BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SADWRN
12fed Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Dinesydd
Morynion a Macwyaid y Llys, Mia Pegrum a Nanon Evans a Gwern Evans a Cai Hayes Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Caerdydd
Gorffennaf / Awst 2007
Er gwaetha'r tywydd gwlyb fe gynhaliwyd Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch ar Fehefin l6, 2007.

Medrwn nawr ddweud yn swyddogol gyda balchder bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i'r Brifddinas yn 2008.

Bu'n rhaid newid y trefniadau gwreiddiol o orymdeithio drwy'r brifddinas a chynnal y Seremoni yng nghylch yr Orsedd oherwydd y cawodydd trwm ac felly cynhaliwyd y seremoni ar gampws Athrofa Caerdydd yng Nghyncoed.

Roedd dros 500 o bobl yn y gynulleidfa i wylio'r cyhoeddi yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol fudiadau a sefydliadau'r ardal. Yn ystod y Seremoni cyflwynwyd copi cyntaf o'r Rhestr Testunau i'r Archdderwydd Selwyn Iolen gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Huw Llewelyn Davies.

Dywedodd Huw: "Ffrwyth llafur cannoedd o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn cynorthwyo ar gwahanol Is Bwyllgorau yw'r Rhestr Testunau a mawr obeithiaf y bydd y cystadlaethau'n plesio a bydd cannoedd yn cystadlu'r flwyddyn nesaf."

Un o uchafbwyntiau'r seremoni oedd perfformiad gan ferched y ddawns flodau oedd yn cynnwys merched o ysgolion: Creigiau, Pwll Coch, Melin Gruffydd, Y Wern. Mynydd Bychan, Coed y Gof, Berllan Deg a Mynydd Bychan. Cyflwynwyd y Flodeuged i'r Archdderwydd gan Gwenllian Wyn o'r Eglwys Newydd a'r Corn Hirlas gan Lusa Glyn o Bontcanna.

Yn ystod ei anerchiad mynegodd yr Archdderwydd ei syndod mai teirgwaith yn unig y bu'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn ystod y ganrif ddiwethaf:
"Mawr obeithiaf y daw hi yma yn amlach yn y dyfodol oherwydd fe ddylem fel cenedl ymgynnull yn ein prifddinas yn amlach na theirgwaith mewn canrif".

Tynnwyd sylw ganddo hefyd at y twf yn y Gymraeg yn y Brifddinas ers ymweliad olaf yr Eisteddfod yma yn 1978 a nododd:
"Oherwydd y brwdfrydedd sydd ymysg y Cymry ifanc sy wedi setlo yma yng Nghaerdydd, mae gennych chi sylfaen gadarn i sicrhau prifwyl lwyddiannus y flwyddyn nesaf."

  • Lluniau o'r Ŵyl Gyhoeddi

  • Archdderwydd yn ceryddu

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy