BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Dinesydd
Y Parch Huw Ethall yn torri'r gacen i ddathlu Dathlu 125 Mlynedd yn Minny Street
Gorffennaf 2009
O Ŵyl y Sulgwyn hyd ddiwedd mis Mehefin cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau yn Minny Street i ddathlu 125 mlynedd ers sefydlu'r achos.
Cyfle i'r eglwys ddiolch a dathlu'r hyn a fu, a'r hyn ydym, oedd yr Oedfa Gymun Foreol gan ganolbwyntio ar ddau lun ieuenctid Minny Street yn 1901 a'r criw cyfatebol yn 2009!

Gyda'r hwyr daeth cyfeillion o eglwysi Cymraeg y ddinas atom. Cafwyd oedfa fendithiol iawn gyda'r Gweinidog yn ein tywys i Timotheus II a chanolbwyntio ar "y peth gwerthfawr". Fe'n hatgoffwyd nad bwrw trem yn ôl yw unig ddiben dathlu ond ein hysbrydoli i gynnal y tân i'r dyfodol. Cawsom ein hannog i gynnig ein hunain i'r gwaith o ddiogelu "y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i'n gofal".

Bu edrych ymlaen ers tipyn at ddyfodiad Cyfrol y Dathlu, ac ar nos Lun gyntaf mis Mehefin gwelwyd lansio Llewyrch Ddoe, Llusern Yfory. Mewn ychydig dros gant o dudalennau sy'n cynnwys dros 100 o luniau hen a chyfredol ceir hanes yr eglwys. Mawr yw ein diolch i'r tri golygydd, John Gilbert Evans, Glyn E. Jones ac Iolo Walters ynghyd â Gwasg Gomer am sicrhau fod y gyfrol wedi dod i law mewn pryd!

Yn ystod y lansiad, cyflwynwyd copi cyntaf y gyfrol i'r Parchedig Owain Llŷr Evans gan Ysgrifennydd yr Eglwys, Bethan Jones, a chyflwynwyd copïau gan Owain Llŷr i gynweinidogion yr Eglwys ac i Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, y Parchedig Ddr Geraint Tudur.

Ein Gweinidog wnaeth ein harwain o amgylch y capel yn ystod Cwrdd Gweddi'r dathlu y noson ganlynol; canolbwyntio ar wahanol agweddau o'n haddoliad wrth symud o gefn y capel i'r blaen, ac i'r sêt fawr.

Drwy gydol y mis gwelwyd arddangosfa o luniau a chreiriau hen a chyfredol yn y Festri. Diolchwn i'r gwirfoddolwyr wnaeth dreulio oriau lawer yn hel a didoli'r cyfan, eu gosod allan a'u labeli fel bod pawb yn medru mwynhau eu gweld, eu darllen a hel atgofion.

Cafwyd hefyd dau gyflwyniad gan yr Ysgol Sul. 'Cloc' oedd canolbwynt cyflwyniad y plantos ac fe'n harweiniwyd o un Arglwydd i'r deuddeg disgybl. Cyflwynwyd rhodd o blac pres ganddynt i'w osod yn y pulpud gyda'r geiriau "Syr, fe hoffem weld Iesu". Bu'r plant wrthi'n edrych yn ôl dros hanes a gweinidogaeth wyth gweinidog Minny Street. Neges waelodol yr wyth oedd mai "cariad yw Duw".

Cyflwynwyd rhodd i'r eglwys ganddynt hwythau hefyd plac i'w osod ar ddrws y capel gyda chyfieithiad Elfed ap Nefydd Roberts o weddi a welir yn Eglwys Sant Steffan, Walbrook, Llundain.

Yn ystod y mis cafwyd nifer o oedfaon pregethu pwrpasol a heriol gan ein Gweinidog. Bu Clwb yr Ieuenctid yn treulio amser yn edrych ar yr arddangosfa cyn cymryd rhan mewn cwis, trefnwyd taith gerdded arbennig a chawsom gyfle, dan arweiniad Cylch Madagascar, i ddathlu ein gefeillio ag Eglwys y Tranovato yn yr Ynys Fawr.

Dros gyfnod y dathlu, harddwyd blaen y capel gan faner fawr oedd yn glytwaith o enwau a fu, ac y sydd, â chysylltiad â Minny Street a'r rheini wedi'u gosod at ei gilydd gan Lona Evans i amlinellu croes. Gydol y mis canu emynau a thonau o waith rhai a fu, neu sydd, yn aelodau yn ein mysg y buom - rhai ohonynt yng Nghaneuon Ffydd a Chaniedydd yr Ifanc, ond eraill yn cael eu canu gan gynulleidfa am y tro cyntaf. Yn ei mysg roedd emyn newydd y Parchedig Huw Ethall a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer ein dathlu. Fe fu hefyd yn torri Cacen y Dathlu.

Diolchwn yn ddiffuant iawn i Owain Llŷr am ei holl arweiniad, ei waith a'i frwdfrydedd diysgog dros holl baratoadau'r dathlu.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy