BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Dinesydd
Myfyrwyr chweched dosbarth clwb rotari caerdydd O Gaerdydd i Chernobyl
Medi 2009
Yn ystod yr haf a aeth heibio, fe aeth grŵp o fyfyrwyr chweched dosbarth Clwb Brecwast Rotari Caerdydd i Belarws am ddeg diwrnod i wneud gwaith dyngarol.
Roedd y grŵp yn dod o Ysgol Gyfun yr Eglwys Newydd ac o Ysgol Hywel,Llandaf. Y bwriad oedd cyflawni gwaith gwirfoddol yn yr hosbis i blant sydd wedi eu heffeithio gan y ddamwain ymbelydrol yn Chernobyl.

Mae'r Rotari yn cefnogi'r gwaith yn y gwersyll haf. Y prif ddyletswyddau oedd peintio, garddwriaeth, tacluso ac edrych ar ôl y plant.

Lleolir y gwersyll mewn ardal arbennig o hardd yng nghanol cefn gwlad Belarws. Roedd y gweithwyr Belarwsiaidd yn groesawgar iawn, yn cynnig tatws, ciwcymbr a mêl ffres hyfryd o'r fferm drws nesaf yn ddyddiol.

Ar y ffordd nôl i'r maes awyr yn Minsk cafwyd cyfle i weld y ddinas ac i aros yn yr hosbis arbennig sydd wedi gwneud cymaint i helpu'r dioddefwyr dros y blynyddoedd ers y trychineb.

Mewn un rhan o'r adeilad, a adnabyddir fel 'Ystafell yr Angylion', roedd y muriau yn llawn lluniau o blant sydd wedi eu huno wrth aros yn yr hosbis.

Roedd pob un o'r myfyrwyr yn falch eu bod wedi cael y fraint o helpu'r bobl yn Belarws a gobeithio y bydd mwy o unigolion yn cael y cyfle i ymgymryd â'r sialens a chefnogi'r achos gwerthfawr.

Jessica Davies, Ysgol Hywel

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy