BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Tom Jenkins Hunangofiant Glöwr: 6
Gorffennaf 2007
Atgofion Tom Jenkins yn y pyllau glo ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Hunangofiant Glöwr: Rhan 1
Hunangofiant Glöwr: Rhan 2
Hunangofiant Glöwr: Rhan 3
Hunangofiant Glöwr: Rhan 4
Hunangofiant Glöwr: Rhan 5

Byd gwaith a gweithio

Gwaith a rhyfel

Yn ystod fy ieuenctid roedd llysenwau yn gyffredin iawn yn y pyllau glo. Roedd mam un o swyddogion Pwll Glo'r Gelli yn ffrind i Eidales oedd wedi ei dysgu sut i wneud hufen iâ ac o ganlyniad fe gafodd e, druan, ei fedyddio'n Danny Bracchi!

Byddai rhaid ichi fod yn ofalus wrth siarad am fod rhai yn gyflym iawn i fachu ar unrhyw ddywediad a ailadroddid yn rhy aml a'i droi yn llysenw. Er enghraifft, dyna i chi Ivor Have Five ar ŵr a grefai am hoe yn aml a Danny Box o' Tricks a gyfeiriai bob amser at ei offer yn y dull hwn. Byddai ymddangosiad neu ddiddordebau dynion yn cael eu nodi hefyd a dyma sut y gwahaneithwyd rhwng tri Joseph Jones yn yr ardal: Joe Pigeons, Joe Scruffy a Joe Gravy Eyes!

Mae cof hir gan y werin a brofir wrth iddyn nhw lysenwi un o reolwyr y pwll yn Tom Echo am iddo unwaith werthu'r papur nid anenwog hwnnw pan oedd yn grwt yn Nhonypandy. Roedd Dai Muck yn oruchwyliwr yn y pwll ond ar y funud dw i ddim yn cofio'r llysenwau oedd ar rai o'r halwyr oedd yn enwog am eu rhegi a'u byr dymer. Cofiaf un o'r frawdoliaeth hon yn bygwth chwythu'r pwll cyfan i fyny am nad oedd ei geffyl yn gwrando arno gan grefu ar yr un pryd ar bawb o'i gwmpas i roi matsien iddo.

Nôl o'r Rhyfel
Wrth i rai ddychwelyd i'r pyllau glo o'r fyddin, y llynges a'r llu awyr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, byddent yn gwisgo eu dillad milwrol yn ddillad gwaith. Byddai un cyn-beilot yn gwisgo ei got RAF, ac er ei fod bellach yn disgyn i berfeddion daear yn lle esgyn tua'r nefoedd, roedd ei 'esgyll' yn dal i'w gweld yn amlwg ar ei lewysau.

Cofiaf wedyn, fancsmon (oedd yn gyfrifol am y caets a âi â'r glowyr i waelod y pwll) yn gwisgo ei lifrai o'r llynges i'r gwaith. Cocni oedd hwn oedd wedi priodi merch o'r Gelli.

Roedd gen i ffrind oedd yn brif ŵr ambiwlans y pwll. Roedd e wedi gwasanaethu fel swyddog meddygol yn yr India a Giberalter, ac yn ei fyw fedrai e ddim anghofio'r hyfforddiant a gafodd yno. Safai yn stond o flaen rheolwr y pwll a'i saliwtio, nes i hwnnw orfod dweud, 'Jac, dwyt ti ddim yn y fyddin nawr!" Yn ogystal â'r dillad, daeth peth offer rhyfel yn ddefnyddiol yn y pwll hefyd.

Ar ddiwedd y rhyfel, prynodd Thomas Aldridge, gwr busnes blaengar o'r Gelli, nifer o gludwyr gynnau Bren o le a elwid `The Dump', ger Slough. Roedd e wedi cael caniatad i gynhyrchu glo o hen lefel y Bwllfa Ddu a defnyddiai'r Bren Gun Carriers i gludo'r glo oddi yno i ben Heol Bronllwyn. Gan taw menter fach oedd hon, doedd gan y lefel ddim peiriannydd mecanyddol llawn amser, ond cai William Vowles a ddaliai'r swydd aruchel honno ym Mhwll y Gelli, fynd yno ar fenthyg yn ôl y gofyn. Pan ddigwyddai hynny, cai ei gludo yno ar Bren Gun Carrier yn edrych yn debycach i'r Cadlywydd Montgomery na pheiriannydd pwll glo!

Y Pecynnau Bwyd
Os oedd y cludwyr gynnau wedi goroesi eu defnyddioldeb, doedd dim defnydd pellach chwaith i'r pecynnau bwyd amheuthun oedd gan fyddin yr Unol Daleithiau. Roedd y rhain yn flychau pren oedd yn llawn o amrywiaeth o duniau cig a ffrwythau, siocled a sigarennau. Yn ogystal, roedd dwy botelaid o dabledi, y naill i buro dŵr a'r llall yn gallu eich twyllo eich bod newydd gyfranogi o wledd! 'Tabledi Chicago' oedd yr enw ar y rhain.

Roedd gan bob glöwr hawl i brynu un o'r blychau hyn am gini (21/-) gan dalu amdano fesul saith swllt (35c) yr wythnos a dynnid o'i gyflog. Ystyrid hyn yn gryn fargen o gofio bod dogni bwyd yn dal mewn grym ar y pryd. Cyrhaeddodd cyfran Pwll y Gelli o'r bwyd - rhyw 950 blwch - yn hwyr ryw noson aeafol tua diwedd 1945. Mr William John Bryant, M,E,. D.C.M., M.M. isreolwr Lefel Nebo oedd yn goruchwylio'r dadlwytho a minnau'n rhan o'r giang oedd yn gyfrifol am symud y cwbl.

Ein tasg oedd cario'r bocsys trymion hyn bob cam i fyny i swyddfa'r Syrfewr oedd ar lawr uchaf bloc y swyddfeydd, yn union uwchben swyddfa'r Prif Beiriannydd. Yn anffodus, ar ôl stryffaglu i gario tuag 800 i'r or uwch ystafell hon, dechreuodd llawr y swyddfa wegian. Yn yr argyfwng, galwyd ar wasanaeth tîm o goedwyr o waelod y pwll a bu rhaid i'r glewion hyn ddefnyddio eu holl ddoniau i gynnal nenfwd swyddfa'r Peiriannydd. Trwy lwc, arbedwyd trychineb a flynyddoedd wedyn ces i'r fraint o adrodd yr hanes ar sioe radio Roy Noble!

Y Carcharorion
Yn ystod 1946, dychwelodd nifer oedd wedi bod yn garcharorion yn Siapan i weithio ym Mhwll Glo'r Gelli. Bu rhai o'r rhain yn aelodau o'r Tiriogaethwyr a ymarferai ym Marics y Pentre ac a aeth ymlaen i wasanaethu yn 77fed catrawd y Royal Artillery cyn cael eu dal yn garcharorion yng Ngwlad Thai lle y cawsant eu trin yn warthus yng ngwersylloedd rhyfel y Siapaneaid. Des i nabod rhai o'r rhain yn bersonol, pobol fel Stanley Robbins a gafodd ei guro, ei newynu a'i orfodu i weithio sifftiau 12 awr y dydd mewn pwll glo yn Siapan.

Cofiaf, yn ogystal, Snowy Lewis, ysgrifennydd Cangen Cwm Rhondda o Gymdeithas Rheilffordd Burma, a weithiai yn Lefel Nebo a Tom Jones a oedd wedi ennill y Fedal Filwrol. Cafodd un o'r carcharorion hyn, oedd wedi dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod am fisoedd yn graddol wella ar ôl y driniaeth ofnadwy a ddioddefodd, ei ladd gan dram a dorrodd yn rhydd ar waelod y pwll.

Gwladoli
Ar 1 Ionawr 1947 gwladolwyd pyllau glo Prydain gan lywodraeth Lafur Clement Atlee. Ar y diwrnod hanesyddol hwnnw, roedd rhyw 720,000 o löwyr, gan fy nghynnwys i a 'Nhad, yn cael eu cyflogi mewn tua 1,000 o byllau glo. Yn 1947 cynhyrchwyd 186.3 miliwn tunnell o lo ond roedd y gost yn uchel gyda 600 yn cael eu lladd a 2,448 yn cael eu hanafu'n ddrwg. Ym Mhwll y Gelli ar ddydd Calan y flwyddyn honno, darllenodd y rheolwr ddatganiad gan y Bwrdd Glo yn dweud taw ni, y gweithwyr, oedd biau'r pyllau bellach.

Sefydlwyd cynllun pensiynau yn y pumdegau gyda'r gweithwyr dan ddaear yn talu swllt a chwech yr wythnos tuag ato a gweithwyr ar yr wyneb yn cyfrannu swllt y pen. Doedd dim gofyn i unrhyw un dros 65 gyfrannu a chofiaf weld nifer yn eu saithdegau oedd yn dal i weithio. Yn wir, roedd un gŵr 83 oed o Dreorci yn dal i weithio ar wyneb y pwll. Yn wir, dw i'n cofio un gwron a fynnai ddod yn ôl i'r gwaith ar ôl iddo ymddeol yn swyddogol!


Coal House
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy