BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Gloran
Golygfa o Gwm Rhondda Fawr o Ben-rhys Bywyd Gwell Tybed?
Awst 2003
Mae John Evans yn trafod dogfen bwysig a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Un o brif gyfrifoldebau pob llywodraeth leol yw cynllunio ar gyfer dyfodol ei hardal. Yn unol â'r cyfrifoldeb hwn mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer ein hardal ni o dan y teiti 'Bywyd Gwell'.

Sail pob ardal yw ei heconomi oherwydd heb gynnydd ynddi does dim dyfodol hyfyw. Nod y Cyngor yn hyn o beth yw sefydlu, "Rhagor o swyddi 'o safon' a mwy o gyfleoedd gwaith mewn economi cryf sy'n hunanymddibynnol". Yn sicr, amcan clodwiw nad oes modd anghytuno ag ef. Ond, onid oes swn cyfarwydd iddo? Mae'n bur debyg i amcanion Cynllun Datblygu Rhondda a gyhoeddwyd yn y 7Oau, ac yn anffodus efallai, mae'n rhaid inni dderbyn barn yr Athro Maurice Broady a ddywedodd, tra'n gweithio ar y cynllun hwnnw, "...my head and my heart seemed to be running in opposite directions". Hwyrach mai dyma graidd y gwir ynglyn â'n dyfodol a dyma pam mae awgrymiadau'r cyngor ynglyn a dyfodol ein cymdeithas mor bwysig.

Dyma pam mae amcanion 'Bywyd Gwell' parthed ein cymdeithas mor dderbyniol, ac yn ogystal, yr un mor dderbyniol yw'r canllawiau ar gyfer mesur llwyddiant yr amcanion hynny. Er enghraifft, dyma'r nod ar gyfer 'Cymunedau Bywiog' - Rydyn ni eisiau cymunedau mwy bywiog.

Beth felly sy'n gwneud lle bywiog? Siopau sy'n bodloni anghenion pobl yn ogystal a chreu 'profiad siopa' da. Adloniant i bawb o bob oed. Canol trefi a phentrefi sy'n llawn bwrlwm. 'Adeiladau cymuned sy'n cael eu defnydddio'n rheolaidd gan grwpiau a sefydliadau o bob math ac sy'n cael eu gweld fel calon cymunedau.

Digwyddiadau rheolaidd sy'n rhoi'r ymdeimlad o 'berthyn' i gymunedau ac sy'n dod â phawb ynghyd.'

Mae hwn, fel gweddill y ddogfen 'Bywyd Gwell', wedi ei ysgrifennu mewn arddull sy'n rhwydd ei deall ac, yn sicr, fe ddylai unrhyw un sydd a diddordeb yn nyfodol yr ardal hon ei darllen yn ei chyfanrwydd.

Gwelir yr un arddull yn y canllawiau a bennir ar gyfer mesur llwyddiant y nod a osodir uchod, "Mesur llwyddiant - Ardal o gadwraeth natur lleol fesul 1000 o'r boblogaeth. % y cynnydd/lleihad mewn faint o arian sy'n cael ei wario yn y stryd fawr."

Yn yr adran sy'n ymwneud ag addysg, byddai disgwyl rhyw sôn am yr iaith Gymraeg. Yn anffodus, nid oes sôn am yr iaith. A yw'r Cyngor wedi ei hanwybyddu o fwriad? Yn sicr, mae hi'n nodwedd o'n cymdeithas gyda chenedlaethau o blant yr ardal wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng yr iaith. Onid oes eisiau creu cyfleoedd i'r bobl ifainc hyn i ddefnyddio'r iaith mewn amgylchfydoedd anffurfiol os yw'r iaith i ffynnu?

John Evans


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy