BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Mai 2007 Hunangofiant Glöwr: 4
Mai 2007
Pedwaredd rhan hunangofiant Tom Jenkins, Ynyswen, yn cofio dyddiau'r Ail Ryfel Byd yn Nhon Pentre.
Hunangofiant Glöwr: Rhan 1
Hunangofiant Glöwr: Rhan 2
Hunangofiant Glöwr: Rhan 3
Hunangofiant Glöwr: Rhan 5
Hunangofiant Glöwr: Rhan 6

Blynyddoedd y Rhyfel 1939 -1945

Mae gen i atgofion byw o dyfu i fyny yn Nhon Pentre yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r rhain yn cynnwys y dogni bwyd, ffurfio'r Home Guard a dyfodiad yr `evacuees' o ddinasoedd mawr Lloegr. Er i mi lwyddo'n ddigon da yn arholiad y 'Scholarship' i allu mynd i Ysgol Bechgyn Y Porth, y `County School" enwog, dewisais fynd i Ysgol Ramadeg y Pentre er mawr siom i fy mam. Fodd bynnag, llwyddais i berswadio fy nhad y byddai mynd i'r ysgol honno yn llai costus o ran teithio a phris dillad ysgol. Cyn i fi orffen fy nghyfnod yn Ysgol Bechgyn y Ton, cofiaf ddosbarth oedd yn cael ei ddysgu ar wahân yn Crawshay Villa, gyferbyn â'r ysgol a hwnnw'n ddosbarth o noddedigion o Lundain a ddysgid gan Mr W.J.Lewin o Ealing.

Roedd symud i Ysgol Ramadeg y Pentre yn 1940 yn dipyn o sioc i'r system gan fod merched yn y dosbarth a chafodd hyn effaith ddrwg ar fy nghynnydd academaidd mewn rhai pynciau! Y prifathro oedd Mr Roy Richards M.A. (Roy Dick) a'm hathro Cymraeg oedd y bardd-ddramodydd a gwleidydd James Kitchener Davies.

Atgofion o'r Rhyfel
Mae rhai o'r digwyddiadau hanesyddol yn ystod fy nghyfnod yn Pentre Sec. yn cynnwys Cwymp Ffrainc, yr enciliad o Dunkirk a Brwydr Prydain. Cofiaf yn dda wrando yn neuadd yr ysgol ar ddarllediad o araith ysgytwol Winston Churchill adeg Brwydr Prydain, `Never in the field of human conflict was so much owed by so many to so few...'

Rwyf hefyd yn cofio cwrdd â fy nghefnder, John Thomas, yn yr ysgol yn 1941. Ymadawodd John â'r ysgol yn 1938 i fynd i'r brifysgol ond cafodd ei alw i ymladd yn 1939 erbyn hynny roedd yn Sergeant Air Gunner yn y Bomber Command. Bu'n ymosod ar longau yn Norwy a chafodd ei dderbyn fel arwr pan alwodd i'n gweld yn yr ysgol. Yn ddiweddarach yn y Rhyfel cafodd ei gomisiynu yn Swyddog Peilot gan wasanaethu ym Melita (Malta) a Chanada. Ar ôl y cyfarfod hwnnw yn 1941, welais i ddim mohono tan 1945 pan alwodd i'n gweld yn ein cartref ynghyd â'i wraig oedd yn hanu o'r Alban.

Erbyn hynny, roeddwn yn löwr ym Mhwll Glo'r Gelli yn dod adre i Stryd Parry a'm hwyneb yn ddu gan lwch glo a'm dillad gwaith khaki - sef dillad rhyfel milwr Prydeinig! Roedd John yng ngwisg swyddog yn y Llu Awyr a'i wraig hithau yn lifrai aelod o'r WRAF. Tra bo John yn esgyn tua'r nefoedd, roeddwn i'n gorfod plymio i berfeddion y ddaear.

Cwm Rhondda'n Dioddef Tra oeddwn yn Ysgol Ramadeg y Pentre, cafodd pentref Cwmparc ei fomio gan y Luftwaffe yn ystod noson 29 Ebrill ac yn oriau mân y bore ar 30 Ebrill, 1941. Credaf i 27 gael eu lladd gan gynnwys baban o'r enw John D. Williams a bachgen ysgol, Gethin Williams. Yn ogystal lladdwyd 4 efaciwi, sef John Bonner, Joan Jameson a'i dau frawd, George ac Arthur.

Roedd 'Nhad ac Wncwl Will, ein lodjer, yn löwyr ym Mhwll y Parc ac roedden nhw newydd gyrraedd wyneb y pwll pan ddechreuodd y cyrch awyr. Rwy'n eu cofio'n dweud bod y bomio'n eu hatgoffa o'u amser yn filwyr ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cerddais i Gwmparc ar brynhawn 30 Ebrill 1941 a sefyll yn Strvd Treharne a gafodd y difrod gwaethaf. Gwelais blat tseina yn sefyll yn gyfan ar silff ben tân oedd wedi ei ddinistrio bron yn llwyr.

Y noson gynt, 29 Ebrill, cofiaf gysgodi yn ein noddfa bersonol - y pantri! - a Mam-gu yn cuddio o dan ford y gegin yn erfyn ar Dduw mewn gweddi pan darodd y bom cyntaf Lyfrgell Ystrad Rhondda nid nepell i ffwrdd. Yn anffodus, lladdwyd gwraig y llyfrgellydd, Mrs Roach.

Yn ystod Brwydr Prydain cofiaf sefyll yn Stryd Parry a gweld Spitfire a gafodd ei difrodi yn ystod brwydr awyr yn plymio i'r ddaear ar Fynydd y Maendy. Os fawn y cofiaf, roedd un o'i hadenydd wedi torri i ffwrdd ac wedi cwympo mewn cae tatws ger Ysbyty Pentwyn. Bu farw'r peilot a ddeuai o Seland Newydd.

Prinder Bwyd
Un o nodweddion pwysig blynyddoedd y rhyfel oedd y dogni bwyd. Doedd byth ddigon ond deuai'r siopau pysgod a sglodion i'r adwy yn aml gan aros ar agor yn hwyr y nos. Rwy'n cofio siop sglodion Carter yn Heol yr Eglwys yn dda oherwydd bob dydd Iau newidiwyd yn arlwy arferol o bysgod a sglods i ffagots a phys! Byddai gofyn inni ymuno â'r gwt yn gynnar iawn gan gludo ein basnau tseina am nad oedd papur ar gael chwaith adeg y rhyfel.

Ar ôl treulio bron 3 blynedd yn Ysgol Ramadeg y Pentre ymadewais â'r sefydliad hwnnw yn 14 oed i fynd yn brentis at y trefnydd angladdau lleol. Dechreuais waith i geisio ennill fy mara beunyddiol gan dderbyn saith a chwech (37'/2P) yr wythnos am fy ymdrechion.

Ein Byddin Leol!
Un o'r sefydliadau pwysig yr adeg hon oedd yr Home Guard ac un o'u dyletswyddau oedd amddiffyn Swyddfa Bost Ton Pentre bob prynhawn a nos. Un noson oer yn y gaeaf, Sarjent Wilson, aelod pwysig o'n Dad's Army lleol oedd ar ddyletswydd. Yn naturiol, roedd ganddo ddryll, ond yn anffodus roedd hwnnw'n ddiffygiol. Gan ei bod mor oer, gofynnodd i grwt oedd yn digwydd mynd heibio i bicio draw i'w dŷ i nôl jygaid o de.

Am fod siwgr mor brin, defnyddid saccharin and rhaid cofio bod hwnnw ryw 500 gwaith yn felysach na siwgr. Yn ei ffrwst, rhoddodd y wraig ormod o lawer o saccharin yn y jwg. Pan gyrhaeddodd y crwt, roedd y sentri'n dal gwaelod y dryll oedd ynghrog dros ei ysgwydd a'i law chwith. Gan afael yn y jwg a'i law dde, drachtiodd yn awchus ohoni. Erbyn hyn roedd y saccharin wedi toddi gan wneud y te ryw ddeuddeg gwaith yn gryfach na photelaid o wisgi! Cwympodd y dryll i'r pafin a'r holl fwledi'n ffrwydro dros y lle. Dig¬wyddodd hyn am 9.59 p.m., funud cyn diwedd yr ail dŷ yn sinema Neuadd y Gweithwyr gerllaw. Trawodd nifer o'r bwledi gapel Jeriwsalem ar draws y ffordd ond trwy drugaredd dihangodd mynychwyr y sinema'n ddianaf.


Coal House
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy