sglodion a'r sglodion wedi eu blasu â wisgi!

Byddai matinee yn rhad ac am ddim i'r plant adeg y Nadolig yn ein sinema leol. Wrth fynd i mewn caem siocled, afal neu oren. Defnyddiai'r bechgyn eu harian Nadolig i brynu basgeidiau mawr o gnau mwnci ac yn yr egwyl rhwng y brif ffilm a'i rhagflaenydd, ymladdai bechgyn y gwahanol bentrefi gan daflu plisg y cnau at ei gilydd. Byddai'r merched yn ymgroesi rhag gwneud y fath beth, yn gwrthod rhyfela fel gwrthwynebwyr cydwybodol da!

Cymylau rhyfel
Yn anaml iawn y gwelwn awyren uwch ein pennau yn y Rhondda yr adeg honno ac roedd gweld ysgrifen yn yr awyr yn brofiad prinnach byth. Mam oedd y gyntaf i weld y llythrennau, P i ddechrau a'i hymateb cyntaf oedd tybio taw arwydd oddi wrth Dduw ydoedd. Ond stynt gan gwmni Persil ydoedd mewn gwirionedd gyda llythrennau'r cwmni powdwr golchi yn cael eu ffurfio gan fwg gwyn a chwydwyd o gwt awyren ddwbl.

Yn 1937 aeth fy nosbarth ar ymweliad â sŵ Bryste a phont grog Clifton. Teithion ni'n syth yno ar y trên a chofiaf i dwnel Hafren adael argraff ddofn arnom. Y flwyddyn ganlynol ymwelon ni â Stratford-upon-Avon a mynd ar hyd yr afon mewn cwch at Theatr Goffa Shakespeare. Yn anffodus, cafodd fy nghap newydd, roedd fy mam ond wedi ei brynu'r diwrnod cynt yn y Co-op, ei fwrw oddi ar fy mhen a diflannu o'r golwg am byth o dan y dyfroedd. Gwell atgof o'r daith arbennig hon, fodd bynnag, oedd galw yn siop Woolworth Stratford lle roedd crwbanod ar werth. Roedd helpu eich hun mewn siop yn rhywbeth newydd i ni, heb orfod talu tan ichi gyrraedd y til.

Wrth i'r tridegau symud yn eu blaen, gwelem gymylau rhyfel yn cryn¬hoi uwchben. Yn 1939 yr unig gorff milwrol yn y Cwm oedd Uned Diri¬ogaethol Gwrth awyrennau yn Y Pentre. Hefyd, yn ymyl grin bowlio Parc y Gelli roedd dau wn maes Almeinig o'r Rhyfel Fyd Gynta£ Ond gyda dechrau'r rhyfel; cofiaf y llyfrau `rations' a'r mygydau nwy yn cael eu dosbarthu a war¬deniaid cyrchoedd awyr yn cael eu penodi. Caem em hyfforddi gan y rhain sut i ddefnyddio pympiau dŵr llaw a ddefnyddid i ddiffodd mân danau. Uchafbwynt yr arddangosfa hon ar gae pel-droed yr Ynys oedd gollwng nwy dagrau er mwyn profi effeithlonrwydd y masgiau a gawsom gan y wardeniaid. Yn anffodus, doedd neb wedi rhybuddio'r gwylwyr oedd wedi crynhoi i ddod â'u mygydau a phan gariodd chwa o wynt y nwy i gyfeiriad y bobl hyn, gan effeithio ar eu llygaid a'u ffroenau, rhuthron nhw fel cenfaint o foch o gyfyl y lle.

Hunangofiant Glöwr: Rhan 1
Hunangofiant Glöwr: Rhan 2

Gan Tom Jenkins, Ynyswen. Wedi ei olygu gan Hugh Davies.


Coal House
Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy