BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Dinesydd
Gwyn Briwnant Jones yn trosglwyddo medal y Cymrodorion i Brynmor Jones Cymrodorion Caerdydd
Tachwedd 2009
Agorwyd tymor newydd 2009-2010 gyda noson hwyliog yn festri Eglwys Dewi Sant, pan arwisgwyd ein Llywydd newydd, Brynmor Jones, gan Lywydd y llynedd, Gwyn Briwnant Jones.
Brodor o Lwyndafydd, Ceredigion, yw ein Llywydd eleni, a fu cyn ymddeol yn gyfrifol am Astudiaethau Lleol Llyfrgellydd Dinas Caerdydd, lle bu'n gymorth i gannoedd a chwiliai am wybodaeth.

Cofiem am noson gofiadwy a roddodd i ni rai blynyddoedd yn ôl, pan gawsom nid yn unig gyfoeth o atgofion am gymeriadau bro ond rhestr hir o englynion digri - a'r cyfan ar ei gof.

Gwyddem ymlaen llaw felly fod noson arbennig yn ein disgwyl. A hynny'n wir a fu, a chwerthin ambell un yn ei gynulleidfa'n ymylu at ddagrau!

Fel o'r blaen, roedd y cyfan ar ei gof, gan gynnwys llu o linellau penillion ac englynion. Yn wir, gallai fod wedi mynd ymlaen tan ganol nos i'n diddanu! Dyna'r ddawn ryfeddol sydd ganddo.

Yn y llun, mae ein cynlywydd, Gwyn Briwnant Jones, yn trosglwyddo medal y Cymrodorion i'r Llywydd newydd fel arwydd o'i lywyddiaeth dros y flwyddyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy