BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Tom Jenkins gyda Roy Noble (ar y chwith) Hunangofiant Glöwr: 5
Mehefin 2007
Pumed rhan hunangofiant Tom Jenkins, Ynyswen (wedi ei olygu gan Hugh Davies). Atgofion o ddechrau byd gwaith a'i ddyddiadu fel glöwr yn y cymoedd, yr oriau hir a'r gwaith caled.
Hunangofiant Glöwr: Rhan 1
Hunangofiant Glöwr: Rhan 2
Hunangofiant Glöwr: Rhan 3
Hunangofiant Glöwr: Rhan 4
Hunangofiant Glöwr: Rhan 6

Byd gwaith a gweithio

Roeddwn yn 14 oed yn gadael Ysgol Ramadeg y Pentre i ddechrau bwrw prentisiaeth gyda threfnydd angladdau o Don Pentre. Cawn am fy llafur y swm anrhydeddus o saith a chwech (sef tri deg saith ceiniog a hanner) yr wythnos! Nid yn unig roedd yn ofynnol imi weld pobl farw ond trin eu cyrff yn ogystal ac o fewn ychydig o fisoedd daeth yn amlwg nad oedd y math hwn o waith yn addas ar fy nghyfer!

Ar y pryd, roedd ffatri eirch gan Jonah Lewis ar ben Stryd Dyfodwg yn Nhreorci ac o'r ffatri hon y cai'r rhan fwyaf o drefnwyr angladdau'r Cwm eu heirch ar ffurf cit nad oedd ond ofynnol iddynt ei hoelio at ei gilydd. Ynddo ceid dwy ystlys wedi eu trin yn amrwd gan beiriant, pren ar gyfer gwaelod a chlawr yr arch, lliain wedi ei frodio i leinio'r tu fewn ynghŷd â dolenni metel ac addurniadau ar gyfer y clawr gorffenedig.

Roedd rhoi arch at ei gilydd yn waith caled gan fod rhaid i fi, fel prentis, lyfnu'r pren amrwd am oriau bwy' i gilydd â phapur tywod. Pan nad oedd angladdau i'n cynnal, roedd rhaid inni arallgyfeirio trwy wneud gwaith saer, cywiro toeau ac ymgymryd â gwaith adeiladu cyffredinol a hyn oll heb gymorth cymysgwyr sment, driliau trydan a llifau.

O ganlyniad i hyn dechreuais weld fy hun fel y caethwas a weithiai galetaf am y swm lleiaf o arian yn y Rhondda! Tua diwedd blwyddyn gyntaf fy mhrentisiaeth gofynnwyd imi symud tunnell o dywod mewn whilber ryw 500 llath o iard goed Timothy yn Llanfoist St draw i iard y trefnydd angladdau yn ymyl hen facws y Co-op y tu ôl i Stryd Bailey. Roedd hi'n aeaf a rhwng y glaw trwm a'r chwysu roeddwn yn wlyb diferu. Digwyddodd `Nhad fy ngweld yn y cyflwr truenus hwnnw a dywedodd wrthyf yn y fan a'r lle i roi'r gorau i fy swydd.

Troi'n Löwr
Bu'n uchelgais gennyf erioed i fod yn löwr ac rown i'n sicr nawr fod fy nghyfle wedi dod. Er gwaethaf amheun Mam, ces swydd gan Mr Arthur David Thomas, M.E., rheolwr Pwll y Gelli. Dywedodd wrthyf am fynd i weld y prif amserwr a ychwanegodd fy enw at weithlu'r pwll a ches ganddo ddau nodyn, y naill i geidwad y lampau er mwyn derbyn lamp a siec lampau a'r llall i'r goruchwyliwr dan ddaear.

Roedd disgwyl i bawb gyfrannu dimai'r wyth¬nos o'u cyflog at gynnal Band Arian Gweithwyr Cory ac un yn unig a gofiaf yn cael ei esgusodi rhag gwneud hyn, sef arweinydd Band Arian Tonypandy! I ddathlu fy nyrchafiad yn löwr cynorthwyol es i siop Isaac Davies yr haearnwerthwr yn y Ton i brynu bocs bwyd metal a jac dŵr. Gofynnais hefyd i'm Hewyrth Will am faco cnoi ond gwnes i'r camsyniad o lyncu'r sudd nes bod fy mhen yn troi. Bob tro ai glöwr o dan ddaear roedd rhaid iddo adael ei siec lampau bersonol a nodai ei rif yn yr ystafell lampau ar wyneb y pwll. Wedi gwneud hyn, cai ei lamp ac ar ddiwedd y sifft cyfnewidiai ei lamp am y siec unwaith yn rhagor.

Ar y pryd roedd tair sifft saith awr a hanner ym mhob pwll yn y Cwm. Dechreuai sifft y dydd am 7 am, y prynhawn am 3 p.m. a'r sifft nos am 11 pm. Byddai'r glöwyr ar y sifft ddydd yn gweithio 6 sifft, tra bod y rheina ar sifftiau'r prynhawn a'r nos yn gweithio 5 sifft ond yn cael eu talu am 6.

Roedd rheolau diogelwch caeth. Ar ôl disgyn y siafft roedd yn ofynnol ichi fynd i'r orsaf gloi lle y byddai'r taniwr yn sicrhau bod eich lamp ynghlo. Roedd gan bob taniwr lamp olew a elwid yn 'ail-gynnwr' gan ei bod yn bosib ei hailgynnu a swits ar ei gwaelod. Y taniwr oedd yn gyfrifol am ddiogelwch y dynion dan ei ofal a defnyddid ei lamp olew i brofi a oedd nwy yn bresennol o dan ddaear.

Pwll y Gelli a Lefel Nebo
Suddwyd Pwll y Gelli lle y dechreuais weithio gan Edmund Thomas o'r Porth yn 1877 a oedd hefyd yn berchen ar Bwll Glo'r Pentre a Thynybedw, sef pwll y swamp yn Nhreorci. O'i gartref, Maendy Hall, Ton Pentre, gallai weld ei dri phwll ond yn 1884 aeth y cyfan yn eiddo i'r brodyr Syr Clifford a John Cory o Gaerdydd, perchnogion llongau a'r rhai a roddodd ei enw i Fand Arian Cory.

Pan ddechreuais ym Mhwll y Gelli gweithiai 800 o ddynion mewn tair adran danddaearol sef De, Dwyrain a Gorllewin. Yn ogystal, roedd lefel enwog Nebo oedd yn enwog am safon ei lo tfl pur a orweddai mewn haenau dwy droedfedd o led a lle y profais i amodau gwaith anodd iawn. Yr is-reolwr yn Nebo ar y pryd oedd Mr W.J.Bryant, M.E,M.M, D.C.M. a bar, un o arwyr y Rhyfel Byd Cyntaf, cymeriad arbennig oedd yn gwbl ddi-ofn.

Pan ddechreuais weithio ym mhwll Y Gelli roedd hen system hedin a ffas wedi ei disodli gan gludwyr siglo a gai ei gyrru gan awyr gywasgedig. Roedd y paniau cludo dur hyn tua 11 troedfedd o hyd ac wrth i 'Fwyngloddio Wal Hir' gael ei gyflwyno i'r pwll, byddai tua 20 o löwyr yn gweithio'n gyfochrog ar hyd ffas tua 110 llath o hyd.

Bechgyn Bevin
Yr adeg hon, er bod llawer o löwyr profiadol yn ymladd yn y rhyfel, roedd y galw mawr am lo yn dal. Er mwyn sicrhau cyflenwad o lo i'r wlad cafodd Ernest Bevin. Gweinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol yng Nhabinet Rhyfel Winstone Churchill y syniad o ricriwtio gwŷr ieuainc i wneud y gwaith. Roedd y rhain hefyd yn mentro eu bywydau a'u hiechyd yn gweithio o dan ddaear. Cofiaf un bachgen Bevin, mab i feddyg o Donypandy yn cael ei gludo yn ôl a mlaen mewn car yn ôl ac ymlaen o bwll Y Gelli gan ei dad - eithriad prin i'r arfer!

Yn 1944 collodd crwt 16 oed, oedd, fel minnau yn löwr cynorthwyol yn Lefel Nebo, ei olwg mewn damwain. Roedd rhaid iddo gael llygaid gwydr gosod ond am fy mod yn ffrind agos iddo ces ganiatad i'w alw'n 'Blue Eyes'. Flynyddoedd wedyn, yn ystod Streic y Glöwyr yn 1984, aeth y person hwnnw, oedd erbyn hynny'n gweithio fel teleffonydd yn y diwydiant glo, ar streic o'i wirfodd, gymaint oedd ei barch i lowyr Cwm Rhondda a'i atgofion am ei gyfnod o ddwy flynedd yn löwr. Fel mae'n digwydd, yr adeg hon roedd fy nau fab yn lowyr ac hefyd ar streic.


Coal House
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy