BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Llun o Ben James Hunangofiant Ben James
Mawrth 2008
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ben James, 92 oed a brodor o Gwmparc, sydd wedi byw ers blynyddoedd yn Nhreherbert, ei hunangofiant.

Cafodd fywyd amrywiol, diddorol a chyffrous a braint yw cael cyhoeddi detholiad o'i brofiadau yn Y Gloran dros y misoedd nesaf.Dechrau'r Daith - fy Rhieni

Ces i fy ngeni ar y 19eg Rhagfyr 1915 yn Stryd Tallis, Cwmparc yng nghanol holl helbul y Rhyfel Byd Cyntaf. Fi oedd yr ifancaf o bedwar o blant, ond pan oeddwn ond ychydig fisoedd oed, symudodd y teulu i dŷ mwy mewn stryd gyfagos, sef Woodland Terrace.

Ces i fy mreintio â rhieni arbennig. James James neu Jim Jim, fel y'i hadnabyddid yn yr ardal, oedd fy nhad a oedd yn gerddor dawnus. Er i fod i raddau helaeth yn hunanaddysgedig, llwyddodd i ddod yn Gymrawd o Goleg Tonic Sol-ffa Llundain - F.T.S.C Ganddo ef y ces i fy niddordeb innau mewn cerddoriaeth. Ar nos Fawrth, byddai yn cynnal dosbarth yng nghapel Salem lle y dysgai pobl sut i ddarllen cerddoriaeth a'i gwerthfawrogi. Dros y blynyddoedd, daeth nifer o arweinyddion corau'r Cwm ato i dderbyn hyfforddiant gan ei fod yn arbenigo mewn technegau canu corawl. Roedd ei ddylanwad ar y teulu'n fawr iawn gan i Bessie, fy chwaer ddatblygu'n gyfeilyddes fedrus a chwaraeai fy mrawd, Waldo, a weithiai dan ddaear, y ffidl yn dda iawn.

Fy Mam

Gwraig tŷ gyffredin, fel y rhan fwyaf o wragedd tebyg yn yr ardal, oedd Mam - yn gweithio'n ddi-baid o fore gwyn tan nos. Yn ein tŷ ni roedd tri glöwr, a phob un ohonynt yn gweithio gwahanol sifft, dydd prynhawn a nos. Ar gyfer pob sifft, disgwylid iddi baratoi bocs bwyd, yn cynnwys bara a chaws fel arfer a llond jac o ddŵr i dorri syched. Dechreuai'r sifft dydd am 6 o'r gloch y bore, sifft prynhawn am 2p.m. a'r nos am 9 p.m. Golygai hyn fod rhaid i Mam godi am 5 o'r gloch bob bore i gynnau'r tân a pharatoi brecwast i'r cyntaf. Wrth i'r tri ddychwelyd adref, roedd disgwyl bod bwyd yn barod ac o ganlyniad byddai wrthi drwy'r dydd yn coginio. Rhaid cofio nad oedd na nwy na thrydan ar gael yn y tai yr adeg honno a choginiai bopeth yn y ffwrn wrth ochr y lle tân. Mewn sosban ar y tân glo y berwai'r llysiau.

Ar ben hyn, wrth i'r gwŷr ddod adref, roedd disgwyl bod llond bwced o ddŵr wedi ei ferwi'n barod i'r arllwys i'r twb sinc o flaen y tân er mwyn iddyn nhw gael bath. Gwnâi hyn yn feunyddiol, yn ogystal â gofalu amdanom ni'r pedwar plentyn. Erbyn 7.30 roedd rhaid i ninnau gael ein brecwast cyn mynd i'r ysgol a byddai Mam bob amser wedi paratoi bobo becyn o frechdanau inni at amser cinio. Byddai hefyd yn rhoi 2 geiniog yr un inni i brynu dysglaid o de neu goco. Erbyn inni gyrraedd adref am 5 pm, byddai cinio blasus yn ein haros yn ddi-ffael. Roedd ei diwydrwydd yn ddiarhebol!

Glanhau

Nid ar chwarae bach y gallai gwragedd yn y cyfnod hwn gadw'r cartref yn lân. Doedd dim peiriannau golchi, cypyrddau rhew nag unrhyw offer i'w harbed fel sydd gennym heddiw ac roedd golchi dillad gwaith tri o löwyr yn gyson yn dasg anferth ynddi ei hun. Er gwaethaf ei llafur dibaid a chaledi cyffredinol y cyfnod, rywfodd neu'i gilydd llwyddai Mam i ffeindio amser a nerth i helpu cymdogion pan fyddai alw. Roedd cymwynasgarwch yn rhan annatod o'i phersonoliaeth. Prin y cai gyfle i gysgu gan nad oedd y sawl a weithiai'r sifft nos yn cyrraedd adref tan wedi 11 p.m. Roedd hi'n anodd iddi fynd dai rhaid iddi godi unwaith eto am 5am.

Efallai nad oeddem yn cymryd llawer o sylw o hyn ar y pryd gan taw digon tebyg oedd bywydau gwragedd eraill yr ardal, yr arwyr di-sôn-am-danynt oedd yn sicrhau bod olwynion mawr pyllau'r Parc a'r Dâr yn dal i droi o ddydd i ddydd ac o flwyddyn i flwyddyn. Oeddwn, roeddwn i'n ddyledus iawn i fy rhieni am eu gofal drosom ac am osod sylfeini cadarn ar fy nghyfer ar ddechrau'r daith.

  • Mwy o hanes lleol
  • Hunangofiant Glöwr: Tom Jenkins

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy