BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MAWRTH
29ain Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Dinesydd
Siân yng nghwmni gwragedd un o'r pentrefi, wrth y tap dwr O Gaerdydd i Lesotho
Hydref 2002
Yn ystod mis Medi eleni bu criw o ddeg o wirfoddolwyr o Gymru yn rhan o daith feicio noddedig o amgylch Lesotho, yn enw 'Dolen Cymru-Lesotho'.
Bwriad y daith oedd codi £10,000 tuag at ysbytai ac ysgolion anghenus yn y wlad honno.

Un o'r criw oedd yn gysylltiedig â'r daith oedd Siân Parry Jones a aeth allan fel ffotograffydd, gyda'r bwriad o gynhyrchu fideo i gofnodi'r daith ac i godi ymwybyddiaeth am y wlad.

Yn enedigol o Ddinbych yn Nyffryn Clwyd, mae Siân wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers deng mlynedd bellach, ac yn gweithio i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Dyma ychydig o hanes y daith ganddi.

Cafwyd croeso cynnes a lliwgar iawn wrth i'r criw gyrraedd y maes awyr yn Johannesburg - baneri Cymru yn chwyrlio a chriw o bobol ifanc Lesotho yn ein cyfarch gan weiddi 'Croeso'.

Teithio mewn bws i Lesotho i ddechrau ar y daith feicio lle'r oedd y criw o Gymru yn bwriadu cydfeicio gyda tua ugain Basotho ifanc oedd yn rhan o Glwb Beicio Lesotho.

Taith dros 900 cilomedr oedd hon dros gyfnod o bythefnos. Tipyn o dasg! Nid gwyliau o gwbl!! Yn wir, dwi'n credu fod rhai o'r beicwyr lleol yn disgwyl gweld Tîm Cenedlaethol Cymru yn cyrraedd yn eiddgar i ddechraur ras!!

Dechreuodd y daith yng Ngogledd Lesotho - mewn ysgol uwchradd yn nhref Butha-Buthe, cyn teithio i Oxbow - Mapholaneng - dros fynyddoedd 3250 medr o uchder! Roedd y golygfeydd yn odidog. Rydw i'n sylweddoli nawr pam y cyfeirir at y wlad fel y 'Deyrnas Fynyddig.'

Roedd eraill yn cyfeirio at y daith fel 'Taith To'r Affrig' ac yn wir, ar adegau roeddwn yn teimlo ein bod ar ben y byd - yn llythrennol felly!

Ymlaen i Molumong, St Theresa, mynydd Matabeng, Sehlabathebe, Quacha's Nek, Sekake, Mphaki, Mohale's Hoek, Morija, y brifddinas Maseru ac yna yn ôl i orffen y daith yn ButhaButhe.

Cawsom dywydd amrywiol iawn - gwres cynnes, glaw, mellt a tharanau, cenllysg ac eira trwm. Digon o amrywiaeth felly!

Gweld cymaint ar y wlad
Gwelsom gymaint ar y wlad - mynyddoedd trawiadol y Gogledd, tirwedd ddramatig amrywiol, pentrefi bach anghysbell a golygfeydd anhygoel.

Roedd y dyffrynnoedd yn frith o Rondavelles - tai crwn traddodiadol wedi eu hadeiladu o gerrig a mwd a thoeau gwellt.

Hefyd roedd coed eirin gwlanog yn blaguro'n frith o liw pinc deniadol a bechgyn ifanc yn bugeilio'u praidd ar y mynyddoedd serth yn eu blancedi trwm - y flanced Basotho oedd i'w gweld ym mhob man.

Roedd plant yn ymddangos o bob man yn chwifio eu breichiau ac yn gweiddi am fferins hefyd a ffyrdd a thraciau yn ymlwybro dros dirwedd anhygoel o hardd - ac eto y tlodi mor boenus o amlwg.

Dyma ddelweddau fydd yn aros yn y cof am byth.

Tra roeddem ar ein taith, cawsom gyfle i ymweld â nifer o ysbytai ac ysgolion.

Mae'r angen yn amlwg - diffyg adnoddau sylfaenol, adeiladau gwael, llawer o'r cleifion yn yr ysbytai yn dioddef o T.B. neu H.I.V. sydd yn rhemp yn y wlad.

Angen codi ymwybyddiaeth
Mae angen codi ymwybyddiaeth am y sefyllfa ac angen addysgu'r plant a'r oedolion os oes gobaith i'r sefyllfa wella.

Roedd y plant ifanc yn yr ysgolion yn ymddangos yn hapus iawn, a'u gwên mor barod, ond eto roedd y prinder mor amlwg.

Plant yn yr ysgolion heb offer sylfaenol, plant yn chwarae pêl-droed efo potel blastig gan nad oedd ganddyn nhw bêl iawn.

Da felly oedd gallu rhoi llyfrau, papur, offer ysgrifennu a phêl droed a phêl-rwyd i'r ysgolion ar hyd y daith.

Tra yn Maseru, y brifddinas, cawsom y fraint o ymweld â'r dirprwy Brif Weinidog a oedd hefyd yn Weinidog Addysg, gan drafod yr hyn yr oeddem wedi ei weld.

Esboniodd yntau'r camau y mae'r llywodraeth yn ceisio eu cymryd i ddatblygu'r wlad yn y dyfodol.

Roedd wedi bod yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn ôl ac yn dal i gofio'r croeso a oedd wedi ei dderbyn yn y ddinas.

Trefnu taith i Gymru
Y bwriad nawr yw trefnu i'r bobol ifanc yma gael y cyfle i ddod i Gymru fel y gallwn ninnau estyn yr un math o groeso iddyn nhw.

Yn sicr, mae'n wir dweud i ni gyd gael ein swyno gan y wlad a'i phobol.

Wedi 14 diwrnod o deithio - dros 920 cilomedr dros fynyddoedd urddasol y Gogledd, tirwedd anial y Dwyrain a'r De a phrysurdeb y Gorllewin - daeth y daith feicio arbennig honno i ben. Taith fythgofiadwy i bawb.

Ond dwi'n credu fod pawb o'r un farn nad diwedd y daith oedd hyn ond dechrau ein cysylltiad â'r wlad arbennig hon.

Roedd yn fraint cael bod yn rhan o'r daith a bu'n agoriad llygad go iawn. Mae Lesotho yn wlad mor anhygoel o hardd.

Yn sicr, byddwn yn cofio'r croeso cynnes a gawsom. Mae taith o'r fath yn eich gorfodi i roi popeth mewn persbectif ac yn gwneud i chi werthfawrogi yr hyn sydd gennym - a'r hyn yr ydym yn ei gymryd mor ganiataol.


Erthygl gan Siân Parry Jones




0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy