BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Y Cynghorydd Cennard Davies, un o hoelion wyth y Gloran Atgofion Cyn Olygydd
Hydref 2002
Tua chanol haf 1977 ymgasglodd dwr o bobl ifainc ac ambell oedolyn yn ymyl Clwb Rygbi Treorci yn barod i fynd ar daith gerdded oddi yno i ben Mynydd Pentwyn ac ymlaen i Fwlch y Clawdd cyn troi am adref. Taith nodedig oedd hi ai nod oedd codi digon o arian i sefydlu papur bro yng Nghwm Rhondda.

Bur fenter yn llwyddiant a chodwyd tua 150 o bunnau, os iawn y cofiaf, - hen ddigon o arian yr adeg honno i wireddur freuddwyd.

Dewiswyd Gronw ab Islwyn, a oedd newydd ddod yn weinidog yn Hermon, Treorci, yn olygydd cyntaf y papur a fedyddiwyd Y Gloran.

Wn i ddim pwy a feddyliodd am yr enw ond gan taw dyna'r llysenw ar frodorion cysefin y cwm, roedd e'n ddigon addas. Cylch y papur oedd Blaenau'r Rhondda Fawr, ardal a ymestynai o dafarn y Gellidawel (The Star) yn yr Ystrad i Flaen-y-cwm a Blaenrhondda.

Y dyddiau cynnar
Gwaith llafurus oedd rhoi pob rhifyn at ei gilydd yn y dyddiau cynnar hynny gan fod rhaid teipio pob erthygl, ei thorri a siswrn ac wedyn ei phastio ar y dudalen.

Y golygydd oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith hwn, ond yn waeth na hynny, ef hefyd oedd yn mynd â'r copi terfynol at yr argraffydd ac yn gorfod sicrhau bod y papur yn ymddangos yn brydlon.

Glyn Davies, Wattstown, oedd yr argraffydd - crefftwr heb ei ail a pherson hynod o ddymunol ond un na olygai amser na phrydlondeb ddim o gwbl iddo.

Yn aml iawn byddai' n rhaid i Gronw aros yn Wattstown tan oriau man y bore i sicrhau bod Y Gloran yn ymddangos mewn pryd tra bod Glyn yn bwrw mlaen â' i waith heb sylweddoli bod pawb arall yn yr ardal yn cysgu!!

Cawsom dipyn o hwyl wrth y gwaith ac ambell dro trwstan. Rai blynyddoedd yn ôl, a minnau bellach yn golygur papur, bu farw gwr eithaf adnabyddus yn yr ardal.Roedd hi'n adeg Nadolig ac roeddwn i wedi bod yn Siôn Corn yn un o'r ysgolion lleol.

Yn rhifyn mis Ionawr o'r papur, trefnwyd bod teyrnged i'r ymadawedig ynghyd â llun ohono a hefyd llun o Siôn Corn. Yn anffodus, cymysgodd yr argraffydd di-Gymraeg y lluniau ac o dan y pennawd, "Y Diweddar Dan Jones" (ond nid dyna'r enw iawn) roedd llun Siôn Corn.

Ond, chwarae teg i Three Arch Press, yr argraffwyr ar y pryd, fe welodd ochr ddigrif y digwyddiad ac ailargraffodd y rhifyn!

Digon o helynt!
Os cawsom sbort, fe gawsom ambell helynt hefyd. Yr helynt pennaf o bosib, oedd yr adeg pan wrthododd CyngorBwrdeistref y Rhondda i'r Gloran gael ei ddosbarthu trwy'r ysgolion.

Minnau oedd ar fai (os bai, hefyd) am fy mod wedi croesawu buddugoliaeth ymgeiswyr nad oeddyn nhw' n perthyn i'r Blaid Lafur mewn etholiad lleol.

Dadleuais yn y golofn olygyddol nad oedd yn iach bod unrhyw blaid, beth bynnag ei lliw, yn cael rheoli'n ddiwrthwynebiad boed hynny ym Moscow neu Gwm Rhondda!

Cythruddwyd nifer o gynghorwyr lleol a'r Aelod Seneddol, Allan Rogers, a ddywedodd nad oedd y papur ond yn arf yn nwylo Plaid Cymru a'n bod ni yn ceisio dylanwadu ar blant bach diniwed.

Ofer oedd dangos bod y Blaid Lafur yn cael sylw dyladwy o dro i dro a bod yr Aelod Seneddol ei hun wedi ysgrifennu erthyglau i'r papur. Y diwedd oedd inni gael ein diarddel o'r ysgolion ond dal i brynu'r Gloran wnaeth y rhieni ac ni fu dyfodol y papur mewn perygl.

Er bod llawer o faich yn syrthio ar ysgwyddau'r golygydd, allai e' ddim gweithredu heb help llu o bobl eraill, yn golofnwyr, y gohebyddion lleol, dosbarthwyr, ffotograffwyr, trefnydd busnes ac yn bwysicaf y darllenwyr.

Ar hyd y blynyddoedd ces i a'r golygyddion eraill, gefnogaeth y bobl hyn. Gwelsom golofnwyr fel Bob Eynon yn datblygu'n awduron a nifer a ddysgodd y Gymraeg yn datblygu'n ysgrifennwyr cywir a diddorol.

Bu busnesau'r ardal yn gefn i'r papur hefyd a da yw dweud i nifer ohonyn nhw honni bod hysbysebu yn Y Gloranyn dwyn ffrwyth. .

Cyfraniad allweddol Anne Baik
Un person holl allweddol yn fy nghyfnod i oedd Anne Baik ynghyd â Rosa ei merch. Anne oedd yn gyfrifol am gysodi'r cwbl ac am feistroli cymhlethdodau'r offer cyfrifiadurol y buom yn ddigon ffodus i' w cael trwy grant Loteri.

Mae gan Anne ddawn arbennig yn y maes hwn ac rydym yn hynod ffodus ohoni. Gwnaeth ddiwrnod da o waith dros Y Gloran. Diolch o galon iddi.

Os yw'r Gymraeg i bara'n elfen bwysig ym mywyd y Cwm, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal papur bro. Llwyddwyd i wneud hyn yn ddi-dor am chwarter canrif - camp sy'n deyrnged i gnewyllyn o Gymry ymroddgar sy'n mawrygu eu treftadaeth gyfoethog.

Fy nymuniad i a phob Cymro gwerth ei halen, yw gweld Y Gloran yn mynd, obeithiaf y bydd y golygydd presennol yn cael yr un gefnogaeth a'r pleser y cefais i ar hyd y chwarter canrif a aeth heibio mor gyflym.

Y Cynghorydd Cennard Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy