BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Dinesydd
Tim Hartley (canol) yn codi arian i elusen Gôl Baku neu Be!
Ebrill 2009
Tim Hartley yn sôn am ei daith i Azerbaijan i weld y gêm bel-droed ac i godi arian at elusennau plant.
Gallaf glywed y mab yn galw o gefn y car, "Ydyn ni wedi cyrraedd eto?" "Na 'nghariad i" atebaf, "dim ond rhyw 3,500 o filltiroedd i fynd..." A gwir bob gair fydd hi, achos ddiwedd mis Mai byddaf i (a'r mab) ynghyd â chriw o gefnogwyr pêldroed Cymru yn gyrru o Gaerdydd i Azerbaijan, nid yn unig i weld ein tîm cenedlaethol yn chwarae yn y brifddinas Baku, ond hefyd i godi arian at elusennau plant.

Lansiwyd elusen, Gôl!, yn 2002 gan griw o gefnogwyr oedd am wneud gwahaniaeth i'r gymuned leol yn Baku wrth iddynt ddilyn y tîm cenedlaethol. Buom yn ymweld â chartref i blant amddifad gan gynnig anrhegion, citiau pêldroed, teganau a rhoddion ariannol. Daeth ymweliadau o'r fath yn rhan annatod o'r teithiau pêldroed tramor yma. Bellach rydym wedi ymweld ag achosion da mewn ugain o wledydd Ewropeaidd. Rydym hefyd yn trefnu i blant difreintiedig fynychu gemau cartref Cymru yng Nghaerdydd a Wrecsam. Trwy wneud hyn, rydym hefyd yn llwyddo i gynnal enw da cefnogwyr pêldroed o Gymru.

Mae 30 o gefnogwyr Gôl! mewn 10 o gerbydau yn gyrru i Azerbaijan gan ailymweld â rhai o'r cartrefi y talwyd ymweliad â hwy dros y blynyddoedd, yn Fiena, Bwdapest, Burgas a Bratislava. Byddwn hefyd yn treulio dau ddiwrnod yn Kutaisi, ail ddinas Georgia, sydd wedi gefeillio gyda Chasnewydd. Ac wrth gwrs byddwn yn dychwelyd i'r cartref i blant yn Baku lle dechreuodd gwaith Gôl! yn 2002.

Mae croeso i unrhyw gefnogwr ddod yn rhan o Gôl! Ewch i www.golcymru.org Rydym eisoes wedi talu am y car felly bydd eich cyfraniad yn mynd yn syth i'r elusen. Cefnogwch ein hymgyrch i godi arian at Gôl! drwy ymweld â fy nhudalen ar y we www.justgiving.com/ timhartley

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy