BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Tom Jenkins yn harbwr San Francisco Hunangofiant Glöwr: 2
Chwefror 2007
Ail ran hunangofiant Tom Jenkins, Ynyswen sy'n cofio yn ôl i'w ddyddiau ysgol, a'r byd diogel ond caled yn Nhon Pentre ei blentyndod.
  • Hunangofiant Glöwr: Rhan 1
  • Hunangofiant Glöwr: Rhan 3
  • Hunangofiant Glöwr: Rhan 4
  • Hunangofiant Glöwr: Rhan 5
    Hunangofiant Glöwr: Rhan 6

    Dyddiau Ysgol
    Yn 1935 symudais yn ddisgybl i Ysgol Fechgyn Iau Ton Pentre. Yn y dyddiau pell hynny ystyrid yr ysgol hon yn un rhagorol gyda llawer o'r plant yn symud ymlaen i wahanol ysgolion gramadeg y Rhondda. Ar ôl treulio pum mlynedd yno o dan yr un athro byddem yn sefyll Arholiad Mynediad y Rhondda - yr Entrance Exam! Bum yn drwm yn nyled i fy athro, Mr Evans, a fu farw o gancr toc wedi i'n dosbarth sefyll yr arholiad.

    Roedd prifathro'r Ysgol Fechgyn yn ddisgyblwr llym a ofnid gan bawb, a llawer yn wir, yn ei gasau. Yn aml byddem yn ei weld yn Nhon Pentre ychydig wedi 9 o'r gloch ar ddiwrnod gwaith yn cario ffon fambŵ, yn debyg i un Charlie Chaplin yn corlannu'r rheiny ohonom oedd yn hwyr i'r ysgol. Bu dylanwad y pum mlynedd a dreuliais yn yr ysgol yn ddylanwad trwm arnaf trwy gydol fy mywyd.

    Roedd y pwyslais ar y tair `R' - darllen, ysgrifennu a rhifyddeg, gyda rhifyddeg pen yn atodiad ychwanegol. Pwysleisid prydlondeb a phresenoldeb yn y dosbarth a chynigid ambell abwyd i gyrraedd safon uchel. Os oedd pawb yn y dosbarth yn bresennol am wythnos gyfan, cai'r disgyblion ffodus awr o bêl-droed ar iard yr ysgol yr wythnos ganlynol. Pe lwyddai bachgen i fod yn bresennol bob dydd am flwyddyn ysgol gyfan, byddai un o'r cynghorwyr lleol yn cyflwyno llyfr iddo yn y Seremoni Bresenoldeb Flynyddol. Dw i'n dal i gofio'r gyfrol gyntaf a dderbyniais am gyflawni'r gamp hon, sef 'Robinson Crusoe' gan Daniel Defoe. Llwyddodd un bachgen i fod yn bresennol bob dydd am bum mlynedd cyfan a chyflwynwyd wats iddo i nodi'r gamp. Aeth yr un bachgen ymlaen i fod yn bresennol 100% yn ei ysgol nesaf ac o ganlyniad cafodd fynd am wythnos o wyliau yn Y Swistir gyda Chyngor y Rhondda'n talu am y cyfan!

    Yr Arholiad
    Yn ystod y bumed flwyddyn caem ein paratoi ar gyfer Yr Arholiad! Roedd pum rhes o ddesgiau yn yr ystafell ddosbarth a phob dydd Gwener byddem yn cael ein profi'n ysgrifenedig ym mhynciau'r 'Scholarship' a byddai'r canlyniadau yn penderfynu ble yr eisteddem yr wythnos ganlynol. Bydden nhw'n graddio'r bedair rhes yn 'Rhagorol', 'Da Iawn', 'Da' a'r 'Twpsod'! Yn fy nosbarth roedd nifer o ddisgyblion rhagorol a rhai twpsod 'talentog' yn ogystal. Aeth un bachgen ymlaen i ddysgu ym Mhrifysgol Montana yn yr Unol Daleithiau ac roedd nifer o'r lleill yn dystiolaeth i effeithlonrwydd regime wedi ei seilio ar ddisgyblaeth, presenoldeb ac ymroddiad.

    Nid gwaith oedd popeth, fodd bynnag. Chwaraeem amrywiaeth o gemau fel 'BackBack', 'Kick the Tin', 'Cops and Robbers', 'Cowbois ac Indiaid' 'Chwilio a Chael' a gemau rhyfel (Prydeinwyr vs Almaenwyr) Roedd pêl-droed, rygbi a chriced yn gemau poblogaidd ac yn ein dychymyg byddem yn Tommy Lawton neu Stanley Matthews, Don Bradman neu Haydn Tanner. O dan ddylanwad y sinemâu cymerem arnom ein bod yn James Cagney neu Errol Flynn, Buck Jones neu Hopalong Cassidy tra bo'r rhai rhamantus yn tueddu i fod yn Ronald Coleman.

    Pleserau Syml
    Cyfyng oedd ein byd yn ddaearyddol ar un olwg ar wahân i drip Ysgol Sul unwaith y flwyddyn i'r Barri, Porthcawl neu Aberafan ond mewn ffordd o siarad teithiem yn helaeth wrth i dipiau a mynyddoedd Cwm Rhondda droi yn ein dychymyg yn Fynyddoedd Du Dakota, Bwlch y Khyber neu fynyddoedd yr Himalaia. Treuliem wyliau'r haf lan y mynydd yn gwersylla mewn pebyll o'n gwaith ein hunain. Bwytem frechdanau jam ac yfem ddŵr tap, ond roeddem yn ddiddig ac yn hapus.

    Byddai rhai a ddenid gan y perygl yn cymryd arnynt eu bod yn Tarzan gan swingio'n ddiwardd ar raffau sgipio wedi eu clymu at ei gilydd, tra bo eraill yn nofio ym mhownd y pwll glo, llynnoedd bychain a gyflenwai ddŵr i uned gywasgu'r pwll er mwyn cynhyrchu awyr gywasgedig i'r peiriannau dan ddaear. Yn aml wrth nofio yn y lleoedd hyn, deuem ar draws cyrff cŵn, cathod a defaid. Lluniem gychod o goed y pwll a fyddai'n troi yn ein dychymyg yn ganŵs ar Lyn Victoria!

    Yn ystod fy mhlentyndod pêl-droed oedd prif atyniad misoedd y gaeaf a'r ddau dîm mawr lleol oedd Ton Town (Ton Pentre) a Phwll y Gelli.

    Cydredai Afon Rhondda, oedd yn dduach yn y dyddiau hynny na drws 10 Stryd Downing, ag ymyl Parc Ynys ac roedd rhaid cael pedwar bachgen yn barod i bysgota'r bêl o'r afon. Roedd gan bob un ohonynt rwyd ac iddi ddolen hir haearn i gyrraedd y bêl. Pan fyddai llif yn yr afon mae'n rhaid bod sawl pêl o'r Ton wedi cyrraedd y môr yng Nghaerdydd. Byddai seindorf arian wrth law i ddifyrru'r dorf cyn gêm, er na chlywais erioed mohoni oherwydd gan nad oedd arian gennyf i dalu i weld y gêm, chawn ond mynd i mewn i weld yr ail arian ac erbyn hynny byddai perfformiad y band wedi hen orffen. Pan chwaraeai tîm Pwll y Gelli, gallech dyngu taw Zwlws oedden nhw gan nad oedd baddonau pen pwll ar gael yn y dyddiau hynny. Byddwn yn edmygu nerth y glöwyr a chwaraeai gêm egnïol o bêl-droed yn syth ar ôl cwpla shifft hir yn y talcen glo.

    Byd Diogel ond Caled
    Byddai giang o fechgyn ym mron pob stryd. Byddent yn ddrygionus ar brydiau ond doedd yr aelodau byth yn fandaliaid nag yn lladron. Roedd camddefnyddio cyffuriau, lladrata a thor-priodas yn anghyffredin iawn yn Rhondda fy mhlentyndod. Rwy'n credu bod yr ysgolion Sul a fynychid gan y rhan fwyaf o fy ffrindiau wedi chwarae ei rhan yn trosglwyddo gwerth rhinweddau fel cariad, parch a gonestrwydd. Enghraifft o'r ymddiriedaeth mewn cymdogion a nodweddai'r gymdeithas y pryd hynny oedd gweld allwedd y drws yn nhwll y clo yn ymyl nodyn yn dweud, 'Wedi mynd i farchnad Pontypridd. Nôl yn hwyrach'.

    Yn gefndir i' m plentyndod roedd digwyddiadau fel Jiwbili Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary, ymddiorseddiad Edward VIII, coroni Siôr VI a Rhyfel Cartref Sbaen. Ymunodd nifer o wŷr Cwm Rhondda â'r Frigad Ryngwladol, gan gynnwys ffrind i Nhad a wasanaethodd fel swyddog meddygol. Fe'i daliwyd gan filwr o Eidalwr, ei garcharu a'i gadw mewn gwersyll yn ymyl Barcelona yn 1937. Cofiaf fod fy nhad yn dioddef o gornwydydd yn ystod haf 1936 a Dr Armstrong yn dweud wrth fy mam am roi powltis twym arnynt. Byddai'n lapio bara twym mewn cydau blawd lliain a'u rhoi ar ei wddwg. Wrth iddi eu symud, daeth yn ymwybodol bod darnau bach yn sgleinio ar y bara. Sylweddolon nhw taw shrapnel oedd hwn oedd wedi mynd i mewn i wegil 'Nhad tra yn ymladd ar Ffrynt y Gorllewin yn y Rhyfel Fawr ryw ugain mlynedd ynghynt.

    Diwrnod i'r Brenin
    Roedd y Coroni yn achos dathlu mawr yn ein stryd. Nid yn gymaint bod Gwŷr y Rhondda yn frenhingar iawn ond am eu bod yn wladgarol ac yn achub y cyfle i anghofio'r Dirwasgiad a'r tlodi affwysol. Cofiaf yn fyw y gystadleuaeth rhwng y gwahanol strydoedd am yr addurniadau gorau. Roedd yn ein stryd ni gerddor oedd erioed wedi cael gwers piano ond a allai chwarae unrhyw beth o'i glywed. Cariwyd ei biano i ganol y stryd a chawsom hwyl fawr yn canu i' w gyfeiliant. Rhoddwyd pram i bob plentyn a aned ar ddiwrnod y Coroni a chafodd pob plentyn fwg yn dwyn llun y Brenin.

    Gan Tom Jenkins, Ynyswen. Wedi ei olygu gan Hugh Davies.

  • Hunangofiant Glöwr: Rhan 1
  • Hunangofiant Glöwr: Rhan 3

  • Coal House
    Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy