BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Y diweddar Ben James Hunangofiant Ben James
Hydref 2008
Cafodd y diweddar Ben James fywyd hir ac amrywiol a'r mis hwn mae e'n sôn am rai o'i brofiadau adeg y rhyfel.

Yn 1939 ymunais â'r llynges a dechrau fy nghyfnod o hyfforddiant ar HMS Raleigh yng Nghemyw. Ar ôl bod yno am 12 wythnos, fe'n trosgIwyddwyd i'r prif farics yn Devonport a elwid yn HMS Drake. Ar y pryd roedd cyrchoedd awyr enbyd ar Plymouth a Devonport a chollwyd llawer o fywydau ymhlith y bobl gyffredin a'r lluoedd arfog. Ces i fy nhrwytho yn y grefft o drafod gynnau mawr ac roeddwn yn falch bod gen i grap go dda ar fathemateg er mwyn deall yr holl gymhlethdodau.

Tra oeddwn yn derbyrt hyfforddiant ar HMS Drake, ces i ganiatâd i ddod adref ar 1 Tachwedd, 1940. Ond digwyddodd drychineb wrth imi ddychwelyd. Am 9.50 ar y nos Sul, daliais i'r trên cyflym o Paddington i Penzance yng ngorsaf Temple Meads, Bryste. Arhosodd y trên yn Taunton ond yn fuan wedi inni adael yr orsaf, aeth y trên oddi ar y cledrau. Lladdwyd 27 o'r teithwyr, 13 ohonynt yn aelodau o'r llynges ac anafwyd 56 yn ddifrifol ar ben hynny. Trwy lwc, rown i'n gwbI ddianaf, ar wahân i rywfaint o sioc.

Peryglon y gogledd

Erbyn 1941 roeddwn i'n gwybod y byddwn yn gwasanaethu ar HMS York, llong ryfel newydd sbon, ac ar ôl ei chodi o Glasgow, hwylio i lawr Afon Clyde i gwrdd â gweddill llynges Prydain yn Scapa Flow.

Buom am gyfnod yn profi'r llong newydd gan sicrhau bod popeth yn gweithio i'r dim. Yn dilyn hyn, bu ymarferion trwyadl cyn inni ddechrau ar ein gwaith o hebrwng llongau i Munnansk yn Rwsia.

Ar ryw olwg, roedd wynebu peryglon yr Arctig yn waeth na dim - yr oerfel enbyd, yr unigrwydd llethol a'r ymwybyddiaeth na fyddai gobaith caneri gan unrhyw un i oroesi yn y môr didrugaredd hwnnw pe digwyddai'r gwaethaf.

Trwy gydol yr amser roedd y llongau wedi eu gorchuddio â thrwch o iâ wrth iddyn nhw frwydro'u ffordd trwy foroedd ystormus a ninnau'n ymwybodol bob munud o'r dydd a'r nos o berygl llongau tanfor yr Almaen a chyrchoedd awyr oddi uchod wrth inni ymlwybro'n ffordd yn drafferthus rhwng Prydain a Rwsia. Ein prif waith oedd cyflenwi anghenion milwyr ar y ffrynt yn Rwsia ond gwyddem yn iawn fod llongau rhyfel yr Almaen, Bismark a Tirpitz yn llercian yn un o borthladdoedd Norwy, yn barod i ymosod arnom.

Cludo'r Mawrion

Roedd HMS Duke of York wedi ei dewis yn brif long, neu long arweiniol y llynges, ac roedd 1750 ohonon ni ar ei bwrdd. Treuliais i dair blynedd ar ei bwrdd yn gwasanaethu ar y moroedd digroeso hyn, ond yn 1941 aethon ni a Syr Winstone Churchill a nifer o benswyddogion eraill i'r Unol Daleithiau ar gyfer trafodaethau pwysig â'r Arlywydd Roosevelt. Wedi gollwng ein gwesteion pwysig yn Norfolk, Virginia, dychwelon ni i'n hen bencadlys yn Scapa Flow.

Ychydig iawn o seibiant a ges i ar dir sych yn ystod y rhyfel, ond tristwch mawr i mi oedd darganfod ar un o'r achlysuron prin hynny bod llawer o'm ffrindiau a'm cydnabod wedi eu lladd yn y cyrch awyr a fu ar Gwmparc ar 29 Ebrill, 1941. Cyn hynny, ym mis Chwefror, pan fu rhaid i HMS Duke of York fynd i Rothsyth ar gyfer atgyweiriadau, ces ychydig o seibiant a chyfle i briodi fy ngwraig, Glenys. Ar ôl treulio ein mis mêl am wythnos yn Ystradgynlais o bobman, bu rhaid imi droi nôl i wynebu anghysur Môr y Gogledd yn rhy fuan o lawer.

Helyntion o Bob Rhyw

Yn Awst, 1942 cawsom ymweliad gan y Cadfridog Montgomery a ddywedodd wrthym y byddem cyn hir yn cymryd rhan mewn ymgyrch a allai fod yn drobwynt yn holl gwrs y rhyfel, sef Operation Torch. Ein tasg oedd dinistrio amddiffynfeydd yr Almaen ar hyd arfordir gogledd Affrica lle roedd Rommel a'i luoedd wedi teymasu hyd yn hyn.

Roedd HMS Duke of York yn gweithredu rhwng Algiers ac Iran ac ymosodid arnom yn gyson trwy'r adeg hon gan y Luftwaffe a llu awyr yr Eidal. Serch hynny, llwyddon ni i gael y gorau ar y gelyn o dipyn i beth ac yn sgil hynny bu'n bosib i Montgomery a'r Wythfed Fyddin lanio'n ddiogel.

Pan ddychwelais i Scapa Flow, roedd newyddion drwg yn fy nisgwyl. Derbyniais deligram yn dweud bod fy nhad yn ddifrifol wael ond er imi wneud cais swyddogol i gael mynd adref, fe'i gwrthodwyd. Ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach, ces wybod bod 'Nhad wedi marw, ond unwaith eto gwrthodwyd caniatad imi fynd adref i'w angladd. Trwy drugaredd, llwyddodd Emlyn, fy mrawd hynaf oedd yn y Llu Awyr, i fynd adref. Dyna yn hanes un teulu ddrych o'r amgylchiadau a fodolai gyfnod y rhyfel. Gobeithio na welwn eu tebyg eto. Ond er mor ddrwg oedd pethau, mae'n dda nad oeddem i wybod bod gwaeth yn ein haros cyn inni weld ychydig o oleuni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy